(Cwrs Byr) Avid Pro Tools - Cwrs Lefel Defnyddiwr

sound tech student

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

12 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynhyrchu cyfryngau ac eisiau dysgu sgiliau technoleg newydd? Bydd y cwrs addysgiadol hwn a ddatblygwyd gan Brifysgol Wrecsam yn dysgu mewnwelediadau meddalwedd Avid Pro Tools a ddefnyddir i olygu cerddoriaeth a sain.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae'r cwrs byr hwn yn ymdrin â chynnwys Cwricwlwm Lefel ‘Defnyddiwr’ Avid Pro Tools ar gyfer cymwysterau 101 a 100.
  • Bydd yn eich cyflwyno i’r cysyniadau meddalwedd a chaledwedd ac yn eich addysgu sut i ddefnyddio technegau a strategaethau golygu cynhyrchiad cyfryngau ar gyfer cydbwyso a chwblhau sain ar gyfer y Cyfryngau.
  • Mae Ardystiad Avid yn cael ei gydnabod ledled y byd ac mae'n helpu gweithwyr proffesiynol i ennill a dangos y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gynyddu eu gwerth, eu cymhwysedd a’u heffeithiolrwydd yn y diwydiant cyfryngau cystadleuol iawn.

 

 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys y pynciau cyffredinol canlynol ar Lefel Sylfaenol Avid Pro Tools:

  1. Cefndir: Hanes Pro Tools ac Egwyddorion Sain Ddigidol
  2. Cysyniadau caledwedd a meddalwedd Pro Tools
  3. Prosesau Golygu Pro Tools
  4. Prosesau Recordio Pro Tools
  5. MIDI Pro Tools
  6. Prosesau Cymysgu Pro Tools
  7. Prosesau Gorffen Pro Tools
  8. Llif gwaith diwydiant ar gyfer Pro Tools

Cyflwynir trwy weithgareddau dysgu cyfunol gyda chymysgedd o sesiynau byw, cynnwys ar-lein wedi'i recordio a rhywfaint o bresenoldeb ar y campws.

 

Addysgu ac Asesu

Bydd asesiad Wrecsam gorfodol o ddysgu myfyrwyr ar ffurf Blog wythnosol (hyd canllaw o 300 o eiriau) a chwis ar-lein. Bydd yr ardystiad Avid yn ddewisol ac ar ffurf arholiad ar-lein wedi’i amseru y mae’n rhaid i’n Hyfforddwr Ardystiedig Glyndwr Avid ei goruchwylio.

 

Ffioedd a chyllid

Pris llawn: £195

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Dyddiad Cychwyn: Dydd Mercher 22 Mai 2024

Bydd angen i chi fewngofnodi bob wythnos i gael mynediad at y cynnwys ac i astudio’r cwrs.