Andy Meincken

Rheolwr Gwasanaethau Adeilad

Ymunodd Andy Meincken â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn llawn amser ym mis Ionawr 2011 fel goruchwylydd cynnal a chadw ac ym mis Chwefror 2018 penodwyd i'r rôl Rheolwr Gwasanaethau Adeilad. Andy sy'n gyfrifol am y Tîm Cynnal a Chadw a Chynorthwywyr Gwasanaethau Adeilad.

Mae Andy hefyd yn aelod o'r Hyrwyddwyr Gwyrdd, mae'n arwain ei dîm wrth weithredu arferion cynaliadwy o fewn ei adran gan ganolbwyntio ar wresogi, goleuadau ac allyriadau. Mae Andy yn ffynnu pan mae'n derbyn cyfleoedd newydd ar gyfer lleihau ynni yn y Brifysgol ac mae'n gweithio'n agos gyda'r Cydlynydd Amgylcheddol a Chynaliadwyedd i wneud hynny. Mae Andy a'i dîm ar hyn o bryd yn canolbwyntio eu hymdrechion ar oleuadau cynaliadwy a sut y gallwn ni yng Nglyndŵr gynyddu ailgylchu eitemau gwastraff mwy.

Mae Andy yn mwynhau edrych ar ôl planhigion y swyddfa ac ar ei ddyddiau i ffwrdd mae Andy yn mwynhau treulio ei amser yn yr awyr agored, gan weithio yn ei ardd.