CIM mewn Marchnata Digidol Proffesiynol

Manylion cwrs

  • Hyd y cwrs 1 Blwyddyn
  • Côd y sefydliad G53
  • Lleoliad Wrecsam
Close up of hands on a laptop keyboard

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r Diploma lefel 6 mewn Marchnata Digidol Proffesiynol wedi'i ddatblygu yn dilyn ymchwil eang a arweinir gan gyflogwyr, gan gynnwys busnesau bach, sefydliadau rhyngwladol a marchnatwyr niferus ar draws ystod o swyddogaethau marchnata a busnes.

Prif nodweddion y cwrs

  • Fel rhan o'r cwrs, bydd myfyrwyr yn dod yn arbenigwr digidol gyda'r Ddiploma CIM mewn Marchnata Diploma mewn Marchnata Digidol Proffesiynol.
  • Byddwch yn dod yn aelod myfyriwr o'r Sefydliad Marchnata Siartredig, sy'n cynnig nifer o fuddion; mae rhai ohonynt yn cynnwys cylchgrawn The Catalyst, mynediad at gyfoeth o wybodaeth ar-lein a mewnwelediad ymarferol, gwahoddiadau i ddigwyddiadau marchnata a rhwydweithio lleol, cyngor cyfreithiol am ddim a chymorth datblygu gyrfa.
  • Mae nodiadau cwrs ac asesiadau ar gael trwy'r we fel y gallwch hefyd astudio gartref neu yn y gwaith.
  • Mae gan staff yr Ysgol Fusnes gysylltiadau â chymuned fusnes y rhanbarth, ac maent yn mwynhau perthynas cryf gyda sefydliadau proffesiynol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Optimeiddio digidol

 
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o oblygiadau strategol datblygiadau yn yr amgylchedd digidol, yn ogystal â'u heffaith ar farchnata. Bydd hyn yn eich galluogi i integreiddio a gwneud y defnydd gorau o farchnata digidol yn ogystal â datblygu ymatebion strategol i newid.
 

Y Profiad Cwsmer Digidol

 

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cipolwg i chi ar brofiad y cwsmer digidol ac yn amlygu ffyrdd o addasu i'r farchnad newidiol hon, sy'n eich galluogi i gyflawni anghenion strategol cwsmeriaid. Bydd yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau i ddewis sianeli priodol i'r farchnad er mwyn cyflawni amcanion. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau eich bod yn darparu'r profiad a ddymunir i gwsmeriaid, drwy ddeall taith y cwsmer wrth gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol. 

 

Marchnata a Strategaeth Digidol


Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddilyn dull strategol traddodiadol a digidol o gynllunio marchnata, gan integreiddio strategaeth ddigidol, modelau, fframweithiau a thechnegau drwyddi draw er mwyn sicrhau mantais gystadleuol.

 

I gyflawni'r cymhwyster, mae angen myfyrwyr pasio bob un o'r tri modiwl gorfodol.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae angen un neu ragor o'r canlynol er mwyn cael mynediad i'r cymhwyster hwn:

 

  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Marchnata Lefel 4 y CIM neu Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol Lefel 4 y CIM
  • unrhyw gymhwyster lefel 4 perthnasol
  • Gradd sylfaen mewn Busnes â Marchnata
  • Gradd Baglor neu Radd Meistr oddi wrth brifysgol gydnabyddedig, gydag o leiaf un rhan o dair o'r credydau yn dod o gynnwys marchnata (h.y. 120 credyd mewn graddau Baglor neu 60 o gredydau gyda graddau Meistr)
  • Ymarfer proffesiynol (awgrymir dwy flynedd o farchnata mewn rôl weithredol) ac asesiad diagnostig i lefel 6)

 

Fodd bynnag, mae angen tystiolaeth o gyflawni un o'r cymwysterau Saesneg iaith canlynol o fewn y ddwy flynedd diwethaf hefyd os nad Saesneg yw iaith gyntaf y myfyriwr: modiwl academaidd IELTS gyda sgôr cyffredinol o 6.5 (rhaid i marc pob cydran fod neu'n 6.0 neu uwch) neu mae angen Tystysgrif Saesneg Uwch Cambridge gradd B neu uwch. Bydd CIM yn ystyried dewisiadau amgen cyfatebol eraill. 
Ffurflen gais uniongyrchol
Am ymholiadau derbyn cyffredinol, cysylltwch â'n tîm derbym ar 01978 293 439 neu e-bost enquiries@glyndwr.ac.uk
 
 

 

 

 

 

Addysgu ac Asesu

Cynhelir y cwrs fel arfer ar nosweithiau rhwng 6 a 9yh, gyda gweithdai aseiniad a thiwtorialau ar gael ar wahân. Bydd eich tiwtor ar gael i'ch tywys trwy eich ymchwil ac i roi adborth ar yr aseiniad cyn ei gyflwyno. Asesir y modiwlau drwy aseiniad a seilir ar senario gosod a sefydliad o ddewis y myfyrwyr.

 

Rhagolygon gyrfaol

Daw myfyrwyr CIM o amrywiaeth eang o gefndiroedd busnes megis y sector cyhoeddus, telegysylltiadau, amaethyddaeth, hamdden, twristiaeth, bwyd, cludiant, gweithgynhyrchu a gwasanaethau ariannol. Mae rhai wrthi’n astudio ar gyfer graddau neu wobrau uwchraddedig ond yn ymwybodol o’r fantais gystadleuol y mae cymhwyster proffesiynol yn ei roi iddynt.

 

Gallai eraill fod yn meddwl am neu newydd gychwyn gyrfa mewn gwerthu neu farchnata heb feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond sydd eisiau cael y sgiliau marchnata a fydd yn eu helpu i gyflawni eu nodau datblygiad proffesiynol. Mae yna lefel sy’n addas ar gyfer amcanion gyrfaol pawb.

 

Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

 

Ffioedd a chyllid

Gall myfyrwyr ddewis astudio un, dau neu dri modiwl. Y ffi ar gyfer modiwlau yw  £650 y modiwl. Y cymhwyster llawn yw £1700 y myfyriwr.


Os cânt eu hastudio ar wahân, gellir cael dyfarniad unigol. Teitlau'r rhain yw:

Strategaeth Ddigidol = Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Strategaeth Ddigidol

Hyrwyddo Profiad Digidol = Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Hyrwyddo Profiad Digidol

Meistroli Sianeli Digidol = Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Rheoli Sianeli Digidol

 

 

Mae ffioedd yn cynnwys pob hyfforddiant a chymorth ffurfiol.  Nid yw'r ffioedd uchod yn cynnwys aelodaeth na ffioedd asesu CIM. Mae'r rhain fel a ganlyn:

 

  • Aelodaeth flynyddol £60
  • Cyfanswm y ffioedd asesu - £555 (£435**)

 

Dyddiadau'r cwrs

TBC