Rydym yn cefnogi ymgyrch a mentrau i annog staff a myfyrwyr i wneud dewisiadau cynaliadwy yn eu bywydau, tu fewn a thu allan i'r brifysgol.

 

Caiff cyllideb flynyddol yr adran Amgylchedd a Chynaliadwyedd ei defnyddio i weithredu prosiectau cynaliadwyedd a chodi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a staff.  Mae hyn yn ymwneud â rheoli amrywiaeth o wahanol brosiectau, gan gynnwys cynlluniau ymgysylltu staff/myfyrwyr, fel Hyrwyddwyr Gwyrdd, a chymryd rhan mewn digwyddiadau Gwyrdd. Mae ein digwyddiadau wedi'u dylunio er mwyn gwneud i bawb feddwl am ynni, cynaliadwyedd a lleihau carbon.

Rydym hefyd yn dathlu Pythefnos Masnach Deg ac yn cefnogi neges Masnach Deg, dewisiadau siopa syml sy'n galluogi ffermwyr i gael bargeinion gwell, a'u caniatáu nhw i wneud eu penderfyniadau eu hunain a rheoli eu dyfodol eu hunain, gan fyw bywyd urddasol.

Campws Cyfeillgar i Ddraenogod

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cofrestru i fod yn Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod.

Yn yr 20 mlynedd diwethaf mae nifer y draenogod yn y DU wedi gostwng i hyd at hanner oherwydd traffig, sbwriel a diffyg cynefinoedd naturiol. Gan weithio ochr yn ochr â Chymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain rydym yn gweithio i wneud ein campysau yn llefydd diogel ac addas i ddraenogod ffynnu.

Drwy weithio'n agos gyda'n myfyrwyr rydym wedi gosod grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod sy'n edrych tuag at dderbyn achrediad i'r Brifysgol. Mae yna lawer o frwdfrydedd ynghylch y staff a myfyrwyr dros yr ymgyrch yn barod, a bydd y grŵp yn cynnal digwyddiadau ac ymgyrch gall bawb gymryd rhan ynddynt.

A hedgehog in the grass

 

Content Accordions

  • Beth rydym yn gwneud i sicrhau campws sy'n gyfeillgar i Ddraenogod?

    Beth rydym yn gwneud yn PGW i sicrhau campws sy'n gyfeillgar i Ddraenogod

    • Darparu cynefinoedd addas sy'n hygyrch.
    • Darparu lle diogel iddynt fwyta ac yfed
    • Ychwanegu tai draenog pwrpasol i'w cadw'n ddiogel ac yn sych
    • Sicrhau bod gennym ni gampws heb sbwriel
    • Cynnal arolygon draenogod o amgylch y campysau
    • Creu grŵp campws cyfeillgar i Ddraenogod ar gyfer staff a myfyrwyr
    • Creu ymwybyddiaeth trwy'r cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a digwyddiadau
    • Gosod arwyddion croesi ar gyfer Draenogod
    • Cynnwys ymwybyddiaeth ar Ddraenogod wrth Sefydlu contractwyr perthnasol h.y. gweithwyr tir i wirio ardaloedd am ddraenogod cyn strimio neu ddefnyddio offer tebyg.

    Y Her Draeong-Gyfeillgar Mawr i Gasglu Sbwirel dros y Cyfnod Clo

    Llynedd fe wnaeth PGW cymryd rhan yn y Casgliad Sbwriel Draenog-Gyfeillgar Mawr dros y Cyfnod Clo.

    Mae draenogod wedi'u gorchuddio â miloedd o ddrain, sy'n eu gwneud yn agored i fynd yn sownd mewn sbwriel. Yn anffodus, mae llawer o ddraenogod yn marw bob blwyddyn oherwydd hyn. Bydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn glanhau'ch cymuned ac yn arbed llawer o anifeiliaid.

    Daeth PGW yn 9fed allan o 22 o brifysgolion a gyda'n gilydd rydym wedi tynnu bron i 700 o fagiau sbwriel o gampysau ledled y DU a'u gwneud ychydig yn fwy cyfeillgar i ddraenogod. Da iawn a diolch i bawb a gymerodd ran.

     

    Wedi dod o hyd i ddraenog sydd angen help?

    Ffoniwch warchodfa bywyd gwyllt Cilgwri, ar agor 24 awr - 01516255464 - Gwarchodfa bywyd gwyllt Cilgwri

    Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod, anfonwch e-bost atom ar energy&sustainability@glyndwr.ac.uk

    Darllenwch mwy ar flogiau campws cyfeillgar i ddraenogod -

    Ffeithiau am Ddraenogod - Lauren WGSU

    Campws Cyfeillgar i Ddraenogod PGW

    Mae gweminar gwych am Gampws Cyfeillgar i Ddraenog a'r hyn y mae'n ei olygu nawr ar gael yma - Gweminar Campws Cyfeillgar Draenog

Teithio Cynaliadwy

Fel rhan o Wythnos Go Green yn 2023 cynhaliodd y brifysgol holiadur i ddeall arferion cymudo staff a myfyrwyr. Mae data’n cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a bydd yn ysgogi gweithgareddau i annog  teithio cynaliadwy.

Mae tystiolaeth yn dangos fod trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r potensial i gymryd lle 21% o siwrnai car presennol mewn ardaloedd dinesig o gwmpas y DU. Er ceir bysiau eu defnyddio mwy nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer siwrnai leol, mae eu defnydd wedi lleihau 11% dros y degawd diwethaf.

Buddion o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus:

  • Mae defnyddwyr yn fwy gweithgar drwy gerdded i ac o orsafoedd a phen teithiau
  • Mae'ch siwrne yn fwy hamddenol gan fod gennych amser i ddarllen neu i wrando ar gerddoriaeth
  • Mae'n well i'r amgylchedd (gall bws llawn dynnu 50 car oddi ar y lon)
  • Mae'n lleihau'r angen i feysydd parcio, yn golygu gall troi tir i mewn i lefydd gwyrdd fel parciau ac ardaloedd cymunedol
  • Mae'r brifysgol yn cynnig trafnidiaeth Am Ddim i fyfyrwyr rhwng campysau Wrecsam a Llaneurgain drwy'r adeg tymor.

I logi trafnidiaeth, e-bostiwch northophelpline@glyndwr.ac.uk 

Mae Cymru yn arwain y byd gyda'i deddfwriaeth Teithio Lesol. Mae'r Ddeddf Teithio Lesol (Cymru) 2013 wedi rhoi'r cyfle i Gymru drawsnewid ei hun i mewn i wlad ble mae cerdded a beicio yn ffyrdd normal o deithio o gwmpas ar gyfer siwrnai lai.

Staff and students on cycle scheme bikes

Mae PGW yn prysur ddod yn fwy ymwybodol o fanteision teithio cynaliadwy. Y flwyddyn nesaf rydym yn gobeithio hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau gyda'r nod o gael staff a myfyrwyr i ystyried opsiynau teithio cynaliadwy a dod yn fwy egnïol.

Mis Cerdded Cenedlaethol - Mai

Wythnos y Beic – Mehefin

Content Accordions

  • Seiclo i gwaith

    Cynllun Beicio 

    Mae Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnig gwasanaeth llogi beic i staff a myfyrwyr allu ddefnyddio i drafaelio rhwng campysau ac o gwmpas Wrecsam. (£10.00 i logi am 7 diwrnod). Ar hyn o bryd, mae yna 14 o feiciau ar gael i logi (mae dau o'r rhain yng nghampws Llaneurgain) ac mae'n bosib eu llogi am hyd at 7 diwrnod ar unrhyw adeg.

    Mae yna lawer o resymau pam y bydd beicio i ac o gwmpas y campws o fudd i chi, heblaw am ei fanteision amgylcheddol amlwg:

    • Cadw'n heini - Mae beicio yn ffordd wych o gadw'n heini a gall helpu i leihau'r risg o glefyd y galon
    • Arbed arian - Mae marchogaeth beic yn llawer rhatach na gyrru car. Unwaith mae gennych chi feic, does dim angen tanwydd, yswiriant na threth arnoch chi...ac ni wnaeth gostio hanner cymaint â hynny yn y lle cyntaf!
    • Ewch yn gyflymach! - Mae heriau cymudwyr mewn dinasoedd eraill yn y DU wedi dangos mai'r beic yw'r dull teithio cyflymaf mewn traffig dinesig
    • Arhoswch yn ifanc! -  Mae beicwyr rheolaidd yn mwynhau lefel ffitrwydd sy'n gyfartal â pherson ddeng mlynedd yn iau. (Ffynhonnell: Fforwm Cenedlaethol Sefydliad Clefyd Coronaidd y Galon, Sharp)
    • Cyfleusterau golchi - Mae gan y Brifysgol gawodydd ar gael i'w defnyddio yn y ganolfan chwaraeon
    • Parcio di-dâl a chyfleus - Ydych chi erioed wedi gweld beiciwr yn chwilio am le i barcio?! Mae'r Brifysgol yn darparu llawer iawn o fannau cadw beiciau ledled y campws...dewch o hyd i le ar gyfer eich beic yn un o'r cyfleusterau niferus ar y campws a chofiwch ei gloi!

    Sut mae'r cynllun yn gweithio

    Os hoffech chi logi Beic o'r Gronfa ewch i'r dderbynfa yn y ganolfan chwaraeon. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod myfyrwyr / staff dilys a gofynnir i chi ddarllen a chytuno i'r amodau a thelerau llogi.

    Yna fe gewch chi'r beic, clo/allweddi'r beic a chyfarpar diogelwch, mae pob un ohonynt wedi'u rhestru ar y ffurflen archebu rydych chi'n ei llofnodi.

    Mae gan bob campws cyfleusterau i gadwch feic ac i lanhau gyda chawodydd yn y ganolfan chwaraeon yn Wrecsam a'r adeilad Mitchelmore yn Llaneurgain.

    Nid oes neb yn gwybod dinas yn well na'r beicwyr sy'n reidio yna bob dydd - y llwybrau gorau, y cyffyrdd dyrys, a chaffiau cyfeillgar i feicwyr. Rhannwch eich gwybodaeth am lwybrau Wrecsam yma

     

  • Trafnidiaeth Cyhoeddus

    Caiff bron i 40% o siwrnai sy'n llai na dwy filltir eu gwneud mewn car. Mae teithiau car llai yn creu lefelau llawer mwy o allyriadau niweidiol, gan nad yw peiriannau yn gweithio ar eu tymheredd gorau posibl.

    Gall lawer o siwrnai fer eu gwneud, yn hawdd, ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwneud gwahaniaeth mawr i'ch ôl troed carbon.

    Trên

    Cynlluniwch eich siwrne

    Bws

    Bysiau Wrecsam

    Bysiau Llaneurgain

  • Wythnos Troi’n Wyrdd

    Wythnos Go Green WGU yw’r wythnos sy’n dechrau ar 27 Chwefror 2023

    DRWY'R WYTHNOS

    Mae gennym ni weithgareddau ymlaen trwy gydol yr wythnos y gallwch chi ymuno â nhw unrhyw bryd

    ENNILL £50.00 DEWCH YN GYMUDWR CYNALIADWY

    Cyfnewidiwch eich gyriant llawn carbon yn ystod wythnos Go Green. Anfonwch eich llwybr*/tocyn trafnidiaeth gyhoeddus i energy&sustainability@glyndwr.ac.uk neu defnyddiwch #WGUsustainiblecommuter mewn neges cyfryngau cymdeithasol i gael eich cynnwys mewn raffl fawr

    * sgrinlun o'r llwybr o Strava neu ap tebyg

    PYTHEFNOS MASNACH DEG

    O 27 Chwefror / 13 Mawrth, prynwch goffi Masnach Deg yn un o'n mannau arlwyo a rhowch gynnig ar y raffl i ennill hamper o nwyddau Masnach Deg.

    ENNILL TALEB £50.00 - HELPU GWERTHWYR GWYRDD

    Archwiliwch rai o'r prosiectau gwyrdd y mae WGU wedi bod yn gweithio arnynt. Taleb fydd eich dewis o naill ai'r Fat Boar neu Love to Shop.

    Lawrlwythwch ap What3words.

    Dod o hyd i'r lleoliadau mewn trefn.

    Teipiwch y lleoliad tri gair yn y blwch chwilio a gwasgwch navigate.

    Codwch lythyren ym mhob lleoliad i ffurfio anagram, anfonwch eich atebion i energy&sustainability@glyndwr.ac.uk gyda'ch enw a'ch rhif myfyriwr.

    Beth ydw i'n edrych amdano

     

    What 3 Words

    Yn y lleoliad hwn fe welwch un o’n mannau ailgylchu newydd.

     

    Yn 2021, roedd gan y Brifysgol gyllid i wella ei didoli gwastraff ac ailgylchu a oedd yn ein galluogi i gyflwyno biniau â chôd lliw. Oeddech chi’n gwybod nad oes modd ailgylchu cwpanau coffi tafladwy ar hyn o bryd, felly dylech chi fynd yn y bin du gwastraff cyffredinol.

     

    Gall caniau, poteli plastig, papur a cherdyn fynd yn y biniau ailgylchu cymysg. Mae gennym bwynt ailgylchu ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd yn y ffreuturau a’r mannau gwerthu bwyd.

     

    ///rugs.monks.teach

    Yn y lleoliad hwn fe welwch ffynnon ddŵr.

     

    Mae holl ffynhonnau dŵr cyhoeddus y Brifysgol ar ap Refill.org.uk – mae cyfanswm o 8 ar draws pob campws. Os byddwch yn lawrlwytho’r ap mae’n dangos y man ail-lenwi agosaf ble bynnag yr ydych yn y DU – felly ni fydd angen i chi dalu am ddŵr potel byth eto os cofiwch eich potel ail-lenwi.

     

    ///covers.roofs.being

     

    Yn y lleoliad hwn fe welwch system gwresogi dŵr pŵer solar.

     

    Roedd hyn yn rhan o brosiect ymchwil prifysgol. Hawliodd myfyriwr £300 o'r Cynllun Lab Byw sy'n helpu i ariannu ymchwil cynaliadwyedd myfyrwyr.

     

    Mae gan y Brifysgol hefyd baneli ffotodrydanol ar Adeilad y Diwydiannau Creadigol a The Alive Hub yn Wrecsam, ynghyd â wal solar gyfan yn Llanelwy.

     

    ///occurs.just.deflection

    Yn y lleoliad hwn fe welwch bwynt gwefru cerbydau trydan.

     

    Yn 2021 buddsoddodd y Brifysgol mewn 2 fws mini trydan, 3 cherbyd trydan a 15 pwynt gwefru.

     

    ///shapes.lucky.chefs

     

    Yn y lleoliad hwn fe welwch opsiynau fegan

     

    Mae Aramark, contractwyr arlwyo’r Brifysgol, yn cynnig opsiwn fegan bob dydd ac mae ganddyn nhw ddewis eang o nwyddau Masnach Deg. Os ydych chi’n bwyta i mewn gallwch ddewis platiau a chyllyll a ffyrc y gellir eu hailddefnyddio ac osgoi deunydd pacio tecawê diangen na ellir ei ailgylchu ar hyn o bryd.

     

    Wyddoch chi, os ydych chi'n defnyddio cwpan amldro ar gyfer eich diodydd poeth, ni fyddwch yn gorfod talu'r gordal cwpan untro o 20c. Mae'r holl 20ps ychwanegol yn cael eu defnyddio i brynu cwpanau y gellir eu hailddefnyddio y byddwn yn eu dosbarthu i fyfyrwyr newydd yn Ffair y Glas.

     

    ///bumpy.desks.dream

     

    Yn y lleoliad hwn gallwch logi beic.

     

    Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi logi beiciau o'r ganolfan chwaraeon fel y gallwch chi wneud eich teithiau byr yn wyrddach? Mae prisiau llogi yn dechrau o £10.00 yr wythnos gyda'ch ID myfyriwr

     

    Gallwch hefyd ailgylchu eich batris yma hefyd.

     

    ///track.doors.privately

    Yn y lleoliad hwn fe welwch dŷ draenogod.

     

    Wyddech chi fod draenogod wedi prinhau hyd at 50% yn yr 20 mlynedd diwethaf? Ymunodd y brifysgol ag ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod i wneud y campws yn fwy ystyriol o ddraenogod a chodi ymwybyddiaeth o sut y gallwch chi fod yn fwy cyfeillgar i ddraenogod.

     

    ///exist.breed.mobile

    Yn y lleoliad hwn fe welwch rywle y gallwch fyfyrio.

     

    Mae'r ardd gymunedol ar agor trwy gydol y flwyddyn ar ddyddiau'r wythnos i chi ddod i fwynhau eiliad o dawelwch a lle i ymlacio. Mae’r ardd wedi’i dylunio gyda natur mewn golwg ac mae gennym ni ardaloedd o flodau gwyllt, planhigion i ddenu pryfed sy’n peillio ac amrywiaeth eang o blanhigion bwytadwy. Allwch chi weld broga yn ein pwll?

     

    ///grain.marker.ritual

    DYDD MAWRTH - EWCH FFAIR WERDD

    Lleoliad: Derbynfa

    Amser: 10yb-2yp

    Dewch i gael sgwrs i weld beth sydd ar gael yn ein ffair cynaliadwyedd. Ymhlith y sefydliadau a gynrychiolir mae:

    • Glyndwr gwyrdd
    • Rheoli Gwastraff Veolia
    • Ynni Groundworks
    • RSPB
    • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Glyndwr
    • Ynni Arloesol
    • Cadwch Gymru'n Daclus
    • Cyllid Myfyrwyr

    Lleoliad: Undeb y Myfyrwyr

    Amser: 11am-2pm

    Digwyddiad Cyfnewid Dillad

    Cyfnewidiwch y dillad rydych chi wedi diflasu arnyn nhw am rywbeth newydd. Os byddwch chi'n rhoi 5 neu fwy o eitemau gallwch chi gael brag am ddim.

    *Bydd eitemau sydd heb eu cyfnewid ar y diwrnod yn cael eu rhoi i elusen

     

    Lleoliad: Undeb y Myfyrwyr

    Amser: 11am-2pm

    Cornel Wybodaeth Werdd

    Dysgwch fwy am beth yw Undeb y Myfyrwyr i fod yn wyrdd gan gynnwys Cynllun Cymdeithas Glyndŵr Gwyrdd, Gardd Gymunedol, Cwpan Eto

    DYDD MERCHER - EWCH VEGGIE

    Lleoliad: United Kitchen

    Amser: Trwy'r dydd

    Bydd Aramark yn coginio bwyd fegan blasus yn United Kitchen a bydd opsiynau fegan ychwanegol ar gael mewn mannau arlwyo eraill

     

    Lleoliad: Derbynfa

    Amser: 10yb-2yp

    Bydd Garddwriaeth Cymru yn cynnig perlysiau a dognau microwyrdd am ddim sydd wedi’u tyfu’n hydroponig ar ein campws yn Llaneurgain ac yn arddangos system hydroponig pen bwrdd.

     

    Lleoliad: Gardd Gymunedol

    Amser: 12pm-1pm

    Ymunwch â ni yn yr ardd i bigo a phlannu eich hadau llysiau eich hun i fynd adref gyda nhw neu eu meithrin yn yr Ardd Gymunedol

     

    Lleoliad: B24

    Amser: 1pm-2pm

    Ymunwch â Dr Caroline Gorden a Tegan Brierley-Sollis ar gyfer eu darlith ‘Ydych chi’n cyflawni trosedd yn eich erbyn eich hun? Beth mewn gwirionedd yw’r ffordd orau o fynd yn wyrdd?’

    Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch le ar y sesiwn yma

    *bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio

    DYDD IAU - TEITHIO GYNALIADWY

    Lleoliad: Stryt y Rhaglaw

    Amser: 11am-1pm

    Dewch i gael sgwrs â staff y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr am yr hyn sy'n digwydd ym Mhrifysgol Glyndŵr i Fynd yn Wyrdd

    Lleoliad: Pentref Myfyrwyr Wrecsam

    Amser: 2pm – 4pm

    Darganfyddwch beth yw eich opsiynau ar gyfer teithio llesol yn Wrecsam a’r cyffiniau.

    Lleoliad: Canolfan Chwaraeon

    Amser: Trwy'r dydd

    Dewch i wybod am ein Cynllun Llogi Beiciau sy’n agored i bob myfyriwr

     

    Lleoliad: Green Glyndwr Social Media

    Amser: Trwy'r dydd

    Cymerwch ran yn ein holiadur teithio i’n helpu i ddeall ein hôl troed carbon a thargedu sut y gallwn wella opsiynau teithio gwyrdd

    Dysgwch am y cynllun beicio i'r gwaith sy'n agored i bob aelod o staff.

    Oes gennych chi gerbyd trydan neu wedi meddwl amdano – byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch chi ddefnyddio pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan y Brifysgol.

    GWENER - AILWILIO

    Lleoliad: Parc Borras

    Amser: 11-3pm

    Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddechrau plannu dros 700 o goed.

    Mae Tesco yn darparu byrbrydau i wirfoddolwyr yn hael.

    Bydd bysiau mini ar gael ar gyfer cludiant.

    Anfonwch e-bost at p.francis@glyndwr.ac.uk i gadw lle.

     

     

  • Pythefnos Masnach Deg

    Wyddoch chi y daethom yn Brifysgol Fasnach Deg yn 2018?

    Dywedodd y Sefydliad Masnach Deg mewn perthynas â'n cais,

    "Da iawn, rydych wedi rhoi cyfuniad arbennig o fanwl o bolisïau i ni sy'n dangos eich ymrwymiad yn helaeth i Fasnach Deg a'r camau sydd yn eu lle i sicrhau y cynhelir safon uchel o ymarfer foesegol. Mae eich cymhelliant wedi gwneud argraff dda arnom a gwych yw gweld y cydweithrediad posibl gyda grŵp Masnach Deg Wrecsam".

    Cynhyrchion Masnach Deg yn PGW

    Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gwerthu cynhyrchion Masnach Deg ar draws ei holl allfeydd arlwyo, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr, ac yn cynnig cynhyrchion Masnach Deg ym mhob cyfarfod mewnol ac allanol.

    Bob blwyddyn am bythefnos yn ystod mis Chwefror a Mawrth, mae Masnach Deg yn canolbwyntio ar fasnach drwy ymgyrchPythefnos Masnach Deg. Ynghyd â ffermwyr a gweithwyr Masnach Deg, ymgyrchwyr a busnesau ledled y wlad, maent yn pwysleisio'r gwahaniaeth y gall Masnach Deg ei wneud i fywydau a chymunedau.

    Cystadlaethau Pythefnos Masnach Deg i ennill Nwyddau Masnach Deg

    Rydyn ni'n cynnal cystadlaethau i ennill Nwyddau Masnach Deg, ac yn syml iawn mae prynu eitem Masnach Deg yn eich cynnwys mewn raffl i ennill rhai nwyddau.

     

     

  • Awr y Ddaear

    Ym mis Mawrth rydym yn cymryd rhan yn Awr y Ddaear.

    Bob blwyddyn, mae Awr y Ddaear, a threfnwyd gan WWF, yn digwydd rhwng 8:30pm a 9:30pm (amser lleol). Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl, busnesau a thirnodau yn rhoi awr i gynnal digwyddiadau, mae preswylwyr Prifysgolion yn diffodd eu goleuadau, mynd tu allan ac yn gwneud sŵn ar gyfer mudiad Awr y Ddaear.