Drwy annog ein staff a myfyrwyr i'n cynorthwyo ni i fod yn fwy cynaliadwy a datblygu ein ffocws amgylcheddol.

Y Gweithgor Ymgynghorol ar Gynaliadwyedd yn cyfarfod bob chwarter i adolygu materion amgylcheddol a bwrw ymlaen a'n cynlluniau ar gyfer y maes hwn.

Rydym yn cynnwys staff a myfyrwyr ym mhob ardal o'r agenda gynaliadwyedd, ac yn fuan byddem yn lansio fforwm ar-lein âr gyfer staff a myfyrwyr i drafod a rhannu syniadau ac awgrymiadau.

Os ydych wedi sylwi ar rywbeth, dim ots pa mor fawr neu fach, a allai gynorthwyo i wneud y Brifysgol yn fwy cynaliadwy, cysylltwch os gwelwch yn dda.
Anfonwch e-bost at energy&sustainability@wrexham.ac.uk i gynorthwyo gyda llywio ein polisïau a'n gweithdrefnau.

"Plannu Mwy o Goed"

Bu staff a myfyrwyr yn helpu i blannu dros 100 o goed ar barc Lincoln Close eleni, fel rhan o’n Hwythnos Go Green. Os hoffech chi wneud ychydig o blannu, cysylltwch â ni @woodlandtrust @coedcadwcymru  Woodland Trust Cymru

Tree planting 2023

"Darparu dŵr yfed am ddim"

Rydym wedi bod yn darparu gorsafoedd dŵr yfed am ddim ers nifer o flynyddoedd ond mewn ymgais i hyrwyddo ein gorsafoedd ac annog pobl i'w defnyddio, rydym bellach yn rhan o'r ap Refill ac mae ein gorsafoedd ail-lenwi â dŵr am ddim ar draws ein campysau wedi'u cofnodi gyda nhw.

"Lleihau'r defnydd o blastigau un defnydd"

Rydym yn gweithio gyda Plastic Free Wrecsam i adeiladu cymuned heb blastig. Er mwyn dod yn rhydd o blastig mae angen i ni ddileu o leiaf dair eitem blastig un defnydd a gweithio tuag at ddileu mwy. Hyd yn hyn mae gennym ni;

  • cyflwyno cwpanau a thariffau ail-lenwi ar nwyddau tafladwy,
  • dileu cwpanau plastig o ffynhonnau dŵr,
  • ymuno â'r cynllun ail-lenwi i leihau'r angen am boteli untro,
  • newid i gynwysyddion tecawê vegware a chyllyll a ffyrc,
  • rydym yn edrych i gyflwyno a chynllun cynhwysydd tecawê y gellir ei ailddefnyddio Eco-flwch.

"Gwneud cerbydau’r brifysgol yn rhai trydan"

Mae cerbydau trydan newydd wedi cael eu cyflwyno yn rhan o gyfres o brosiectau datgarboneiddio, economi gwyrdd a Seilwaith dysgu digidol yn y brifysgol. Mae’r fflyd trydan hwn yn cynnwys dau fws mini Vauxhall Vivaro e-life, dau gerbyd cynnal a chadw Nissan e-NV200, dau gar cronfa Nissan Leaf i staff a cherbyd cyfleustodau ar y safle. Mae mannau gwefru cerbydau trydanol ym maes parcio ymwelwyr Plas Coch, mannau gwefru ar gyfer bysus mini/cerbydau cynnal a chadw ger adeilad Undeb y Myfyrwyr, a man gwefru arall ar gampws Regent Street. Mae mannau gwefru cyflym hefyd wedi’u gosod yng nghampysau Llaneurgain a Llanelwy.

"Annog bywyd gwyllt ar y campws"

Mae PGW wedi cofrestru i ddod yn Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n myfyrwyr ac wedi sefydlu Grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod sy'n gweithio tuag at annog draenogod a bywyd gwyllt arall ar y safle. Roeddem yn falch i glywed, ym mis Chwefror, derbyniodd y Brifysgol statws Campws Cyfeillgar i Ddraenogod Efydd. Rydym wedi gosod offer arolygu draenogod yn yr Ardd Gwyddoniaeth - twnnel gydag ychydig o bapur carbon maent yn cerdded arno fel eich bod yn gweld argraff o'u pawennau. Pan gafodd yr ardd ei hadeiladu, roedd hefyd yn cynnwys "priffordd draenog" sef ychydig o dyllau yn y ffens gallent fynd trwy i ymuno'r llefydd gwyrdd i gyd.

Oes gennych chi ddiddordeb ymuno â'r Grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod? Gyrrwch e-bost i ni at sustainability@wrexham.ac.uk

A hedgehog in the grass

"Ymrwymo i gyflogaeth foesegol"

Mae'r Brifysgol wedi gwneud ymrwymiad i fewnosod Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwynau Cyflenwi Llywodraeth Cymru sydd â'r nod i bob sefydliad sector cyhoeddus a phrifysgol yng Nghymru ymrwymo i ystod o arferion cyflogi moesegol, gan gynnwys ystyried rhoi'r Cyflog Byw y Living Wage Foundation fel isafswm i'r holl staff; ac annog eu cyflenwyr i wneud yr un fath.

Gwnaeth Prifysgol Wrecsam ymrwymiad i dalu Cyflog Byw y Living Wage Foundation fel isafswm i'w holl staff ym mlwyddyn academaidd 2018/2019. Yn ogystal, gwnaeth y Brifysgol sicrhau, fel rhan o unrhyw drefniadau gwasanaeth ar gontract, er enghraifft darparu gwasanaethau glanhau, arlwyo a diogelwch, wrth ail-dendro, bod contractwyr hefyd yn ymrwymo i dalu Cyflog Byw y Living Wage Foundation.

"Cynyddu'r nifer o ffynhonnau dŵr yfed"

Mae'r adran Ystadau wedi gosod ffynnon ddŵr newydd yn darparu dŵr tap ac mae wedi'i lleoli ar lawr cyntaf Bloc B ar Gampws Wrecsam.
Mae'r ffynnon yn cyflwyno sawl mantais:

  • Lleihau gwastraff plastig o boteli un defnydd
  • Mynediad haws at ddŵr yfed i Bloc B a defnyddwyr eraill y brifysgol
  • Lleihau'r risg o wastraff yn cael ei ollwng ar y Campws

"Gwella'r mannau wedi'u plannu"

Mae prosiect dan law staff, Claire Doran, Fiona Begg a Kim Johnson i wella mannau wedi'u plannu o gwmpas campysau ac annog mwy o fywyd gwyllt wedi dechrau yn yr ardal decin yn y cwad ar gampws Wrecsam a'r tu allan i'r prif adeiladau ar Gampws Llaneurgain. Ariennir y prosiect yn rhannol gan Weithgor Gweithredu Cynaliadwyedd (SAWG) PGW a chafodd planhigion eraill eu rhoi gan staff, myfyrwyr a Dan Rose. Gwnaethant gais am y cyllid drwy SAWG a chawsant £200 a gafodd ei wario ar amrywiaeth o blanhigion, potiau a chompost. Cawsant gymorth gan Hyrwyddwyr Gwyrdd PGW am fore o blannu. Dywedodd Claire "Ein gobaith yw ysbrydoli aelodau eraill o staff i ddechrau prosiectau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd y gall myfyrwyr a staff elwa ohonynt."

Os hoffech wneud cais am gyllid gan SAWG ar gyfer prosiect sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd, anfonwch e-bost at – energy&sustainability@glyndwr.ac.uk

"Gwella ailgylchu yn y brifysgol"

Ni wnaeth y cyfnod cloi atal ein gwaith i leihau ein heffaith amgylcheddol a dros yr Haf, roeddem yn llwyddiannus i ddiogelu cyllid gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Mae'r gronfa yn anelu i fwrw ymlaen gyda nodau Llywodraeth Cymru i ddod yn Economi Gylchol drwy weithio i waredu plastig defnydd sengl, blaenoriaethu prynu cynnwys deunydd cynaliadwy, wedi'i ailgynhyrchu neu ailgylchu, gwneud defnydd mwy effeithlon allan o'n bwyd ac i ddod yn arweinydd byd-eang mewn ailgylchu - mae ar hyn o bryd yn #3 ar draws y byd!

Defnyddir y cyllid grant i dargedu cynyddu cyfradd ailgylchu i o leiaf 50% drwy:

  • Darparu biniau safonol ar wahân ar draws y campysau i gyd
  • Defnyddio biniau bwyd i wahanu gwastraff bwyd o ffrydiau gwastraff eraill
  • Datblygu rhaglen cyfathrebu i hysbysu am ailgylchu i bobl yn y Brifysgol a'r cyd-destun economi gylchol ehangach.

"Annog mwy o gyfraniad gan staff lefel uwch i hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd cynaliadwy"

Ar gyfer rhan o wythnos Go Green, arweiniodd yr Athro VC Maria Hinfelaar daith feicio o gwmpas y campws yn ystod amser cinio, ac fe adroddwyd ar hyn yn The Leader. Yn ogystal, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Lynda Powell, gymorth i hyrwyddo a mynychodd sesiwn Glanhau Lôn Crispin fis Mawrth.

“Creu mannau gwyrdd newydd a gwella'r rhai sydd eisoes yn bodoli. Eu gwneud yn fannau neu lefydd dysgu cymdeithasol yn yr awyr agored lle gall myfyrwyr a staff ymlacio yn ystod amser cinio etc."

Llwyddodd Techniquest Glyndŵr i gael oddeutu £34K o gyllid i drawsnewid ardal adfeiliedig a gwag o dir yng nghefn yr adeilad LEIS a ddefnyddir gan y Ganolfan Wyddoniaeth boblogaidd ar Gampws Plas Coch y Brifysgol. Mae'r Ardd Wyddoniaeth yn cynnig cyfuniad o fannau wedi'u plannu a nodweddion megis arwynebau sy'n addas i gadeiriau olwyn, gwelyau uchel a llyn, ardal gompostio a nifer o gyfarpar sy'n gweithio sy'n dangos y prif themâu gwyddonol ynghlwm â Bioamrywiaeth, Ynni Adnewyddadwy ac Ailgylchu.

"Mewnosod cynaliadwyedd yn rhan o bob gweithgarwch cwricwlwm"

Mae'n ofynnol i'n myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen, ym mhob pwnc ar draws y Brifysgol bellach, gwblhau modiwl ar sail Materion Cyfoes lle cânt gyfle i astudio a thrafod pynciau megis newid hinsawdd ac addasu genetig.

"Hoffem ardal i dyfu ein ffrwythau a'n llysiau ein hunain"

Rydym wedi datblygu gwaith ar y cyd â Flintshare, y grŵp tyfu dan arweiniad cymuned a chymdeithasau PW, y Gymdeithas Amgylcheddol (BotSoc gynt) a ZooSoc Campws Llaneurgain. Gall staff a myfyrwyr gymryd rhan a dysgu am blannu gwahanol hadau, chwynnu, trawsblannu a rheoli plâu. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o dechnegau garddwriaeth drwy ddeall sut i wneud compost, palu gwelyâu, yn ogystal ag ennill gwybodaeth ynghylch gwahanol blanhigion, pryfed a'r ecosystem.

"Lleihau parcio ceir ac annog/ysgogi a chefnogi'n weithredol y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus leol a chynlluniau beicio/cerdded i'r gwaith."

Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo ffordd o fyw actif, gan gynnwys Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai ac wythnos Feicio ym mis Mehefin.

Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i gyrraedd y campws gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ein tudalen Teithio Cynaliadwy. Mae PW yn cynnig trafnidiaeth i'w defnyddio gan fyfyrwyr a staff i deithio rhwng campysau yn ystod y tymor, a gallwch archebu lle drwy northophelpline@wrexham.ac.uk

Rydym hefyd yn darparu beiciau i fyfyrwyr a staff eu llogi i fynd o gwmpas bob campws. Ar hyn o bryd mae 18 beic ar gael i'w llogi a gellir eu llogi am hyd at 7 diwrnod ar y tro.

Staff and students on cycle scheme bikes