(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Bêl-Droed Cerdded
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 6 wythnos
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Pêl-droed cerdded yw pêl-droed heb orfod rhedeg! Mae chwarae’r gêm ar gyflymder sydd mwy o fewn cyrraedd y chwaraewr yn dileu rhwystrau ac yn sicrhau bod rhagor yn gallu chwarae. Mae’r gamp ar gael i’r rheiny sydd am barhau i chwarae pêl-droed, ond a allai fod wedi cael eu gorfodi i roi’r gorau iddi oherwydd oed, anaf ac ati.
Mae poblogrwydd y math hwn o chwaraeon yn tyfu ac mae’r cwrs byr hwn yn rhoi arweiniad pellach i unigolion ar gynnal sesiynau pêl-droed cerdded ar gyfer grwpiau cymdeithasol amrywiol.
Prif nodweddion y cwrs
- Dysgu cyfunol, gyda 10 awr o ddysgu ar-lein ac 1 diwrnod llawn o ddysgu ymarferol wyneb yn wyneb
- Helpu i ennyn diddordeb pobl mewn pêl-droed, pobl o oedran a gallu amrywiol
- Dysgu sut i gynnal sesiynau pêl-droed cerdded
Beth fyddwch chin ei astudio
- Pwrpas a Manteision Pêl-droed dan Gerdded
- Rheolau a Rheoliadau
- Gwahanol Grwpiau Poblogaeth
- Ymgysylltu â'r Gymuned
- Peryglon Anafiadau
- Profion Sgrinio Anafiadau ac Ail-brofion
- Dylunio Sesiwn
- Technegau Cynhesu ac Oeri
- Allbwn Technegol a Thactegol
- Dadansoddiad o Ddangosyddion Perfformiad Gwahanol
Gofynion mynediad a gwneud cais
I wneud cais, ewch i'r siop ar-lein.
Addysgu ac Asesu
Bydd portffolio yn darparu tystiolaeth o daith y myfyriwr ar y cwrs. O fewn y portffolio a adeiladwyd ymlaen llaw, bydd sawl taflen waith sy'n ymwneud â chynnwys sy'n ansyncronaidd â chynnwys ar-lein y modiwl. Bydd gofyn i'r myfyriwr gwblhau'r tasgau portffolio yn dyst o'u hymgysylltiad gyda'r modiwl.
Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau asesiad llafar. Yn Rhan 1, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddylunio sesiwn pêl-droed dan gerdded 45 munud ar gyfer demograffig penodol o fewn cymdeithas. Bydd y sesiwn yn cynnwys yr adrannau canlynol:
• Cynhesu
• Ymarfer Technegol
•SSG
• Oeri
Yn Rhan 2, bydd y myfyriwr yn cyflwyno/trafod y sesiwn gyda'r arweinydd modiwl ac yn cymryd rhan mewn 10 munud o gwestiynau yn ymwneud â'r sesiwn.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau'r cwrs
28 Mawrth 2022