Ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yr ydym wedi ymroi i greu amgylchedd cefnogol lle y gallwch fod yn sicr y bydd cwrdd â'ch anghenion wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym yn brifysgol sy'n adnabyddus am y gofal a'r gefnogaeth ragorol a gynigiwn - dyna pam mae gennym boblogaeth myfyrwyr mor amrywiol a record wych o helpu pobl i gyrraedd eu potensial.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod eich profiad yn y brifysgol yn bleserus ac yn rhoi pob cyfle posibl i chi. Bydd ein gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd yn helpu i'ch llywio chi drwy unrhyw anhawster a gewch yn ystod eich astudiaethau ac yn rhoi'r hyder a'r gallu i ddefnyddio y cymorth yn eich bywyd yn y dyfodol.

Gofal Iechyd

Dylai myfyrwyr sy'n byw mewn llety myfyrwyr ac sydd oddi cartref gofrestru gyda meddyg teulu lleol tra'n astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae gwefan GIG Cymru yn darparu gwybodaeth am wasanaethau sydd agosaf at le y byddwch yn byw.

Ar gyfer mân anhwylderau a chyngor gallwch siarad â Fferyllydd neu fynd i wefan GIG Cymru ar gyfer gwybodaeth. Mae yna hefyd linell llinell gymorth 0845 46 47 y gallwch ei ffonio i ofyn am gyngor meddygol.

Mae pobl ifanc sy'n dechrau yn y brifysgol yn cael eu hannog i gael brechiad yn erbyn llid yr ymennydd. Dywed Iechyd Cyhoeddus Lloegr y bydd y pigiad yn helpu i amddiffyn yn erbyn llid yr ymennydd W yn arbennig - math sydd weithiau yn angheuol sydd ar gynnydd. Fel myfyriwr, byddwch yn cymysgu'n agos gyda grwpiau o bobl anghyfarwydd - a gall rhai ohonynt fod yn cario'r haint yn ddiarwybod iddyng. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan eich meddyg teulu.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol fod gwasanaeth 999 neu D ac A mewn ysbytai ar gyfer materion meddygol/anaf sy'n peryglu bywyd megis: anhawster anadlu; amau trawiad ar y galon; colli llawer o waed; anaf difrifol; a llosgiadau difrifol. Ni ddylid ei ddefnyddio fel canolfan galw heibio i weld meddyg os ydych yn teimlo'n sâl, fe'ch rhybuddir y cewch eich asesu ac efallai y bydd rhaid ichi aros 10 awr os yw eich mater yn cael ei asesu yn un nad yw'n peryglu bywyd neu efallai y dywedir wrthych am fynd i feddygfa.

Cwnsela a Chymorth Iechyd Meddwl

Mae bywyd yn y Brifysgol yn gallu bod yn llawn cyffro a gobaith, ond gall unrhyw un ar unrhyw adeg deimlo wedi’i llethu â phroblemau a gall brofi heriau gyda’i iechyd meddwl. Pan rydym yn teimlo fel hyn, gall fod yn ddefnyddiol siarad ag aelod o’r teulu neu ffrind, ond ar brydiau, mae’n haws siarad â rhywun diduedd, megis cwnselydd hyfforddedig neu weithiwr iechyd meddwl.

Gall ein Cwnselwyr profiadol a Chynghorwyr Iechyd Meddwl eich helpu chi i edrych ar eich sefyllfa mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol*, ac fe wrandewir arnoch chi gyda pharch ac ni chewch eich beirniadu. Gallwn eich helpu chi i ddatblygu gwell dealltwriaeth yn bersonol ac o eraill, deall problemau a’ch helpu chi i ddod o hyd i’ch datrysiadau eich hun, a all gynnwys gwneud rhai newidiadau neu ddysgu ffyrdd newydd i ymdopi’n well.

Gallwn hefyd eich helpu chi i ddefnyddio rhwydweithiau cymorth eraill, o fewn y brifysgol ac yn allanol, a chynnig gweithdai a digwyddiadau i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein gwasanaeth ar gael i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru gyda’r Brifysgol ar hyn o bryd (israddedig neu ôl-raddedig), ac mae popeth am ddim.

Os ydych chi’n fyfyriwr yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac eisiau trefnu apwyntiad, cwblhewch y ffurflen ‘Mynediad at Gymorth Bywyd Myfyrwyr a Champws’: wxm.ac.uk/ask 

Cysylltwch â counselling@glyndwr.ac.uk ar gyfer pob ymholiad arall.

*mae rhai eithriadau’n berthnasol

TalkCampus

Gall bywyd myfyriwr fod yn anodd, yn unig a llethol. Os hoffech siarad â rhywun, gallwch gael mynediad i’r ap TalkCampus, rhwydwaith cymorth llesiant ac iechyd meddwl cyfoedion i gyfoedion ar-lein. Mae TalkCampus yma ar yr adegau pan rydych angen cyfaill.

Mae TalkCampus yn darparu cymorth syth bin, rhad ac am ddim ar gyfer eich llesiant ac iechyd meddwl unrhyw amser o’r dydd, yn unrhyw le yn y byd. Mae’r llwyfan yn eich galluogi i fod yn ddienw wrth gael hawl i gymorth gan gyfoedion ledled y byd mewn amgylchedd diogel, effeithiol a chefnogol. Os ydych yn wynebu argyfwng, gallwch siarad yn uniongyrchol â pherson proffesiynol drwy ein llinell gymorth amlieithog 24/7 lle gallwch ymgysylltu â chlinigwyr sydd wedi eu hyfforddi.

Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi frwydro ar eich pen eich hun, gallwch siarad â’ch cyfoedion ynghylch y pryderon a’r heriau unigryw sy’n eich wynebu fel myfyriwr.

Sut i gael mynediad i TalkCampus

Mae’r ap TalkCampus ar gael i bob myfyriwr yn y Brifysgol.

1.    Lawrlwythwch yr ap am ddim o Google Play neu’r App Store
2.    Dewiswch y botwm ‘Sign up’ yn hafan yr ap
3.    Nodwch eich cyfeiriad e-bost prifysgol a dewiswch gyfrinair

Dysgwch fwy ynghylch TalkCampus a sut i ddefnyddio’r ap.

Gadawyr Gofal

Gallwn gynnig cyngor ar ddewis cwrs, chyllid myfyrwyr, gyngor ar lety a gyrfaoedd. Fel rhan o'n cefnogaeth, byddwn yn rhoi cyswllt penodol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda phob math o broblem trwy gydol eich astudiaethau.

Mae eich hawl ariannol a'ch pecyn cymorth yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe ddylai eich Cynghorydd Personol o fewn eich awdurdod lleol allu rhoi gwybod i chi beth yw'r rhain. Yn eich cyfarfodydd dilyniant, dylai chi fanylu yn y drafodaeth eich bwriad i fynd i'r brifysgol. Hefyd, os hoffech wneud cais am unrhyw gymorth ariannol gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, bydd angen rhannu'r wybodaeth hon gyda'n tîm cymorth. Hefyd, ar gyfer myfyrwyr cymwys, mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig bwrsariaeth gwerth £1000, cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Os byddwch yn cael ei adnabod fel gadawyr gofal, byddwch yn gymwys yn awtomatig i gael llety ar y campws, os bydd ei angen arnoch. Yn ogystal, mae gennym nifer o fwrsariaethau llety sy'n cynnig gostyngiad o 50% ar eich costau llety blwyddyn gyntaf yn ein neuaddau (os nad yw'r rhain yn dod o dan eich awdurdod lleol). Ar ben hyn, gall gadawyr gofal hefyd gael contract llety 365 diwrnod trwy gydol eu hamser gyda ni. 

Caplaniaeth

Yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, hwyrach y byddwch yn dod ar draws llawer o faterion sy’n gwneud i chi feddwl mwy am gwestiynau mawr bywyd, neu efallai y byddwch yn teimlo'r angen i gael ‘clust’ rhywun.

Mae’r gaplaniaeth yma i’ch cefnogi chi ac i'ch helpu i siarad am unrhywbeth sy'n pwyso ar eich meddwl, ac i hybu diddordeb yn ochr ysbrydol bywyd yn gyffredinol. Mae Cydlynydd y Gaplaniaeth yn gweithio i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw faterion amrywiaeth a chydraddoldeb sy'n codi ac mae'n fodlon gweld unrhyw un sydd am godi pryderon.

Ar ben hyn, mae ein tîm o Gaplaniaid yma i gynnig y cyfle i chi gael cymorth yn ystod unrhyw adeg anodd sy'n codi yn ystod eich astudiaethau. Ar hyn o bryd mae gennym dîm o gaplaniaid gwirfoddol (Pabyddol, Uniongred, yr Eglwys yng Nghymru, Paganaidd, Islamaidd, Methodistaidd, Efengylaidd, Crynwyr, Un Ysbryd) sydd ar gael i gwrdd â phobl o unrhyw ffydd neu sydd heb ffydd. Gallwch siarad gyda chaplan ynglŷn ag unrhyw beth – ni fyddant byth yn eich barnu chi neu bregethu i chi, ac maent yn hen lawr ar gefnogi pobl mewn amrywiaeth o amgylchiadau. Yn ogystal â'n gwasanaeth ar gampws Wrecsam, mae fel arfer Gaplan ar Gampws Llaneurgain yn ardal y Ddesg Wybodaeth i Fyfyrwyr ar ddydd Mercher – galwch heibio neu gofynnwch yn y dderbynfa am fanylion.

Mae gan y gaplaniaeth Ystafell Dawel galw heibio, sydd wedi’i lleoli ar ail lawr Canolfan Edward Lloyd ar Gampws Ffordd yr Wyddgrug lle gallwch weddïo, myfyrio neu gael llonydd i feddwl.  Fe'i cynlluniwyd yn benodol i fod yn lle cyfforddus ar gyfer pobl o unrhyw ffydd neu sydd heb ffydd, ac mae ar agor i aelodau staff, myfyrwyr neu ymwelwyr i'w defnyddio. (Os ydych chi ar Gampws heblaw Ffordd yr Wyddgrug ac mae angen Ystafell Dawel, gofynnwch yn y dderbynfa a byddant yn falch o ddod o hyd i ystafell addas i chi ei defnyddio.)

Mae ein caplaniaeth hefyd yn trefnu digwyddiadau amrywiol ar y campws drwy gydol y flwyddyn o ddiwrnodau lles, dadleuon a digwyddiadau dathlu i Astudiaethau Beiblaidd a darlithoedd bach ar bynciau sy'n gysylltiedig â ffydd. Mae gennym hefyd gysylltiadau i, a manylion cyswllt ar gyfer, y rhan fwyaf o addoldai lleol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu'n teimlo bod angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni drwy anfon ebost at chaplains@glyndwr.ac.uk, galw heibio’r dawelfan ar ail lawr Canolfan Edward Llwyd (ar agor Llun-Iau, 8:30am – 4:40pm ) neu ffonio 01978 293336.