(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Broffesiynau Iechyd Cysylltiedig
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 8 wythnos
- Lleoliad Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r modiwl hwn wedi'i anelu at bobl sy'n ystyried astudio, neu sydd â diddordeb mewn ehangu eu gwybodaeth am Broffesiynau Iechyd Cysylltiedig (AHPs). Bydd myfyrwyr yn cael mewnwelediad i werthoedd a chwmpas y proffesiynau hyn a sut maent yn gweithio ar y cyd fel rhan o dîm gofal iechyd ehangach.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros gyfnod o 8 wythnos fel a ganlyn.
- Ymarfer Proffesiynol - Cyflwyniad i gyd-destunau a lleoliadau’r cwrs, gwerthoedd, ymddygiadau a moeseg gofal iechyd (cydamserol)
- Cyflwyniad i Ffisiotherapi - Trosolwg o weithio yn y proffesiwn, cymwysterau, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol (cydamserol)
- Cyflwyniad i Faeth a Deieteg - Trosolwg o weithio yn y proffesiwn, cymwysterau, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol (cydamserol)
- Cyflwyniad i Therapi Iaith a Lleferydd - Trosolwg o weithio yn y proffesiwn, cymwysterau, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol (cydamserol)
- Cyflwyniad i Therapi Galwedigaethol - Trosolwg o weithio yn y proffesiwn, cymwysterau, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol (cydamserol)
- Cyflwyniad i Barafeddygaeth - Trosolwg o weithio yn y proffesiwn, cymwysterau, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol (cydamserol)
- Cyflwyniad i Arfer yr Adran Llawdriniaethau - Trosolwg o weithio yn y proffesiwn, cymwysterau, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol (cydamserol)
- Crynodeb o’r Modiwl ac Asesiad - Sgiliau cyflogadwyedd a gyrfaoedd ar gyfer AHPs a chanllawiau ar gyfer asesiad ysgrifenedig 2 (cydamserol)
Addysgu ac Asesu
Asesiad 1 - cwis ar-lein
Asesiad 2 - datganiad myfyriol
Disgwylir i fyfyrwyr gyrraedd 40% mewn asesiadau.
Ffioedd a chyllid
RHAD AC AM DDIM