Polisiau, stratagaethau a chynlluniau cynaliadwyedd

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ymrwymo i ddeall a rheoli ei effaith ar yr amgylchedd. Ein cenhadaeth yw gweithio mewn partneriaeth leol a byd-eang i ysbrydoli ac addysgu ein myfyrwyr a helpu i yrru llwyddiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn ein rhanbarth a thu hwnt. Fel sefydliad angor, byddwn yn cymryd rôl arweiniol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd ein rhanbarth. Ceir ein hymrwymiad i amgylchedd cynaliadwy ei amlygu yn ein hymdrechion academaidd, ein dull o reoli a datblygu ein campws, ystadau, cyfleusterau, trafnidiaeth, a gweithgareddau, yn ogystal â'n eiriolaeth gyhoeddus.

Strategaeth Cynaliadwyedd yr Amgylchedd

Bydd ein strategaeth yn siapio’r sefydliad i er mwyn iddo dderbyn cydnabyddiaeth o arddangos arfer gorau mewn rhagoriaeth amgylcheddol a chynaliadwy.

Datganiad Polisi Rheolaeth Ynni a Chynaliadwyedd

Fel Prifysgol sy’n anelu i ysbrydoli, addysgu a galluogi llwyddiant, ein nod yw cynnal ein gweithredoedd i adlewyrchu’r arferion amgylcheddol gorau. Bydd ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn darparu fframwaith strategol i ddylanwadu ar a siapio’r sefydliad i ddatblygu a gweithredu’r arferion gorau mewn perfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Rheoli Carbon

Rhwydwaith o wirfoddolwyr yw Hyrwyddwyr Gwyrdd sy'n cynnwys staff a myfyrwyr. Maent yn gweithio gyda'i gilydd i wneud PGW yn lle mwy cynaliadwy a gwyrdd i weithio ac astudio. Maent yn adrodd i'r Gweithgor Cynaliadwyedd, yr Amgylchedd a'r Fforwm Gweithredu ar Gynaliadwyedd Heddiw mae'n bwysicach nag erioed i ddod yn brifysgol fwy gwyrdd ac effeithlon. Mae PGW yn darparu sesiwn hyfforddi awyr agored flynyddol ar gyfer ei holl hyrwyddwyr gwyrdd.

Rheolaeth Trysorfa

Wedi'i ddatblygu i gefnogi nodau PGW i fuddsoddi ei gronfeydd gan roi ystyriaeth ddyledus ar faterion moesegol, amgylcheddol, corfforaethol a chymdeithasol. Mae'r polisi'n berthnasol i'r holl staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill y Grŵp a'i nod yw rhoi llais i randdeiliaid mewn materion moesegol, amgylcheddol a chynaliadwyedd. Nid ydym yn dal unrhyw fuddsoddiadau ar hyn o bryd ond bydd manylion unrhyw fuddsoddiadau yn y dyfodol yn cael eu rhestru yn yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol perthnasol.

Bwyd Iach, Cynaliadwy

Yn unol ag ymrwymiad Polisi Amgylcheddol a Chynaliadwyedd PGW i gaffael mewn modd cynaliadwy, i ystyried ffactorau moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae ganddo gyfrifoldeb i ddarparu bwyd maethlon a ffynonellau cynaliadwy i'w gwsmeriaid.

Bioamrywiaeth

Cyflogadwyedd Moesegol yn y gadwyn cyflenwad

Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gaffael Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Bwriad y Cod hwn yw sicrhau bod modd cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf ledled Cymru, a hynny gan weithlu a gaiff ei drin yn gyfreithlon, yn deg ac yn ddiogel, ac a gaiff gyflog da. Mae’r Cod hwn yn cynnwys ymrwymiad i ystyried hyrwyddo’r Cyflog Byw mewn contractau perthnasol.

Ewch i'n tudalen cyfrifoldebau i ddarganfod mwy am sut rydym ni fel cyflogwr wedi ymrwymo i greu diwylliant cynaliadwy a theg.

Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Moesegol