(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil Ansoddol a Sgiliau Dadansoddi ar gyfer Seicoleg

Woman standing in front of whiteboard

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr MSc Newydd mewn Seicoleg Trosi sydd heb astudio Seicoleg cyn hyn gan ei fod yn darparu trosolwg o ddyluniad ymchwil ansoddol, trawsgrifiad cyfweliad, dadansoddi a sut i adrodd am ddarganfyddiadau mewn fformat arddull APA.

Mae'r cwrs yn ddelfrydol hefyd ar gyfer y rhai sy'n dymuno gloywi eu gwybodaeth o sgiliau ymchwil ansoddol a dadansoddi.

Bydd y cwrs hwn yn:

  • Mynd i'r afael â chyflwyniad i ddulliau ymchwil ansoddol
  • Darparu dealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng dadansoddi data ansoddol a meintiol, y dull y cesglir data ansoddol a'r modd y dadansoddir y math yma o ddata
  • Canolbwyntio ar ddadansoddi thematig a'r broses o drawsgrifio o gyfres o gyfweliadau a ddarperir i fyfyrwyr

Prif nodweddion y cwrs

  • Profiad ac ymarfer dadansoddi ansoddol megis dadansoddi thematig
  • Ennyn dealltwriaeth o ddamcaniaeth a'r dulliau sy'n ymwneud â dylunio ansoddol a dadansoddi o fewn Seicoleg
  • Datblygu trosolwg o sut mae dadansoddi ansoddol yn wahanol i ddadansoddi meintiol
  • Datblygu profiad o brosesau paratoi ar gyfer dadansoddi data megis trawsgrifio recordiadau o gyfweliadau
  • Dysgu sut i adrodd am ddarganfyddiadau ansoddol mewn fformat arddull APA
  • Gall myfyrwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain drwy gynnwys a recordiwyd ymlaen llaw bob wythnos a chael cyfle i drafod ymholiadau a gwybodaeth gyda'u cyfoedion a thiwtoriaid mewn sesiynau ar-lein ar ddiwedd yr wythnos
  • Astudio am ddim ar-lein
 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Bydd y sesiynau wedi'u recordio ac adnoddau dysgu'n cael eu rhyddhau bob dydd Llun
  • Disgwylir i fyfyrwyr fynychu sesiwn Teams bob dydd Gwener ar gyfer seminar i drafod ac ymgysylltu â'r dysgu ar gyfer y pwnc wythnosol
  • Hefyd, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau hunangyfeiriedig yn dilyn cyngor y tiwtor cwrs yn y recordiadau wythnosol. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu gyda'r pwnc a'r dysgu, a fydd yn cael eu trafod ymhellach yn y sesiwn seminar i gadarnhau ac egluro
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ymgeiswyr ar gyfer rhagle MSc Newydd mewn Seicoleg Trosi a myfyrwyr BSc (Lefel 4 sy'n mynd ymlaen i 5, lefel 5 sy'n mynd ymlaen i 6) a myfyrwyr presennol MSc Seicoleg Trosi Wrecsam yn unig mae'r cwrs byr hwn ar hyn o bryd.

I fynnu eich lle, anfonwch e-bost i PostGrad.Psychology@glyndwr.ac.uk

 

Addysgu ac Asesu

  • Portffolio o asesiad
  • Y marc llwyddo ar gyfer y cwrs yw 40%
  • Mae hwn yn gwrs tair wythnos, a disgwylir i'r holl fyfyrwyr weithio ar gynnwys y cwrs yn ystod y cyfnod hwn
 

Rhagolygon gyrfaol

 

 

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

 

Manyleb y rhaglen

 

 

Llety

 

 

Dyddiadau cwrs

Mawrth 27 – Ebrill 28 2023 (Gwyliau Pasg 2 wythnos)

Aseiniad: Mai 2 2023.

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.