Neuschwanstein castle Germany

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

13 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Efallai eich bod chi eisiau gallu cyfathrebu â pherthnasau neu deithio i’r Almaen yn ystod eich gwyliau haf, neu baratoi ar gyfer astudio mewn gwlad Almaeneg ei hiaith. Efallai fod myfyriwr cyfnewid wedi tanio’ch diddordeb, neu fod gennych ffrind sydd wedi argymell dysgu Almaeneg. Beth bynnag yw’r rheswm, mae dysgu iaith newydd yn ddewis gwych.

Prif nodweddion y cwrs

  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith.
  • Dysgu gwybodaeth sylfaenol am yr Almaeneg.
  • Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad.

Beth fyddwch chin ei astudio

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn medru:

  • Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd syml.
  • Arddangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion dydd i ddydd cyfarwydd a brawddegau sylfaenol iawn.
  • Cyflwyno eu hunain a gofyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â gwybodaeth bersonol fel ble mae rhywun yn byw, beth yw swydd rhywun ayyb.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag shortcourses@wrexham.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Ffioedd a chyllid

£195 

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

dyddiadau cyrsiau

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.