Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o bwysigrwydd arloesi mewn busnes. Trwy archwilio dulliau a strategaethau sy’n ysbrydoli creu syniadau ac intrapreneuriaeth, byddwn yn ystyried adnoddau ac offer a fydd yn eich galluogi chi i ddefnyddio’r wybodaeth newydd hon yn eich maes eich hun.

Prif nodweddion y cwrs

• Deall pam fod arloesi yn hanfodol i lwyddiant unrhyw fusnes, yn enwedig ar adegau o aflonyddwch economaidd.
• Dysgu sut i gefnogi arloesedd, p’un a ydych chi’n arwain eich busnes eich hun neu’n gweithio mewn busnes sefydledig.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs byr hwn yn cael ei gynnal dros 8 wythnos, gyda phob wythnos yn rhoi sylw i agwedd gwahanol ar arloesedd a thwf busnes, fel yr isod;

  • Beth yw arloesedd mewn busnes?
  • Gwerth arloesedd er llwyddiant busnes
  • Dulliau arloesedd busnes a chynhyrchu syniadau
  • Strategaethau ar gyfer creu diwylliant arloesedd
  • Intrapreneuriaeth
  • Adnoddau i asesu ymarferoldeb syniadau newydd
  • Archwilio ac asesu risgiau
  • Llwyddiant busnes

Mae'r cwrs hyblyg hwn yn cynnig dull cyfun o ddysgu, gan gyfuno hwylustod dysgu ar-lein â rhyngweithio hyfforddiant ystafell ddosbarth. Cynhelir sesiynau grŵp personol ar gampws Wrecsam gan ddarparu platfform rhyngweithiol i'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan i rannu eu profiad dysgu.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar sail pwnc wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos eu dysg. Y disgwyliad ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau.

Bydd canllawiau clir yn cael eu rhoi i fyfyrwyr ynghylch disgwyliadau ac asesiadau myfyrwyr.  Ni fydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio dull cyfeirio Harvard, ond bydd angen iddynt restru eu ffynonellau gwybodaeth.  Bydd yr asesiadau yn 8 x cyfraniadau 250 gair i fforwm trafod, a byddant yn cynnwys tasgau seiliedig ar farn, ymchwil neu brofiad sy'n gysylltiedig â'r cynnwys wythnosol.   Cynghorir myfyrwyr i gwblhau un fforwm bob wythnos, ac ni ddylai ymestyn eu hamser astudio o fwy na 30 munud yr wythnos

Ffioedd a chyllid

£75

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Manyleb y rhaglen

Bydd deunydd ar gael drwy Moodle, a bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio'r cynnwys, a fydd yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio, podlediadau ac erthyglau, ac astudio yn eu hamser eu hunain, er bod rhywfaint o ddisgwyl iddynt anelu i gadw ar flaen y gwaith bob wythnos. (h.y. bod tasgau ar gyfer wythnos 1 yn cael eu cwblhau rhywbryd cyn pen wythnos 1).

Mae'r cwrs byr hwn yn gofyn i'r myfyriwr neilltuo 3 awr yr wythnos i'w astudiaeth, ond nid oes gofyn iddo fod ar-lein ar adeg benodol.  

Dyddiad y Cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.