(Cwrs Byr) Arweinwyr y Dyfodol
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 11 wythnos
- Lleoliad Ar-lein
-3-1360x1360.jpg)
Pam dewis y cwrs hwn?
Boed chi ar ddechrau eich gyrfa broffesiynol neu’n awyddus i gymryd y cam nesaf ar yr ysgol yrfa, bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i feithrin eich hyder drwy ddeall yn well yr hyn sydd ei angen i fod yn arweinydd ym myd gwaith heddiw.
Prif nodweddion y cwrs
Bydd y cwrs yn seiliedig ar gysyniadau academaidd a phrofiadau personol i ystyried meysydd megis:
- Diffinio arweinyddiaeth
- Dulliau arwain
- Cymhelliant
- Rheoli perfformiad
- Dirprwyo
- Strwythurau mewn sefydliadau
Yn ogystal, bydd y cwrs yn annog ymgeiswyr i hunanadfyfyrio ar bynciau megis:
- Gwytnwch
- Brand personol
- Dulliau cyfathrebu gwahanol
- Y gallu i adfyfyrio ar ein gweithredoedd a’n profiadau ein hunain
- Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae'r cwrs wedi'i dorri i lawr i 10 sesiwn wahanol, gan gynnwys un sesiwn a asesir. Caiff y deunyddiau eu cyflwyno mewn gweithdai rhithwir, byw o 2 awr, gyda'r cyfle am astudiaeth bellach ar ôl bob sesiwn. Er bod cyfle i recordio gweithdai, y disgwyliad yw i gynrychiolwyr geisio ymuno â'r holl sesiynau a chymryd rhan yn y trafodaethau.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'n ofynnol ar gyfer y cwrs i chi fynychu sesiynau trwy ein gweithdai ar-lein rhwng 7yh a 9yh ar y dyddiadau uchod, gydag adnoddau ar-lein yn cael eu darparu ar gyfer astudio ychwanegol.
I wneud cais am y cwrs, ewch i'r siop ar-lein.
Addysgu ac Asesu
Mae'r cwrs yn cynnwys 4 aseiniad wedi'u hasesu y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn derbyn y credydau ar gyfer y rhaglen. Mae'r rhain wedi'u dylunio i atgyfnerthu dysg a'ch helpu chi i ddatblygu fel unigolyn proffesiynol yn eich maes dewisol ac yn cynnwys: cyflwyniad grŵp rhithwir, aseiniad myfyriol, aseiniad arweinyddiaeth, cofnod datblygiad proffesiynol parhaus.
Ffioedd a chyllid
£150 ffi safonol / £100 ar gyfer staff PGW
Dyddiadau'r cwrs
Bydd holl sesiynau’r cwrs yn cael eu cynnal rhwng 9am ac 1pm ar y dyddiadau canlynol, oni bai y nodir yn wahanol isod:
13 Mai 2022 – Sesiwn gyflwyno. Mae hon yn sesiwn fer rhwng 10am a 12pm.
20 Mai 2022 – Athroniaethau ac Arddulliau Arwain
27 Mai 2022 – Briffio Aseiniadau a Chymhelliant
10 Mehefin 2022 – Hyblygrwydd Newid a Llywodraethu
17 Mehefin 2022 – Rheoli Perfformiad, Dirprwyo a Pharatoi Aseiniad Grŵp
24 Mehefin 2022 – Hyfforddi a Dylanwadu
1 Gorffennaf 2022 – Arddulliau Cyfathrebu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
8 Gorffennaf 2022 – Diwrnod asesu’r aseiniad grŵp
15 Gorffennaf 2022 – Gwytnwch a Hunan Hyder. Mae hon yn sesiwn fer rhwng 11am ac 1pm. Bydd y sesiwn hon hefyd yn cynnwys modiwl Ymarfer Myfyriol wedi’i recordio ymlaen llaw.
22 Gorffennaf 2022 – Brand Personol a dod â’r Rhaglen i Ben / Camau Nesaf