Mae Tîm Cynaliadwyedd ac Amgylchedd PGW yn sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu mor gynaliadwy â phosib.

Wedi'i harwain gan Brif Weithredwr y Brifysgol, Lynda Powell, mae'r tîm yn gweithio fel canolbwynt ar gyfer pob agwedd o gynaliadwyedd o fewn y Brifysgol ac yn rheoli amrywiaeth o brosiectau, o fioamrywiaeth ar yr holl gampws, cynlluniau ymgysylltu fel hyrwyddwyr gwyrdd a chyfleuster cynyddol PGW i ddatblygiad cynaliadwy o fewn y cwricwlwm. Mae AWG yn gweithio'n agos gyda WgSU a'u swyddog cynaliadwyedd UMGW.

O UMGW:  Katie Taffinder    Marc Caldecott    Dan Holmes

Hyrwyddwyr Gwyrdd

Mae Cynllun Rheoli Carbon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (Atodiad B, tud. 25, Rheolaeth Rhanddeiliaid) yn dangos ein strwythur a dulliau ymgysylltu â staff a myfyrwyr yng ngweithrediad y cynllun. Ymhlith rhai o'n prosesau rydym yn cynnwys ein cynllun Hyrwyddwyr Gwyrdd.

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ymrwymo i weithredu arferion a mesurau arbed ynni, lleihau ein hôl troed carbon a gwarchod adnoddau amgylcheddol. I'n helpu ni i gyfeirio at sbectrwm cyfan o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd, rydym yn datblygu tîm o staff i wirfoddoli fel Hyrwyddwyr Gwyrdd i'n helpu ni i ddod yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd yn y gweithle, i ddod a'r awydd gorau o'n gweithwyr a gweithio gyda'n gilydd drin adnoddau ein planed yn fwy gofalus ac ystyriol.

Bob blwyddyn, rydym yn cynnal hyfforddiant ar ein Campws Llaneurgain mewn cysylltiad ag ac Addysgwyr Awyr Agored ac Amgylcheddol. Mae hyfforddiant yn sicrhau bod staff yn derbyn gwybodaeth sy'n cynnwys sesiynau ar:

  • Beth ydi cynaliadwyedd
  • Beth ydi Hyrwyddwr Gwyrdd - Sut gallwn ni helpu
  • Bioamrywiaeth - Sut mae ecosystemau yn gweithio
  • Ôl troed carbon - Ynni/llygredd
  • Systemau Bwyd
  • Defnyddio Adnoddau
  • Coetir

Mae bod yn Hyrwyddwr Gwyrdd yn rhoi cyfleoedd hyfforddiant i chi, gwahoddiadau i ddarlithoedd cynaliadwyedd, digwyddiadau ac ymgyrchoedd i gymryd rhan ynddynt a byddwch hefyd yn derbyn cylchlythyr hyrwyddwyr gwyrdd bob mis i roi'r diweddaraf i chi ar newyddion cynaliadwyedd PGW a, gobeithio, rhoi ychydig o ysbrydoliaeth i chi ynglŷn â sut i ysbrydoli eraill. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Hyrwyddwr Gwyrdd, cysylltwch â ni energy&sustainability@glyndwr.ac.uk 

WGU Green Champions News

Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd

Mae'r pwyllgor yn cynnwys staff o'r gwasanaethau academaidd a phroffesiynol. Mae'r grŵp yma yn trafod ac yn gweithredu amcanion y strategaeth ac yn adrodd i fwrdd yr Is-Ganghellorion.

Mae Prif Weithredwr WGSU yn eistedd ar y Pwyllgor DIA, gan sicrhau ceir pob dyletswydd ei wneud o fewn y sefydliad. Mae aelod o WGSU ar y Pwyllgor DIA yn sicrhau'r gallu i rannu arferion gorau ymhlith myfyrwyr ac adrannau. Mae'r Brifysgol yn cymryd ei rôl o fewn y gymuned ehangach o ddifrif ac mae'n ymrwymo i sefydlu a chryfhau partneriaethau gyda busnesau lleol, elusennau a sefydliadau eraill.

Cydweithrediadau/partneriaethau sydd wedi'u sefydlu'n barod:

  • Flintshare, grŵp cynyddol dan arweiniad y Gymuned
  • Cymdeithas Ceidwaid Gwenyn Lleol F&DBKA
  • Sefydliad Prydeinig y Galon
  • Banc Bwyd
  • Dechrau'n Deg

Mae'r Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd yn mynd i'r afael â materion cilyddol sy'n peri pryder i drigolion lleol, myfyrwyr a'r Brifysgol. Mae'r pwyllgor yn cwrdd yn rheolaidd. Ceir adroddiadau ar gynaliadwyedd eu gwneud i'r pwyllgor gan y Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd, gan gynnwys adolygiad o faterion cymunedol sydd wedi codi a'u hymdrin â drwy gydol y flwyddyn.

Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd

Yn 2016 sefydlodd y Brifysgol Weithgor Gweithredu Cynaliadwyedd, sy'n cynnwys cynrychiolaeth myfyrwyr, academaidd, adrannau proffesiynol, undeb ac Unsain.

Mae'r grŵp yn cwrdd chwarterol i gynllunio, gweithredu ac adolygu agendau a thargedau cynaliadwyedd a gwyrdd y brifysgol. Maent yn cynghori ac yn gwneud argymhellion i'r brifysgol ar bob agwedd o gynaliadwyedd a helpu hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol yn y brifysgol. Maent yn gweithredu ac yn adolygu polisïau cynaliadwy ac yn hyrwyddo ymgysylltiad cwricwlwm ac ymchwil y brifysgol gyda materion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol. Maent yn recriwtio ac yn penodi hyrwyddwyr gwyrdd ac yn dosbarthu gwybodaeth i'r gymuned brifysgol ehangach.

Mae'r Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd (Y Fforwm Cynghori Cynaliadwyedd gynt) yn adrodd i'r Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd. Mae ganddo nifer o aelodau o Undeb y Myfyrwyr sy'n amlygu fod cynaliadwyedd yn flaenoriaeth uchel drwy'r sefydliad. Ar hyn o bryd, mae SAWG yn gweithio tuag at welliannau mewn prosiectau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ac yn anelu at wella safle PGW yn nhabl cynghrair Pobl a Phlaned.

Ochr yn ochr â hyn, mae'r Undeb Myfyrwyr wedi bod yn gweithio'n galed ar yr agenda cynaliadwyedd ac rydym wrth ein boddau cyhoeddi eu bod wedi ennill gwobr Ardderchog gan Green Impact gyda chymorth a phartneriaeth gan y Brifysgol a'r Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd. Cydnabu'r panel Green Impact pa mor fach yw'r sefydliad a chanmolwyd y bartneriaeth wych rhwng y ddau sefydliad yn y maes hwn.

Cymerwch olwg ar y SAWG Minutes diweddaraf.

Llais Myfyrwyr

Cynaladwyedd

Cadwch yn ddiweddar gyda beth mae'r Gymuned Werdd PGW yn gwneud i fod yn fwy cynaliadwy a chyfleoedd i gymryd rhan gyda digwyddiadau eco, ymgyrchoedd, ac i ddod yn rhan o'r llais sy'n ffurfio polisïau a dulliau cynaliadwy PGW.

Cymunedau Gwyrdd

Rydym yn ymrwymo i gefnogi grwpiau gwyrdd lleol i helpu pobl i arwain bywydau cynaliadwy. Darganfyddwch mwy am y grwpiau cymunedol isod.

 

Content Accordions

  • Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

    Mae Carl Payne, Graddedig Bioleg Bywyd Gwyllt a Phlanhigion PGW, wedi dod yn Is-gadeirydd o’r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

    Mae gan yr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyfoeth o wybodaeth mewn gwarchodaeth ymarferol ac mae bob tro yn awyddus i basio gwybodaeth ymlaen. Mae cydweithrediad rhyngddyn nhw a’r Brifysgol yn gyfle i rannu gwybodaeth, adnoddau a hyrwyddo addysg.

    Mae gan yr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru adnoddau i sicrhau fod yna gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau gwarchodaeth: drwy gytundeb dwyochrog gyda PGW.

    Mae’r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn rhoi cymorth a goruchwyliaeth yn ystod clirio pyllau, yn darparu personél gymwys, gyda thrwydded madfall ddŵr. Mae’r cynnig i’r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnwys mynediad i’r gwahanol gynefinoedd i wneud arolwg neu i berfformio gweithgareddau eraill o fewn y cylch gwarchodaeth.

    Mae gan yr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru dîm awyddus o wirfoddolwyr, efallai bydd adegau ble fydd angen trafod neu ddysgu’r cysyniadau damcaniaethol am beth sydd angen i’w wneud yn y maes. Mae rhai o’r cysyniadau yma’n syrthio’n dwt i mewn i ardaloedd o warchodaeth sy’n rhan o’r cwricwlwm ac felly mae’n bosib i fyfyrwyr mynychu.

    Mae gan gampws Llaneurgain PGW restr rhywogaethau gwych mae Carl Payne wedi gwneud, ac mae o’n diweddaru’n rheolaidd, ac rydym yn gobeithio cynnal Bio-blitz yn y dyfodol agos.

  • Flintshare

    A oes gennych chi angerdd tuag at yr amgylchedd, eisiau cymryd rhan gyda phlannu ffrwythau a llysiau eich hunain yn PGW? Ewch draw i’n campws Llaneurgain i dderbyn darn mewn un o’n twneli poly a rhwng Gorffennaf - Hydref pigwch afalau eich hunain o berllan PGW.

    Mae cyfleuster plannu Campws Llaneurgain y Brifysgol wedi’i redeg drwy gydweithrediad o grŵp plannu cymunedol Flintshare a chymdeithasau PGW BotSoc a ZooSoc. Gallwch nawr gymryd rhan a dysgu am blannu hadau gwahanol, chwynnu a thrawsblannu a rheoli plâu. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o dechnegau garddwriaethol drwy ddeall sut i wneud compost, palu gwlâu, yn ogystal â derbyn gwybodaeth am blanhigion a phryfaid gwahanol, a’r system eco.

    Mae gweithio yn y cyfleuster plannu yn rhoi gwrthdyniad gwych o’ch bywyd prysur a gallwch fwynhau ychydig o awyr iach tra rydych yn cymryd y golygfeydd syfrdanol i mewn o’n campws cefn gwlad. Mae’n hyrwyddo buddion iechyd meddwl a chorfforol o fod yn yr awyr agored, bod yn ymarferol, bod yn rhan o’r newidiadau mwy, cyfarfod a chysylltu gyda phobl a chaniatáu i’r brifysgol greu cysylltiadau gyda phlanwyr ac elusennau lleol fel ffordd o gysylltu gyda’r gymuned ehangach.

    Felly, os hoffech chi gymryd rhan mewn tyfu bwyd iach eich hunain heb ôl troed carbon, i gyd am ddim, ymunwch â Flintshare neu WgSU Societies a derbyniwch ddarn yng nghyfleuster plannu PGW.

  • Cymdeithas Ceidwaid Gwenyn Fflint a'r Ardal

    Mae poblogaeth y wenynen yn gostwng yn y DU ac o gwmpas y byd. Mae PGW wedi ymuno gyda’r Cymdeithas Ceidwaid Gwenyn Fflint ar Ardal drwy roi ychydig o dir ar ei gampws Llaneurgain ar gyfer y gosodiad o 14 cwch gwenyn.

    Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi ac astudio’r wenynen a phwysleisio ein hymdrechion i ddod yn sefydliad mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

    Heb beilliad pryfaid, bydd angen i tua thraean o’r cnydau rydym yn bwyta eu peillio drwy ffyrdd eraill, at gost uchel. Gwenyn yw’r grŵp pennaf a phwysicaf yn economaidd o beillwyr yn y rhan helaeth o ardaloedd amaethyddol arwyddocaol.

    Nod y gymdeithas ydi i hyrwyddo o fewn eu haelodaeth; ymarfer cadw gwenyn da, rhoi arweiniad a chefnogaeth, rhoi gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gyfredol, cyflwyno a chefnogi ceidwaid gwenyn yn yr ardal.

  • Incredible Edible

    Mae Incredible Edible yn rhwydwaith anffurfiol o unigolion a grwpiau hunan-trefnol sy’n creu llefydd yn Wrecsam ble geith bwyd ei dyfu gall rywun fynediad at yn hawdd. Maent yn cynllunio ac yn rhannu syniadau am blannu a thyfu.

    Mae croeso i rywun gydag unrhyw lefel o brofiad - mae angen pob math o gefnogaeth i helpu gofalu, magu a thyfu’r prosiectau tyfu bwyd am ddim yma.

    Mae ein Hyrwyddwr Iechyd a Diogelwch Gwyrdd Claire Doran a Swyddog Cynaliadwyedd Katie Saxby wedi ymgeisio am, derbyn a chydlynu’r plannu am 100 o goedwig frodorol a bwytadwy, yn bennaf, ar y campws.

Content Accordions

  • Gardd Gymunol

    Mae ein Gardd Gymunedol yn lle o heddwch a noddfa i unrhyw un gael amser i ffwrdd a mwynhau'r heddwch a'r llonyddwch neu gymryd rhan mewn tyfu. Mae'r pwll bywyd gwyllt yn lle gwych i fyfyrio'n dawel i weld yr hyn y gallwch chi ei weld yn ei ddyfnderoedd. Os ydych yn lwcus efallai y byddwch yn gweld madfall yn nofio yn y dyfnder.

    Mae’r ardd yn cael ei rheoli ar y cyd gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i wneud lle i ddenu peillwyr a bywyd gwyllt arall ac i fyfyrwyr gymryd rhan mewn tyfu cynnyrch. Mae gwelyau uchel a chynllun yr ardd yn ei gwneud hi'n hawdd i bawb gymryd rhan. Anogir myfyrwyr i wirfoddoli i gynnal y gofod a chymryd rhan.

    Edrychwch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol Glyndwr Gwyrdd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn yr ardd.

    Communal Garden

  • Gardd Gymunol

    Mae ein Gardd Gymunedol yn lle o heddwch a noddfa i unrhyw un gael amser i ffwrdd a mwynhau'r heddwch a'r llonyddwch neu gymryd rhan mewn tyfu. Mae'r pwll bywyd gwyllt yn lle gwych i fyfyrio'n dawel i weld yr hyn y gallwch chi ei weld yn ei ddyfnderoedd. Os ydych yn lwcus efallai y byddwch yn gweld madfall yn nofio yn y dyfnder.

    Mae’r ardd yn cael ei rheoli ar y cyd gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i wneud lle i ddenu peillwyr a bywyd gwyllt arall ac i fyfyrwyr gymryd rhan mewn tyfu cynnyrch. Mae gwelyau uchel a chynllun yr ardd yn ei gwneud hi'n hawdd i bawb gymryd rhan. Anogir myfyrwyr i wirfoddoli i gynnal y gofod a chymryd rhan.

    Edrychwch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol Glyndwr Gwyrdd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn yr ardd.

    Communal Garden