Mae defnyddio'r brifysgol fel Labordy Byw yn golygu defnyddio'ch cyfleusterau ymchwil academaidd a myfyrwyr i ddatrys cyfrifoldebau cymdeithasol a materion cynaliadwyedd yn ymwneud â seilwaith ac arferion Prifysgol Wrecsam.

Labordy Byw – y prosiectau diweddaraf 2022

Cyflwynodd myfyriwr Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy gais llwyddiannus i’r labordy byw am arian i ymchwilio i brosiect yn ymwneud â chynhesu dŵr â gwres yr haul.

Nod y prosiect oedd ystyried pa mor fasnachol hyfyw fyddai gosod technoleg ar gyfer cynhesu dŵr â gwres yr haul ym mhrif gampws y brifysgol. Os bydd y prosiect yn llwyddiannus, ei nod yw profi y gallai cynhesu dŵr yn y fath fodd i gyflenwi dŵr poeth – naill ai yn syth trwy’r tap neu trwy ddefnyddio dull cyn-gynhesu mewn boeler – fod yn ddewis ‘carbon isel’ amgen ac effeithiol yn hytrach na defnyddio nwy. Rhoddwyd arian i’r prosiect ar gyfer prynu a graddnodi teclyn cofnodi data er mwyn casglu canlyniadau’r treial.

Lab Byw - Cysyniad ymchwil

Ydych chi am ddefnyddio'r Brifysgol fel astudiaeth achos neu 'brofi tir' ar gyfer eich ymchwil, traethawd hir neu draethawd blwyddyn olaf?

Oes gennych chi syniad neu brosiect o gynaliadwyedd yr ydych am ei ddechrau a fydd o fudd i'r Brifysgol a'i fyfyrwyr?

Os mai "ydi" yw'r ateb, yna byddem wrth ein boddau clywed gennych ...

Mae cronfa prosiect y Lab Byw yn rhoi cyfle i fyfyrwyr PW wella cynaliadwyedd amgylcheddol ar ystadau'r Brifysgol trwy gynnig hyd at £300. Gellir defnyddio'r arian i gefnogi pynciau fel gwastraff, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, bwyd, diwylliant, ynni, newid ymddygiadol, lles ac ati.

I wneud cais, ewch i WgSU

Cynaliadwyedd mewn Anthropoleg Fforensig - y prosiectau 2023

Nod y prosiect hwn oedd cyflwyno ffordd hawdd a chynaliadwy o lanhau esgyrn anifeiliaid, yn hytrach na defnyddio cemegau i lanhau’r esgyrn. Bu’r prosiect hwn o gymorth i mi wrth gynnal fy astudiaeth beilot yn ystod fy MRES. Cawsom chwilod croenysol ac rydym wedi rhoi cartref iddynt yn y labordy fforensig. Maent yn ffynnu ac yn lluosogi yn y gobaith o sicrhau bod yr adnodd hwn ar gael i fwy o fyfyrwyr, gan fod defnydd iddynt yn y maes fforensig, megis wrth ddadansoddi marciau offer. Maent yn parhau i gael gofal gennyf i a’n technegydd Lab, ac rydym yn bwriadu cynyddu’r nifer o fannau caëdig sydd gennym ar hyn o bryd.