Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr PGW

Mae'r Brifysgol yn cynnig cynllun ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a addysgir ym mlwyddyn academaidd 2020/21.

I fod yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth, mae gofyn bod y darpar fyfyriwr gwrdd â'r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen astudio ôl-raddedig o'u dewis ac yn derbyn cynnig diamod ar gyfer mynediad i'r rhaglen honno cyn y dyddiad cau, yn ogystal ag amodau ymrestru a chofrestru.

Mae'r hepgor-ffioedd canlynol ar gael i raddedigion Prifysgol Glyndwr Wrecsam sydd am ymgymryd â rhaglen gradd a addysgir llawn-amser neu ran-amser ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.

  • 20% ar gyfer graddedigion sydd wedi cael gradd dosbrth cyntaf
  • 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:1
  • 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:2
Mae disgownt o 10% ar ein cyrsiau ôl-raddedig ar-lein yn unig ar gael i'n graddedigion a gyflawnodd radd gyntaf, 2:1 neu 2:2.

DS: Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau Rhyddfraint neu bartnerol

Sut i wneud cais: Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ac sydd wedi derbyn cynnig lle amodol neu ddi-amod ar raglen astudio ôl-raddedig yn derbyn yr ysgoloriaeth i gynfyfyrwyr yn otomatig ar ôl cofrestru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, defnyddiwch y manylioin cyswllt isod.

Mae telerau ac amodau yn berthnasol, gweler Rheoliadau Ysgoloriaethau Ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.

Cymorth â chyflogadwyedd a gyrfa

Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd ac rydym yn aelod o Gymdeithas y Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion (AGCAS).

Ein gwasanaethau

  • Cyngor ar Yrfaoedd – trefnwch i siarad â Chynghorydd Gyrfa a hefyd EGuidance
  • Swyddi – rydym yn hysbysebu swyddi graddedigion, swyddi rhan-amser, gwaith gwyliau, gwaith gwirfoddol, interniaethau a lleoliadau
  • Digwyddiadau – teithiau bws i ffeiriau graddedigion; cyfweliadau a chyflwyniadau gan gyflogwyr
  • Gwasanaeth am ddim i wirio CV a chais am swydd – cyfle i chi gael rhywun arall i edrych dros eich CV neu’ch ffurflen gais i sicrhau eich bod yn cyflwyno eich hun yn y ffordd orau bosibl
  • Paratoi at gyfweliadau – gallwn eich helpu un-i-un a hefyd trefnu cyfweliadau ffug
  • Mynediad at wybodaeth a dolenni i wefannau graddedigion, cymdeithasau proffesiynol ac awgrymiadau a chanllawiau defnyddiol.

Os hoffech chi daith o amgylch y cyfleusterau, galwch heibio, neu cysylltwch ymlaen llaw os byddai’n well gennych drefnu amser.

Gwybodaeth bellach a manylion cysylltu

Ffôn: 01978 293240
E-bost: careerscentre@glyndwr.ac.uk 

Aelodaeth o’r Llyfrgell

Os hoffech aelodaeth cyn-fyfyrwyr o’r llyfrgell gallwch naill ai ddefnyddio’ch hen gerdyn myfyriwr (os yw hwn yn dal gennych) neu ddefnyddio cerdyn Llyfrgell Wrecsam. Os nad oes gennych gerdyn llyfrgell Wrecsam gallwch wneud cais ar-lein. Er mwyn derbyn eich aelodaeth, e-bostiwch ein llyfrgell ar library@glyndwr.ac.uk i drefnu apwyntiad.

Llogi lleoliad a man cynadleddau

Mae gan Brifysgol Wrecsam Glyndŵr bortffolio o leoliadau a chyfleusterau cynadledda arobryn ac fel cyn-fyfyriwr, gallwch elwa o ostyngiad o hyd at 20% ar eu llogi.

Mae’r cyfleusterau’n amrywio o ddarlithfeydd ac ystafelloedd cyfarfod i leoliad trawiadol Neuadd William Aston (sydd â sain a goleuadau o’r radd flaenaf a seddi i hyd at 890 o bobl) a Chanolfan Gynadledda Catrin Finch (sef ein cyfleuster cynadledda a pherfformio gwerth miliynau o bunnoedd).

Bydd ein tîm Cynadleddau profiadol yn gallu bod yn gyfrifol am ddechrau cynllunio eich digwyddiad a byddant yn sicrhau bod yr achlysur yn un i’w gofio.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod archebu, cysylltwch â’r Tîm Cynadleddau yn uniongyrchol ar:

Ffôn: 01978 293494
E-bost: conference@glyndwr.ac.uk 

Y Ganolfan Chwaraeon

Prifysgol Wrecsam Glyndŵr sydd ag un o brif leoliadau chwaraeon y Gogledd.

Mae ystod eang o gyfleusterau yn y ganolfan chwaraeon ac fel aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam Glyndŵr, cewch elwa o ostyngiad ar y ffioedd aelodaeth.

Os nad ydych eisoes wedi defnyddio’r Ystafell Ffitrwydd, gellir dod o hyd i’r cyfleuster braf llawn golau ar lawr cyntaf y Ganolfan Chwaraeon ar Gampws Plas Coch. Mae yma ardal aerobig gan gynnwys beiciau, melinau traed, traws-hyfforddwr a rhwyfwyr yn ogystal ag ardal sy’n benodol ar gyfer offer gwrthsefyll gan gynnwys bar Olympaidd a detholiad o bwysau rhydd.

Neu, os ydych chi’n chwilio am gyfleusterau i chwarae chwaraeon tîm gyda ffrindiau neu gydweithwyr neu am gynnal digwyddiad chwaraeon corfforaethol neu elusennol, mae aelodau hefyd yn gallu archebu cyfleusterau cwrt dan do ar gyfer ystod o chwaraeon gan gynnwys badminton, pêl-fasged, pêl-rwyd a phêl-droed. Yn ogystal, mae dau gae yn yr awyr agored sydd â llifoleuadau, sef cae sydd â sail tywod ar gyfer pêl-droed a chae â sail dŵr ar gyfer hoci.

I gael gwybod am brisiau, gweler Aelodaeth a Phrisiau. I gael gwybodaeth bellach neu i weld beth sydd ar gael  neu i archebu unrhyw un o’r cyfleusterau, cysylltwch â’r Ganolfan Chwaraeon yn uniongyrchol ar:

Ffôn: 01978 293275
E-bost: sports@glyndwr.ac.uk