(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Ddylunio Gwefannau

Manylion cwrs

  • Hyd y cwrs 4 wythnos
  • Lleoliad Ar-lein
Students at computer

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i ddylunio gwefannau. Bydd dysgwyr yn dod i wybod am yr arferion gorau ynghylch sut i greu gwefan, dewis parth, ystyriaethau yn ymwneud â lletya, dylunio safle, brandio ac optimeiddio peiriannau chwilio.

Prif nodweddion y cwrs

  • Creu prosiect dylunio eich gwefan eich hun, yn seiliedig ar sefydliad neu fusnes o’ch dewis.
  • Rhoddir cefnogaeth yn ogystal â chyfleoedd i drafod gyda chydfyfyrwyr trwy drafodaeth dan arweiniad ar y fforymau ar-lein.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd dysgwyr yn deall cysyniadau allweddol dylunio gwefan gan gynnwys cofrestru parth, cynnal a meddalwedd ac ystyriaethau ynghylch optimeiddio peiriannau chwilio (SEO). Ymdrinnir â chysyniadau allweddol adeiladu gwefannau gan gynnwys templedi ac e-fasnach. Bydd dysgwyr yn gadael gyda thempled byr dylunio gwe cymhwysol, cymhwysol.

  • Cyflwyniad i Ddylunio Gwe
  • Parthoedd Lletya a Meddalwedd
  • Briff Dylunio
  • Defnyddio Templedi
  • Hanfodion SEO

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

I gadw lle ewch i'n siop ar-lein. 

Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs. Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect sy'n cynnwys datblygu dyluniad gwefan, yn seiliedig ar wella perfformiad marchnata digidol sefydliad o'u dewis, fel arfer eu sefydliad eu hunain. Mae'r cynllun yn adlewyrchu'r cynnwys wythnosol ac yn seiliedig ar dempled ymarferol a ddarperir. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos eu dysg. Y disgwyliad ar gyfer nifer geiriau'r cynllun gwella yw 1,000 gair.

 

Ffioedd a chyllid

£45

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r Cwrs

1 Mehefin 2023