Eincyfrifoldebau
Rydym wedi ymrwymo i ddeall a rheoli ein heffaith ar yr amgylchedd.
Ein prif flaenoriaethau yw:
- Integreiddio rheolaeth amgylcheddol i mewn i lywodraethu'r Brifysgol
- Gwella'r gweithdrefnau ar gyfer defnydd effeithlon o adnoddau
- Sefydlu systemau rheoli a fyddai'n gyrru perfformiad
- Creu diwylliant ac ethos cynaliadwy drwy ymgysylltu â staff, myfyrwyr a chymunedau
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn brifysgol foesegol, sy'n gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ein rhanddeiliaid. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr a/neu gynrychiolwyr yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau trwy wahanol strwythurau pwyllgorau'r brifysgol.
Isod mae ychydig o ardaloedd sy'n ymgorffori ein blaenoriaethau, cliciwch ar deitl i ddarganfod mwy.
Content Accordions
-
Bwyd Cynaliadwy
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) yn cydnabod bod effaith fawr ar yr amgylchedd o gynhyrchu a defnyddio bwyd. O ganlyniad, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i leihau'r effaith hon gymaint â phosib, yn unol â Datganiad polisi rheoli'r amgylchedd a chynaliadwyedd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Rydym hefyd yn cydnabod bod gennym ni ddylanwad sylweddol yn ein pŵer prynu i annog ein cyflenwyr a'n contractwyr i leihau effeithiau moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol negyddol sy'n gysylltiedig â chynhyrchion a gwasanaethau a ddarparwn trwy gydweithio â chyflenwyr i annog cynhyrchu a chymeriant o fwyd cynaliadwy ac iach. Mae gennym ni ddangosyddion perfformiad allweddol sy'n cyd-fynd â'n strategaeth fwyd cynaliadwy a ysgrifennwyd i'n contract arlwyo, edrychwch ar ein Meini Prawf Dyfarnu Arlwyo.
Ers mis Awst 2017 mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni arlwyo, Aramark, ac maent wedi parhau gyda chenhadaeth PGW i hyrwyddo cynhyrchion tymhorol a ddefnyddiwyd yn eu bwydlenni ac yn prynu cynhyrchion newydd gallem ni ddefnyddio yn ein cynhyrchiad bwyd sy'n seiliedig ar y fwydlen dymhorol. Maent wedi dod o hyd i ddewisiadau da i gig.
Maent wedi bod yn gweithio gyda PGW i gynnal digwyddiadau sy'n codi ymwybyddiaeth mewn bwyd Iach, Cynaliadwy a Masnach Deg.
Mae Aramark yn prynu cynhyrchion sydd â'r holl wybodaeth berthnasol ar labeli. Mae gan Aramark resipis penodol, felly ceir unrhyw gynnyrch a wneir yn fewnol eu labelu â dyddiadau BB / UB a gwybodaeth alergeddau.
Hefyd, newidiodd Aramark eu cynhyrchion tafladwy ac maent bellach wedi'u cynhyrchu gan Vegware. Maent wedi cyflwyno bowlenni / platiau a mygiau ceramig i gynorthwyo gyda'r gostyngiad ar y taflenni tafladwy a ddefnyddir ar y campws. Mae Aramark wedi parhau â chynllun Keepcup PGW ac ym Medi 2018 cyflwynwyd tâl 20c i'r pris diod os na chafodd y rhain eu defnyddio, fel cymhelliant i brynu un ac maent wedi bod yn cynorthwyo i leihau ein swm o gwpanau / caeadau tafladwy a brynwyd.
Yn Rhagfyr 2017, ddoth Aramark yn arwyddwyr o'r addewid Dinasoedd Pysgod Cynaliadwy, yn gwneud eu hymrwymiad cyhoeddus i sicrhau fod yna bolisi pysgod cynaliadwy gwiriadwy ac fe ddathlwyd hyn gyda PGW.
Dŵr Yfed Am Ddim
Mae ffynhonnau dŵr yfed am ddim ar draws holl safleoedd y brifysgol, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr a'r brif ffreutur. Mae ein gorsafoedd ail-lenwi dŵr am ddim wedi'u cofnodi gyda'r ap Refill i helpu lleihau gwastraff, cynghori cyfleustra, arbed arian a mesur ein heffaith..
Cyfleuster Tyfu WGU
A ydych chi'n frwdfrydig am yr amgylchedd, a hoffech chi gymryd rhan mewn plannu ffrwythau a llysiau eich hun yn PGW? Ewch i'n Campws Llaneurgain i dderbyn rhan mewn un o'n pump poli twneli a rhwng Gorffennaf a Hydref, dewiswch eich afalau eich hun o berllan PGW.
Ceir cyfleuster tyfu Campws Llaneurgain y Brifysgol ei redeg gan gydweithrediad o grŵp tyfu cymdeithasol Flintshare a chymdeithasau PGW BotSoc a ZooSoc. Gallwch gymryd rhan a dysgu am blannu gwahanol hadau, chwalu, trawsblannu a rheoli pla. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o dechnegau garddwriaethol trwy ddeall sut i wneud compost, gwlâu cloddio, yn ogystal â derbyn gwybodaeth am wahanol blanhigion, pryfaid a'r system eco. Rydym bob amser yn chwilio am bobl i gymryd rhan.
Mae gweithio yn y cyfleuster tyfu yn rhoi gwrthdyniad mawr i'ch bywyd prysur a gallwch fwynhau awyr iach wrth gymryd golygfeydd syfrdanol o'n campws gwledig. Mae'n hyrwyddo manteision iechyd meddwl a chorfforol o fod yn yr awyr agored, bod yn gorfforol, bod yn rhan o newid mwy, cyfarfod a chysylltu â phobl ac yn galluogi'r brifysgol i greu cysylltiadau â thyfwyr ac elusennau lleol fel ffordd o ymgysylltu â chymuned fwy.
-
Masnach Deg
Derbyniodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam Statws Prifysgol Masnach Deg ar Ddydd Llun, 29ain o Ionawr 2018. Gwnaeth y Sefydliad Masnach Deg y sylwadau canlynol ar ein cais:
“Da iawn, rydych chi wedi rhoi set o bolisïau hynod o fanwl i ni sy'n dangos yn drylwyr eich ymrwymiad i Fasnach Deg a'r camau a roddwyd ar waith i sicrhau y cynhelir safon uchel o arfer moesegol. Mae eich cymhelliant wedi creu argraff arnom ac mae'n wych gweld y cydweithio posibl â grŵp masnach deg Wrecsam”.
Diolch i'r rhai sy'n dewis Masnach Deg bob dydd a'r rhai sydd wedi gwneud y newid i Fasnach Deg i gefnogi'r ymgyrch hon, gyda'n gilydd rydym wedi llwyddo i ennill statws Prifysgol Masnach Deg. Llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o'r gwaith.
Bydd PGW yn parhau i ymdrechu i ddod yn Brifysgol Masnach Deg fwy cynaliadwy. Ein nod yw hyrwyddo Masnach Deg ar bob cyfle a dilyn egwyddorion y Sefydliad Masnach Deg. Rydym yn bwriadu cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda Masnach Deg yn brif ffocws iddynt yn ystod pythefnos Masnach Deg.
O ran digwyddiadau Masnach Deg yn y gorffennol, rydym wedi achub y cyfle i hyrwyddo Masnach Deg yn ein dyddiau agored drwy gynnwys fflapjac Masnach Deg blasus ynghyd â thaflen yn esbonio beth yw Masnach Deg, pam ei bod yn bwysig a sut y gall pawb wneud gwahaniaeth. Rydym yn trefnu rafflau yn rheolaidd lle gallwch ennill basged Masnach Deg drwy brynu eitem Fasnach Deg a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg gyda'r digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Grŵp Llywio Masnach Deg
Mae'r Grŵp Llywio Masnach Deg a sefydlwyd yn 2017 â chynrychiolaeth gan staff, myfyrwyr a'n cwmni arlwyo Aramark. Cynhelir cyfarfodydd y grŵp llywio ddwywaith y flwyddyn i drafod ac ysgogi gweithrediadau dros Fasnach Deg ar draws y Brifysgol. Mae'r grŵp yn gyfrifol am y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Masnach Deg ac am hyrwyddo cefnogaeth PGW i Fasnach Deg a'r Polisi Masnach Deg. Mae grŵp llywio Masnach Deg PGW hefyd yn mynychu cyfarfodydd Prifysgolion Cymru Masnach Deg i drafod syniadau ar gyfer digwyddiadau ac ymgyrchoedd Masnach Deg.
I gymryd rhan e-bostiwch Gadeirydd y grŵp llywio Masnach Deg – d.powell@glyndwr.ac.uk
Cynhyrchion Ardystiedig Masnach Deg yn WGU
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gwerthu cynhyrchion Masnach Deg yn ei holl leoliadau arlwyo, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr ac yn cynnig cynhyrchion Masnach Deg o fewn cyfarfodydd mewnol ac allanol.
-
Gwasanaethau TG
Mae cynaliadwyedd yn uchel ar agenda’r Gwasanaethau TH ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ac mae wedi’i mewnblannu i mewn i’n dewisiadau ar sut rydym yn caffael cynhyrchion a gwasanaethau ac yn rheolaeth a gweithrediad o’r gwasanaethau yna.
Mae llawer o newidiadau wedi digwydd yn barod, ac mae gennym ni gynlluniau i wella’n wastad.
Mae mentrau yn cynnwys:
- Lleihad mewn nifer o argraffydd ar draws y safle drwy gyflwyno mwy o argraffydd grŵp gwaith rhwydweithiol.
- Argraffu dwyochrog yw’r rhagosodiad ar y rhan fwyaf o argraffydd.
- Mae caffaeliad yn cynnwys argraffydd dwyochrog yn safonol ac argraffu eco; mae cyfrifiaduron a derbyniwyd yn defnyddio technolegau prosesu egni llai.
- Newid sgriniau CRT i rai LCD, lleihau defnydd egni.
- Monitro actif o gyfrifiaduron a ddefnyddiwyd, ac mae ymgyrch i ddiffodd dyfeisiadau heb ddefnyddwyr gyda’r nos ac yn ystod adegau anweithredol wedi lleihau gwastraff egni yn fawr. Diffoddiad awtomatig ar amserlen o gyfrifiaduron mewn labiau TG.
- Ailgylchu deunydd pacio cynhyrchion. Cynnydd mewn defnydd o arfau cymorth o bell, yn lleihau trafaelio i beirianwyr TG.
- Gweithrediad o wasanaeth rhybuddio testun SMS i fyfyrwyr, i’w gadw’n wybodus am newidiadau i ddarlithoedd, felly’n lleihau siwrnai gwastraff.
- Adeiladu ystafell cyfarfod di-bapur sy’n gweithredu gliniaduron a sgriniau, a fydd yn lleihau gwastraff papur.
Drwy edrych ymlaen, mae cynlluniau yn cynnwys y canlynol:
- Defnydd o gyfrifiadura cleient tenau i leihau defnydd egni.
- Diffoddiad awtomatig ar gyfrifiaduron.
- Diffodd adrannau o’r rhwydwaith tu allan i oriau gweithio.
- Ymchwilio i ffyrdd o ddefnyddio oeri aer allanol ar gyfer ystafelloedd offer i ategu unedau oeri aer.
- Lleihau’r egni a ddefnyddiwyd i gadw ystafelloedd offer ar y tymheredd iawn.
- Monitro a gwerthusiad manwl o ddeunydd argraffedig i yrru lleihad mewn gwastraff
- Cynlluniau i gynyddu nifer o weinydd rhithwir i leihau defnydd egni.
Gwaredu offer trydannol
Gwaredwn ein hoffer trydanol a chyfrifiadurol i gyd drwy ddefnyddio ein cyflenwr sy’n cydymffurfio â WEEE. Ceir unrhyw beth ar offer neu gydrannau o offer a all eu hailddefnyddio neu ailgylchu eu dileu yn ddiogel a’u hail-bwrpasu. Ceir offer ble nad yw’n bosib eu hail-bwrpasu eu prosesu i ailennill deunydd ailgylchadwy. Mae’r cyflenwr hefyd yn prosesu ein cetris arlliw/inc rydym wedi defnyddio. Mae’r brifysgol, ar hyn o bryd, yn defnyddio CDL.
Gwaredu llyfrau
Ceir llyfrau ar ddiwedd eu hoes eu hailgylchu drwy Better World ble mae’n bosib neu drwy brosesu gwarediad papur. Mae ein cyfleuster cyfnewid llyfrau yn caniatáu i fyfyrwyr cyfnewid llyfrau testun rhyngddynt drwy ddefnyddio gwasanaeth cyfoed i gyfoed.
Argraffyddion a chopiwyr
Mae’r Brifysgol yn dewis cyflenwyr sydd yn gost effeithiol a hefyd gyda strategaeth cynaliadwyedd aeddfed. Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio Ricoh ar gyfer ein Hargraffyddion a Chopiwyr ac o 2017 byddem yn ymfudo i Konica Minolta. Mae’r ddau gyflenwr gydag ymrwymiad actif i gynaliadwyedd sy’n weledol ar eu gwefannau - (1) Konica Minolta (2) Ricoh
Mae gan y brifysgol nifer o fentrau i leihau defnydd o argraffyddion a phapur. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cefnogaeth am gyflwyno aseiniadau yn electroneg
- Cyhoeddi taflenni a phecynnau dosbarth eraill drwy amgylchedd dysgu rhithwir y brifysgol.
- Trosglwyddo deunydd dysgu drwy systemau digidol ar lein.
- Capio’r nifer o dudalennau gall staff argraffu.
- Argraffu dwyochrog fel rhagosodiad.
- Cael gwared ag argraffyddion personol a symud o argraffu grŵp gwaith.
- Argraffu a chasglu argraffiad drwy ddefnyddio rhyddhau argraffiad, sy’n lleihau argraffu diangen.
- Gwybodaeth i ddefnyddwyr ar gostau o swyddi argraffu cyn argraffu i sicrhau for defnyddwyr yn cysidro argraffu mewn ffurf wybodus.
Mae’r brifysgol hefyd yn ceisio lleihau’r deunydd pacio a defnyddiwyd ar gyfer offer cyfrifiadurol. Ar lwythau mawr, rydym yn dewis offer ar baletau, yn lleihau cynhwysydd unigol. Gofynnwn i gyflenwyr ddefnyddio deunydd wedi’i ailgylchu neu ailgylchadwy ble mae’n bosib.
Defnydd pŵer o offer gyfrifadurol
- Mae tymheredd yr ystafell gweinydd wedi’i setio i 25c i leihau costau oeri.
- Ceir cyfrifiaduron eu prynu gyda chyflenwadau pŵer egni effeithlon.
- Rheolir cyfrifiaduron ac offer VDU ar y Campws gyda pholisïau rheoli pŵer i’w diffodd neu aeafu os ydynt yn segur
- Mae offer gweinyddol a storio ar y safle wedi’u rhesymoli i mewn i amgylcheddau gweinydd rhithwir i leihau defnydd egni o lawer o unedau ar wahân.
-
Bioamrywiaeth
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn amddiffyn ac yn cynyddu’r lefel o fioamrywiaeth ledled pob campws.
Mae gan y brifysgol dri champws gyda gwahanol fathau o dir ac maent yn ased gwerthfawr i’r Brifysgol, y gymuned a’r byd naturiol. Rydym yn gweithio’n galed i ddiogelu’r fioamrywiaeth ar ac o gwmpas yr ardaloedd yma.
Dyma’r tri champws:
Wrecsam - Trefol, Llaneurgain - Gwledig, Llanelwy - Arfordirol.
Adroddiad Ecolegol Stryd y Rhaglaw 2017
Adroddiad Ecolegol Plas Coch 2017
Cynllun Gwella Bioamrywiaeth 2020
-
Cyfrifoldebau Cyflogwr
Fel cyflogwr, rydym yn ymrwymo i greu diwylliant cynaliadwy a theg.
Ystadau a Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd
Mae adran Ystadau'r brifysgol yn rheoli ac yn monitro'r amgylchedd mewnol. Mae'r Rheolwr diogelwch, iechyd ac amgychedd yn rôl allweddol arbenigol ac yn rhan annatod o swyddogaeth lwyddiannus y Tîm Rheoli Carbon. Mae'r tîm yn datblygu a chyflwyno Cynllun Rheoli Carbon (CRC) y Brifysgol ac yn integreiddio effeithlonrwydd ynni a chadwraeth dŵr ar draws pob safle i gefnogi cyflawni amcanion busnes craidd. Mae pob agwedd ar gynaliadwyedd yn eitem sefydlog ar y pwyllgor Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd sy'n adrodd yn uniongyrchol i fwrdd yr Is-ganghellor.
Er mwyn cefnogi themâu strategol craidd y Brifysgol, bydd y Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau allweddol canlynol: -
- Blaenoriaeth 1 - Lleihau Carbon
- Blaenoriaeth 2 - Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd Amgylcheddol
- Blaenoriaeth 3 - Partneriaeth ac Ymgysylltu
- Blaenoriaeth 4 - Effaith amgylcheddol yr Ystâd
- Blaenoriaeth 5 - Sicrhau Ansawdd
Mae Rheolwr diogelwch, iechyd ac amgylchedd yn gyfrifol am waredu a monitro gwastraff cyffredinol a gynhyrchir yn y brifysgol ac i gydymffurfio â deddfwriaeth. Mae'r RhGC yn gweithredu ac yn adolygu'r gwasanaeth Rheoli Gwastraff yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn cefnogi ac yn cyfrannu at wella nodau ac amcanion amgylcheddol.
Yr adran DIA yw gyrwyr prosiectau ac amcanion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n meincnodi yn erbyn sefydliadau tebyg. Mae'r tîm yn sicrhau bod adrannau yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol ar gyfer y brifysgol a chaiff system rheoli amgylcheddol ei gyflawni.
Mae adrannau unigol yn gyfrifol am waredu gwastraff eu hunain, yn unol â deddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol gyfredol.
Mae'n ofynnol i Adrannau Gwasanaeth Academaidd a Phroffesiynol:
- Lleihau allyriadau carbon trwy arferion gwaith
- Ymgorffori datblygiad ac ymwybyddiaeth gynaliadwy i'r cwricwlwm
- Rheoli a lleihau'r gwastraff a gynhyrchir
- Lleihau effaith y brifysgol ar ofynion teithio lleol, cenedlaethol a byd-eang
- Cadw a gwella'r cynefinoedd naturiol, bywyd gwyllt lleol ac amrywiaeth fiolegol ar safleoedd prifysgol
- Sicrhau bod caffael yn cael ei wneud mewn modd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol
Hyfforddiant
Mae pob aelod o staff a myfyrwyr newydd yn mynychu hyfforddiant diogelwch, iechyd ac amgylcheddol yn ystod mis cyntaf eu cyflogaeth neu bythefnos y glas fyfyrwyr ym mis Medi. Mae'r wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar gyfrifoldebau amgylcheddol a chynaliadwyedd staff a myfyrwyr yn y brifysgol.
Darllenwch mwy am hyfforddiant
Edrychwch ar ein polisi caffaeliad
Gallwch dderbyn gwybodaeth ychwanegol gan energy&sustainability@glyndwr.ac.uk
Cyflog Byw
Mae'r Brifysgol wedi gwneud ymrwymiad i weithredu Cod Ymarferol Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwad sy'n argeisio fod pob sefydliad sector cyhoeddus a phrifysgolion yng Nghymru yn ymrwymo i ragor o arferion cyflogaeth foesegol gan gynnwys cysidro talu Cyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw fel lleiafswm i'w staff i gyd; ac i annog eu cyflenwyr i wneud hefyd.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i dalu Cyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw fel lleiafswm i'w staff i gyd a chaiff hwn ei wneud yn ystod y flwyddyn academaidd 18/19. Bydd y Brifysgol hefyd yn sicrhau, fel rhan o unrhyw drefniadau gwasanaeth wedi'u cytuno, er enghraifft i ddarparu gwasanaethau glanhau, arlwyo a diogelwch, fod, ar adeg ail-dendro, bydd contractwyr hefyd yn ymrwymo i dalu Cyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw.
Gallwch ddod o hyd i ni yma - Cyflogwyr achrededig y cyflog byw
Cadwyn Cyflenwad
Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gaffael Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae hwn wedi’i gynllunio i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel yn cael eu darparu ledled Cymru gan weithlu sy’n cael ei drin yn gyfreithlon, yn deg ac yn ddiogel, ac sy’n cael ei wobrwyo’n dda. Mae’r Cod hwn yn cynnwys ymrwymiad i ystyried hyrwyddo’r Cyflog Byw mewn contractau perthnasol.
Mae tystiolaeth o arferion gwaith teg yn cynnwys:
- Polisi cyflog teg a chyfartal sy'n cynnwys ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw o leiaf i bob aelod o staff
- Dod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig
- Sicrhau bod yr holl staff yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu
- Hyrwyddo cyfle cyfartal i bob aelod o staff waeth beth fo'u hoedran, rhyw, anabledd, crefydd, hil a chyfeiriadedd rhywiol
- Cyflogaeth sefydlog, gan osgoi defnydd amhriodol o gontractau dim oriau, a chwmnïau cyflogaeth ambarél
- Trefniadau gweithio hyblyg i ganiatáu cefnogaeth i ofalwyr, ac ar gyfer gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd
- Cefnogi ymgysylltiad y gweithlu, er enghraifft cydnabyddiaeth a chynrychiolaeth Undebau Llafur, neu drefniadau eraill ar gyfer grymuso staff.
Menter am gyflogaeth foesegol yn y gadwyn cyflenwad