(Cwrs Byr) Asesu a Rheoli Mân Salwch
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 10 wythnos
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r modiwl hwn yn galluogi ymarferwyr i weithio’n effeithiol ac yn effeithlon o fewn cyfyngiadau darpariaeth gofal iechyd gyfoes wrth reoli mân anhwylderau, er mwyn gwella arbenigedd ymarferwyr wrth asesu a rheoli mân anhwylderau.
Prif nodweddion y cwrs
- Meithrin eich hyder fel ymarferydd sy’n asesu ac yn rheoli mân anhwylderau, drwy gyfuno a gwerthuso’r ffordd y rheolir mân anhwylderau drwy becyn addysgu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Dull dysgu cyfunol.
- Cael 20 credyd ar lefel 6/7 ar ôl ei gwblhau.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cymryd hanes clinigol, cyfathrebu proffesiynol ac atgyfeirio cyflwyniadau mân salwch ym mhob lleoliad perthnasol.
- Rhesymu diagnostig
- Ymyriad therapiwtig a phresgripsiynu ffordd o fyw.
- Dehonglir profion gwaed sylfaenol
- Asesu a rheoli cymryd hanes clinigol, holistiaeth therapiwtig, rheoli comorbidrwydd a gwella clwyfau, rheoli anhwylderau trwyn, clust a gwddf, arholiadau chwarennau lymff, dermatoleg, anhwylderau anadlol, abdominyddol, cur pen, rheoli poen cefn, cyflwyniadau pediatrig cyffredin
- Bydd angen i ymgeiswyr gael mynediad at amgylchedd clinigol addas a mentor clinigol sy'n barod i'w goruchwylio'n ymarferol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'n ofynnol bod myfyrwyr gyda dwy flynedd o brofiad ôl-gofrestru fel Gweithiwr Gofal Iechyd Cofrestredig mewn lleoliadau gofal heb ei drefnu neu wedi'i drefnu.
Addysgu ac Asesu
Cyflwyno poster.
Ffioedd a chyllid
£580 ar lefel 6
£800 ar lefel 7
Dyddiadau'r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cychwyn ar 27 Ebrill 2022