Jenny Thomas

Uwch Gynghorydd Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd

Gyda chefndir mewn swyddi yn ymwneud â'r Amgylchedd, Iechyd a Diogelwch yn y sector gweithgynhyrchu, ymunodd Jenny â'r Brifysgol fel Uwch Gynghorydd Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd ym mis Ionawr 2020. Gyda'i gradd mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol, mae Jenny yn gweithio'n frwd i gydweithio â staff, myfyrwyr a grwpiau amgylcheddol lleol i hybu newid amgylcheddol positif.

Ers cychwyn yn y Brifysgol, mae Jenny wedi hyrwyddo prosiectau cynaliadwyedd gan gynnwys ymuno â Refill.org.uk a chynyddu'r nifer o ffynhonnau dŵr cyhoeddus sydd ar gael, cofrestru fel Hyrwyddwr Lleihau Plastig fel rhan o ymgyrch Wrecsam Di-Blastig, a chofrestru fel Campws sy'n Gyfeillgar i Ddraenogod. Mae Jenny yn arwain Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd y Brifysgol ac amrywiaeth o fentrau amgylcheddol gyda'r nod o gyflawni targedau allweddol a nodwyd yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd.

Mae gan Jenny ddiddordeb mawr mewn cynaliadwyedd a'r amgylchedd naturiol. Yn ei hamser rhydd, mae hi'n gwirfoddoli gyda'r RSPB yng Ngwlypdiroedd Burton Mere, ac yn aelod sefydlog o Leihau Plastig yr Wyddgrug, a dderbyniodd achrediad gan Surfers Against Sewage fel Cymuned Di-Blastig yn 2020.