Carl Payne

Cynorthwyydd Safle Llaneurgain

Daeth Carl yn wreiddiol i Glyndŵr Wrecsam i ennill gradd israddedig mewn Bywyd Gwyllt a Bioleg Planhigion ac ers graddio mae wedi gweithio yn yr adran ystadau yn achlysurol hyd nes iddo gael ei gyflogi’n llawn amser ym mis Rhagfyr 2021 lle mae’n gweithio fel cynorthwyydd safle ar Gampws Llaneurgain.

Mae wedi ymuno â chenhadaeth Dennis Powell (Rheolwr Cyfleusterau) i greu campws sy’n gyfoethog mewn bioamrywiaeth.

Mae Carl wedi cymryd cyfrifoldeb am reoli'r adroddiadau a chynlluniau bioamrywiaeth ac mae'n arwain ar fioamrywiaeth yn y Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd. Roedd Carl yn gyfrifol am y Bioblitz yn 2019 gan gynhyrchu bron i 600 o gofnodion a 398 o rywogaethau mewn un diwrnod gyda thîm o gofnodwyr a dyma ein cyswllt â’n Canolfan Gofnodi Amgylcheddol Leol ac ymddiriedolaethau bywyd gwyllt gan gofnodi yn y gorffennol gyda’r BSBI (Botanical Society for the British Isles).

Mae wedi dysgu botaneg i’r brifysgol fel athro sesiynol fel rhan o gwrs byr ac mae’n entomolegwr brwd.