Students in computing lab

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Rydym yn byw mewn byd cynyddol gysylltiedig, gan greu angen cynyddol am sgiliau technegol. Dyluniwyd Academi Rhwydweithio CISCO i ddarparu sgiliau technegol gwerthfawr i fyfyrwyr y mae gyflogwyr yn chwilio am yn y farchnad swyddi gystadleuol heddiw.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae Academi Rhwydweithio CISCO yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfranogi mewn profiad dysgu pwerus a chyson.
  • Caiff myfyrwyr cwricwla ar-lein o ansawdd uchel ac asesiadau gyda hyfforddiant dan arweiniad hyfforddwr cymwysedig.
  • Dysgu am hanfodion rhwydweithio cyfrifiadurol, yn ogystal â chael profiad o ffurfweddu dyfeisiau gwaith net (Switsys a llwybryddion) a dynodi rhwydweithiau bach (LANs).
  • Bydd cwblhau'r ail flwyddyn yn eich paratoi ar gyfer arholiad Ardystio CISCO.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r Academi yn cyfuno dysgu dan arweiniad hyfforddwr, ar-lein gydag ymarferion labordy ymarferol, lle gallwch gymhwyso yr hyn yr ydych yn ei ddysgu yn y dosbarth tra’n gweithio ar rwydweithiau cyfrifiadurol pwrpasol. Byddwch yn astudio agweddau damcaniaethol y rhaglen ar eich cyflymdra eich hun. Mae pob modiwl yn cynnwys elfen ymarferol, felly mae sesiynau ymarferol, ynghyd â chefnogaeth diwtorial ar gyfer y defnydd damcaniaethol, yn cael eu trefnu gydol y flwyddyn.

  • Sylfeini Rhwydweithiau
  • Protocolau a Chysyniadau Llwybro
  • Rhwydwaith Ardal Leol (LAN) Cyfnewid a Di-wifr
  • Cyrchu’r Rhwydwaith Ardal Eang (WAN)
  • Technoleg LAN a WAN
  • Rheoli Rhwydwaith
  • Ffurfweddu a Datrys Problemau Rhwydweithiau
  • Technoleg Rhyngrwyd, ISDD, Canolbwyntiau, Switsys, Llwybryddion a Phyrth
  • Mae’r protocolau llwybro yn cynnwys RIP, OSPF, EIGRP
  • Mae’r protocolau rhwydweithio yn cynnwys IPv4 ac IPv6

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion mynediad safonol ar gyfer y rhaglenni hyn yw gradd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â Chyfrifiadureg, neu gyfwerth mewn unrhyw radd ym maes gwyddoniaeth gydag elfen cyfrifiadura/peirianneg gadarn. Mewn rhai achosion gellir derbyn ymgeiswyr a chanddynt brofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol, yn amodol ar gyfweliad a thystlythyrau.

Cewch hefyd gwneud un o'r ddau fodiwl y flwyddyn (a adnabyddir fel cwrs byr). Am fwy o wybodaeth am yr opsiwn cwrs byr a sut i wneud cais, cysylltwch â enterprise@glyndwr.ac.uk.

Addysgu ac Asesu

Mae pob dyfarniad yn cynnwys pedwar modiwl sy’n cael eu hastudio mewn trefn ddilynol. Byddwch yn cwblhau prawf ar-lein ac ymarferol.

Ar ôl cwblhau'r 4 modiwl bydd myfyrwyr yn gymwys i sefyll arholiad Ailosod a Switsio CCNA. Mae'r rhain yn cynnwys dau arholiad, y 100-105 ICND1 a'r 200-105 ICND2. Mae'r arholiadau yn allanol ac nid ydynt yn rhan o ddarpariaeth y cwrs.

Ffioedd a chyllid

£125 am un modiwl (Gorfennaf - Awst)

£250 y flwyddyn (2 fodiwl)

£500 am bob modiwl (2 flynedd)

Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.