RheoliCarbon
Rydym yn ymgeisio i gyfrannu tuag at ddyfodol egni cynaliadwy a buddsoddi yn ein planed.
Mae PGW yn ymrwymo i weithredu arferion a mesuriadau cadwraeth egni, lleihau ein hôl troed carbon a diogelu adnoddau amgylcheddol. Mae’r Grŵp Gweithredu Cynaliadwyedd yn monitro defnydd egni yn agos ymhob un o’n hadeiladau ac maent yn ymroddgar i ddeall sut gall ein gweithrediadau gyfrannu i’n hôl troed carbon.
Bydd ein rhaglenni gweithio presennol a dyfodol yn mwyhau cyfraniad y Brifysgol i fwriadau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol bwriad lles “Cymru Lwyddiannus”. Ynghyd â’r Egwyddor Datblygu Gynaliadwy, rydym yn ymdrechu i sicrhau rhwystrad i gynyddu carbon ac i gyrraedd ein targedau allyriadau, lleihau llygredd golau, creu arbedion ariannol i gynnal prosiectau arbed egni dyfodol a gwneud cyfleoedd gweithio.
Ein targed ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ydi i leihau ein hallyriadau carbon cwmpas 1 a 2 (trydan, nwy a nwy olew) a hefyd ein hallyriadau carbon cwmpas 3 (dŵr, gwastraff ac ailgylchu, a thrafaelio busnes) yn flynyddol o 3% hyd at 2020 o gymharu i’n gwaelodlin 2009/10, fel y cytunwyd yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol.
Rhagamcaniadau Allyriadau
Gallwch weld ein ffigyrau union yng Nghynllun Rheoli Carbon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam - Adran 3.5 (tudalennau 14-16).
Yn 2017/2018 wnaethon ni leihau dŵr 13% o gymharu gyda’r flwyddyn cynt ac yn gyfan gwbl rydym yn lleihau trafaelio a gwastraff 3%.
Lleihau Carbon ac Adnoddau Naturiol
Cymerwch olwg ar Adolygiad ein Strategaeth Cynaliadwyedd sy’n dangos ein hymrwymiad a thargedau i Leihau Carbon ac Adnoddau Naturiol yn 2017/18.
Blaenoriaeth 1 - Lleihau Carbon
Blaenoriaeth 4E - Adnoddau Naturiol
Content Accordions
-
Sut ydym yn cynllunio i gyrraedd ein targedau?
I sicrhau cadwraeth ynni presennol ac i’r dyfodol, mae Gweithgor Cynaliadwyedd PGW yn barhaus yn archwilio prosiectau posibl a chynlluniau fydd yn ein galluogi i gyflawni ein hamcanion i leihau ein defnydd carbon. Mae prosiectau, ymarferion a mesurau yn cael eu gweithredu i leihau ein Ôl-troed Carbon a diogelu adnoddau naturiol lle bynnag y bo modd ac os yw’n ddichonadwy.
Rydym yn gyson yn monitro ac yn dadansoddi ein holl ddefnydd ynni drwy ein rhwydwaith helaeth o fesuryddion, meddalwedd ac anfonebau, gan dargedu problemau lle bo angen. Mae gennym ddwy system monitro a thargedu ynni ar waith sydd ill dau’n cyfrannu at fanteision monitro a thargedu. Mae’r is-fesuryddion wedi cael eu gosod er mwyn monitro defnydd yn erbyn ein targedau penodol a chanfod eithriadau gyda rhybuddion. Mae’r systemau hefyd yn helpu o ran monitro prosiectau sydd newydd eu gweithredu i werthuso canlyniadau parhaus. Mae ein meddalwedd yn gallu amlygu unrhyw faterion annisgwyl y gellid eu datrys bob dydd wrth iddynt godi, gan ein galluogi i atal gwastraff ynni diangen, sy’n arwain at effeithiau negyddol ar ein cyllid. Rydym hefyd yn gwerthuso ein perfformiad gydag adroddiadau misol a blynyddol yn cynnwys canlyniadau a’r targedau a gyflawnwyd.
Mae’r mater defnydd ynni bellach yn fwy o flaenoriaeth ar yr agenda i staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill, mwy nag erioed o’r blaen ac rydym yn dal i ddatblygu ein cynlluniau i leihau ein defnydd ynni i’r tymor hir. Drwy gynnwys pob unigolyn, rydym yn hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth mawr o ran lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Yn ogystal â chyflawni arbedion carbon i Gymru a’r DU, gall ein harbedion ariannol o ynni gael eu buddsoddi nôl i wasanaethau gwell i’n myfyrwyr.
Drwy weithredu mesurau ‘buddsoddi i arbed’ hirdymor a gweithio’n agos gyda Chyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru ac ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Carbon Cymru, ein nod yw parhau i wneud cynnydd gwych o ran lleihau ynni a defnydd dŵr yn ein hadeiladau, gan arwain at wella amgylchedd Cymru.
Cynlluniau Gweithredu
Mae ein Cynllun Rheoli Carbon yn cynnwys manylion am y camau sydd eu hangen i fesur, lleihau a monitro ôl-troed carbon Prifysgol Glyndŵr. Y bwriad yw darparu sail ar gyfer y gwaith manwl fydd yn cael ei wneud o ran gwella seilwaith, ond hefyd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd o gynnwys rhanddeiliaid y Brifysgol, a newid arferion gwaith.
Edrychwch ar:
- Atodiad A, Tudalen 24, Matrics Rheoli Carbon - Mewnosod. Mae’n dangos sut rydym yn mewnosod rheoli carbon o fewn PGW, drwy strategaethau corfforaethol, cyfathrebu, hyfforddiant ac ymgysylltu gyda staff a myfyrwyr.
- Mae Atodiad B, Tudalen 25, Rheoli Rhanddeiliaid yn rhestru llinellau cyfrifoldeb clir ar gyfer rheoli carbon PGW.
- Mae Atodiad D, Tudalen 37, Prosiectau Presennol/Dyfodol yn nodi amcangyfrif o’r buddsoddiad fydd ei angen i gyflawni’r targedau lleihau carbon.
- Polisi Egni 2018
- Polisi Datganiad Egni a Chynaliadwyedd 2020 - Mae ein Polisi Egni wedi’i ddyfeisio i sicrhau fod, fel ein bod yn parhau i ddatblygu fel Prifysgol lwyddiannus, byddem yn parhau i asesu a gwella ein perfformiad egni drwy’r cymorth ac ymglymiad o bob gweithiwr.
- Polisi Cynhesu PGW - Mae ein Polisi Cynhesu yn datgan mai nodau’r Brifysgol ydi i gydymffurfio gydag anghenion Iechyd a Diogelwch, yn darparu amodau o safon resymol o gysur thermol i fyfyrwyr a staff wrth leihau allyriadau o nwyon tŷ gwydr, yn enwedig CO2.
-
Adroddiadau a Thystysgrifau
Adroddiadau defnydd egni blynyddol
Mae ein Grŵp Gweithredu Cynaliadwyedd yn ymrwymo i gofnodi yn gyhoeddus ein cynnydd bob blwyddyn i ddangos ble rydym ni o gymharu i’n targedau lleihau carbon.
Rydym yn falch o adrodd bod WGU yn gwneud yn dda. Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi lleihau allyriadau carbon 49% yn 2020/21 o gymharu â blwyddyn sylfaen 2009/10.
Cynnydd Egni Rheoli Carbon
Tystysgrifau Data Egni
Mae’r deg Tystysgrif Data Egni (DECS) (blynyddol), ble mae gan PGW rhwymedigaeth gyfreithiol i ddangos mewn adeiladau masnachol dros 1000m2 wedi’u hadnewyddu a’u cwblhau ym mis Ionawr. Maent i gyd ar arddangosiad cyhoeddus. Ynghyd â hyn, derbyniodd Principals House yn Stryd y Rhaglaw tystysgrif DEC terfyn (deng mlynedd) newydd, a gyflwynwyd oherwydd meddiannaeth a dan y rheoliadau categori DEC masnachol (Gorffennaf 2015), a’r gofynion deddfwriaeth ar gyfer adeiladau 250 - 500 m2. Bu i Principles House hefyd elwa ar adroddiad cynghori ynni.
Cymerwch olwg ar ein graddfeydd cyffredinol!
Newyddion gwych - derbyniodd 80% o'n hadeiladau gyfraddau ynni o C neu uwch.
Ôl troed Carbon - Dyddiad allyriad carbon i lety myfyrwyr
Ynghyd ag annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i arbed egni, rydym hefyd yn edrych yn agosach i gartref, ar garreg drws ein hunain, yn ein llety myfyrwyr ac ar sut fedran ni wella ymwybyddiaeth amgylcheddol, mabwysiadu gweithdrefnau newydd a llwihau ein hallyriadau carbon yn gyffredinol. Rydym yn cynnwys defnydd egni ac ystadegau ôl troed carbon ein llety myfyrwyr, ynhyd â’n hadeiladau eraill yn flynyddol i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA. Mae hwn yn asiantaeth swyddogol ar gyfer casglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth meintiol am addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.
Pentref Wrecsam yw’r llety myfyrwyr sy’n eiddo i’r Brifysgol a gaffaelwyd yn 2018. Ym mlwyddyn academaidd 2018/19 cyfrifwyd allyriadau carbon a gynhyrchir o ddefnydd nwy, trydan a dŵr fel 249 tunnell. Cynyddodd hyn ychydig yn 2019/20 i 259 tunnell a allai adlewyrchu’r cynnydd yn yr amser a dreuliwyd gan breswylwyr mewn llety yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil Covid. Yn 2020/21 bu gostyngiad o 13% mewn allyriadau carbon o waelodlin 2018/19. Yn gyffredinol mae allyriadau carbon Pentref Wrecsam yn cyfrif am 10% o allyriadau cyffredinol y Brifysgol.
UMGW wedi derbyn Gwobr Ardderchog ar gyfer Effaith Gwyrdd
Pob blwyddyn academaidd, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsamyn cymryd rhan yn yr Effaith Gwyrdd sy’n awdurdodi unigolion ac adranau i leihau eu heffaith amgylcheddol drwy annog, gwobrwyo a dathlu gwelliannau amgylcheddol. Mae Effaith Gwyrdd yn herio’r brifysgol i weithredu nifer o weithdrefnau hawdd ac ymarferol a fyddai’n helpu’s amgylchedd. Blwyddyn yma, rydym yn hapus i gyhoeddi maent wedi’u gwobrwyo’n Ardderchog drwy sgorio 315 allan o 500.
Darllenwch Adroddiad Effaith Gwyrdd UMGW 2018 a darganfod popeth am ymrwymiad UMGW i gynaliadwyedd a’r amgylchedd.
Mae PGW, ar hyn o bryd, yn ailgylchu 19% o wastraff ond ein targed newydd yw 50%
Helpwch ni i ailgylchu ble fedrwch chi drwy ddarganfod ble a sut ddylech chi waredu’ch gwastraff yn iawn.
Mae PGW, ar hyn o bryd, yn ailgylchu 19% o wastraff ond ein targed newydd yw 50%
Helpwch ni i ailgylchu ble fedrwch chi drwy ddarganfod ble a sut ddylech chi waredu’ch gwastraff yn iawn.
Content Accordions
-
Sut i ailgylchu eich deunydd
Math o Wastraff Ble mae'n mynd Cyffredinol Gall yr holl wastraff na ellir ei ailgylchu ar hyn o bryd ac nad yw'n cael ei ystyried yn beryglus fynd yn y bin gwastraff cyffredinol.
Mae gwastraff cyffredinol yn cael ei losgi i gynhyrchu ynni.
Os oes gennych chi eitemau mwy nad ydyn nhw'n ffitio yn eich bin, cysylltwch ag Ystadau i drefnu eu casglu.Ailgylchu Cymysg Sych (DMR) Mae ailgylchu cymysg sych a gesglir yn cael ei wahanu i wahanol fathau o ddeunyddiau mewn canolfan ailgylchu ddeunydd pan fydd yn gadael y safle. Gall y gwastraff canlynol fynd i'r biniau DMR:
Cardbord
- Papur
- Caniau (Diodydd a Bwyd)
- Poteli a chaeadau Plastig
PEIDIWCH â rhoi'r gwastraff canlynol yn y bin DMR:
- Cwpanau Coffi tafladwy (maent yn cynnwys leinin blastig)
- Tyweli papur / napcynau
- Llestri llysiau neu gynwysyddion tecawê eraill
- Pecynnu bwyd halogedig
Papur Gellir cael gwared ar waith papur nad yw'n gyfrinachol, gan gynnwys cylchgronau, pamffledi, ac ati yn y biniau ailgylchu cymysg sych. Nid oes angen tynnu staplau, ond tynnwch unrhyw lapio plastig os gwelwch yn dda. Gellir rhoi gwaith papur cyfrinachol (h.y. unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys data personol neu sensitif) yn y biniau gwastraff cyfrinachol sydd wedi'u lleoli ledled y campws. Mae'r holl wastraff cyfrinachol yn cael ei falu'n ddiogel a'i ailgylchu. Os oes gennych lawer iawn o waith papur i'w ailgylchu neu ei ddinistrio'n ddiogel, cysylltwch Ystadau a gallwn drefnu casgliad. Bwyd Mae biniau bwyd ar gael mewn gwahanol leoliadau ar draws y campws gan gynnwys mewn ardaloedd ffreutur a cheginau staff.
Mae'r holl fwyd a gesglir yn cael ei anfon at fiodiofodydd sy'n trosi'r gwastraff yn fio-nwy, sy'n ffynhonnell ynni adnewyddadwy, a deunydd organig sy'n cael ei ddefnyddio fel gwrtaith.Cardbord Gall cardbord fynd yn y bin ailgylchu cymysg sych i'w ailgylchu.
Mae gan St Asaph fin ar wahân ar gyfer ailgylchu cardbordGwydr Mae pwyntiau casglu gwydr ar wahân ar gael yn y ffreutur ac Undeb y Myfyrwyr. Mae'r holl wydr a gesglir yn cael ei ailgylchu Pren Cesglir pren ar wahân i'w ailgylchu. Os oes gennych ddeunyddiau pacio pren neu eitemau pren eraill sydd angen eu hailgylchu, cysylltwch ag Ystadau Metel Cesglir metel i'w ailgylchu yn y compownd cynnal a chadw. Os oes gennych fin o wastraff metel i'w gasglu neu eitem fetel fawr i'w hailgylchu, cysylltwch ag Ystadau. Batris Rhaid gwahanu batris i'w hailgylchu. Gellir gollwng hen fatris yn Ystadau neu Ganolfan Chwaraeon Gwastraff Offer Trydanol ac Electronig (WEEE) Mae gwastraff electronig o wastraff trydanol yn cynnwys unrhyw beth trydanol fel gliniaduron, cyfrifiaduron personol ac offer cysylltiedig, ffan desg, offer pŵer, oergelloedd, poptai a bylbiau golau.
Cesglir gwastraff trydanol i'w ailgylchu gan TG. Os oes gennych eitemau i gael gwared â nhw, cysylltwch ag Ystadau neu TG.
Bydd data cyfrinachol sy'n cael ei storio ar yriannau caled ac ati yn cael ei ddinistrio'n ddiogel.Arlliw Argraffydd Gellir dychwelyd arlliwiau argraffydd wedi'u defnyddio i TG i'w hailgylchu. Tiwbiau fflwroleuol / Bylbiau Golau Cesglir bylbiau a thiwbiau fflwroleuol ar wahân i'w hailgylchu. Cysylltwch ag Ystadau i'w casglu. Gwastraff peryglus RHAID cadw gwastraff peryglus ar wahân i ffrydiau gwastraff eraill. Yn gyffredinol, ystyrir gwastraff yn beryglus os yw'n cynnwys (neu'n cael ei halogi â) deunyddiau sy'n beryglus i bobl neu'r amgylchedd. Ymhlith yr enghreifftiau mae:
- Asbestos
- Cemegau (e.e. paent, tiwbiau fflwroleuol, cemegau labordy)
- Batris
- Olew
- Toddyddion
- Offer sy'n cynnwys sylweddau sy'n disbyddu osôn (e.e. oergelloedd, oeryddion ac ati)
- Cynwysyddion gwastraff peryglus
Llyfrau Gellir rhoi llyfrau i'r llyfrgell os byddant yn ddefnyddiol i fyfyrwyr eraill. Gwiriwch gyda'r llyfrgell trwy e-bostio learningresources@glyndwr.ac.uk.
Mae gan ardal lolfa Crispin Lane gyfnewidfa lyfrau yn yr hen flwch ffôn. Gwiriwch eich ystafelloedd staff a'ch ardaloedd gorffwys lleol am gynlluniau cyfnewid llyfrau anffurfiol.Gasgliadau Elusen y Sefydliad Calon Prydeinig Cyfrannwch ddillad o ansawdd da, esgidiau pâr, llyfrau ac eitemau eraill o ansawdd da i godi arian ar gyfer Sefydliad y Galon Prydain.
Mae blychau casglu yng Nghanolfan Edward Llwyd, Pentref Wrecsam a Champysau Northop.Dodrefn Os oes gennych ddodrefn swyddfa o ansawdd da nad oes eu hangen arnoch mwyach, cysylltwch ag Ystadau. Byddwn yn ceisio ei ail-ddefnyddio yn rhywle arall neu'n gweithio gydag elusennau lleol i'w roi.