(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Ail-greu Wyneb
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 1 diwrnod
- Lleoliad Wrecsam
.jpg)
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs byr undydd hwn wedi’i gynllunio i gyflwyno a datblygu egwyddorion sylfaenol anthropoleg a chelfyddyd fforensig a ddefnyddir wrth ail-greu wyneb at ddibenion fforensig. Bydd myfyrwyr yn astudio’r brif wybodaeth wyddonol a’r defnydd ymarferol creadigol er mwyn ail-greu wyneb yn llwyddiannus o weddillion dynol.
Prif nodweddion y cwrs
- Cymryd rhan mewn ystod o weithdai ymarferol a darlithoedd wedi’u cynnal mewn un diwrnod.
- Herio’r hyn roeddech yn ei wybod am y pwnc mewn seminarau trafod.
- Datblygu sgiliau annibynnol a gweithio mewn tîm.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cyflwyniad i Ail-greu Wyneb at ddibenion Fforensig
- Adnabod Rhyw gan ddefnyddio’r Penglog
- Adnabod Oedran ar adeg y Farwolaeth gan ddefnyddio’r Penglog
- Ail-greu Wyneb 2D
- Astudiaethau Achos
- Ail-greu Wyneb 3D gan ddefnyddio clai
Addysgu ac Asesu
Bydd myfyrwyr yn cyflwyno portffolio sy’n cynnwys ystod o ddeunyddiau sy’n berthnasol i ail-greu wyneb at ddibenion fforensig a’r sgiliau celfyddydol ac anthropolegol sy’n sail i hyn. Bydd hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i ail-greu wyneb dynol ar ffurf 2D a 3D.
Ffioedd a chyllid
£45
Dyddiadau'r Cwrs
Dydd Llun Ionawr 17 2022
Dydd Sadwrn Ebrill 9 2022
Dydd Mercher Gorffennaf 13 2022