(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Cyd-gynhyrchu

Manylion cwrs

  • Hyd y cwrs 4 wythnos
  • Lleoliad Ar-lein
A student using a laptop

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs byr hwn yn edrych ar ddull cydgynhyrchu mewn gwasanaethau cyhoeddus sy’n seiliedig ar asedau. Cewch ddarganfod sut y mae’n galluogi’r bobl sy’n darparu gwasanaethau a’r bobl sy’n eu derbyn i rannu pŵer a chyfrifoldeb, ac i weithio gyda’i gilydd mewn perthynas sy’n gyfartal, yn ddwyochrog ac yn ofalgar.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyflwyniad manwl i egwyddorion allweddol cydgynhyrchu a’r defnydd arno wrth gomisiynu, dylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.
  • Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rhai sydd yn hollol newydd i gydgynhyrchu, yn ogystal â’r rheiny sydd am adfyfyrio ar eu harfer cyfredol a’i ddatblygu.
  • Cyflwynir y cwrs mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
  • Astudio ar-lein yn ddi-dâl.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno egwyddorion cyd-gynhyrchu ac yn archwilio amrywiaeth o ddulliau gweithredu a thechnegau sydd ynghlwm â phob egwyddor yn ogystal ag enghreifftiau o gyd-gynhyrchu ar waith.

Gwahoddir myfyrwyr i adlewyrchu ar gymhwyso'r egwyddorion hynny yn eu gwaith eu hunain.

Pynciau yr ymdrinnir â nhw ar y cwrs hwn;

  • Diffiniadau cyd-gynyrchu
  • Astudiaethau achos cyd-gynhyrchu ar waith
  • Cyd-gynhyrchu yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, tai, y celfyddydau a datblygiad cymunedol
  • Y comisiynu, y cyd-dylunio, cyd-trosglwyddiad a chyd-gymhwyso
  • Adnoddau ymarferol, cymorth a chefnogaeth ar gyfer ymarfer cyd-gynhyrchu
  • Cyflwyniad i theori cymhlethdod yng nghyd-destun cyd-gynhyrchu
  • Cyd-gynhyrchu ar-lein

Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno ar-lein yn llwyr dros gyfnod o 4 wythnos;

  • Podlediadau dyddiol: yn cynnwys ystod amrywiol o ymarferwyr cyd-gynhyrchu yn rhannu eu meddyliau a'u profiadau.
  • Seminarau byw: i drafod a myfyrio ar gynnwys y cwrs.
  • Briffiau tasg ymarferol: i gefnogi cynnwys cwrs yn ymarferol
  • Sesiynau 'Gofynnwch unrhyw beth': ar gyfer sgyrsiau uniongyrchol gyda thiwtor y cwrs.
  • Fforwm drafod.
  • Cysylltiadau â darllen argymelledig a chyfryngau eraill; tynnu ar gronfa wybodaeth helaeth Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.

Addysgu ac Asesu

Bydd asesiad ar ffurf cwblhau 'canfas cynllun gweithredu'. Bydd y dyfarniad yn amodol ar y lefel leiaf o ymgysylltiad â phob agwedd ar ddarpariaeth y cwrs, a bodloni'r meini prawf asesu lleiaf.

 

Ffioedd a chyllid

Am ddim