(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Drin Cŵn Chwilio
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 2 wythnos
- Lleoliad Ar-lein, Northop

Pam dewis y cwrs hwn?
Cewch ddysgu’r sgiliau a chael y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sylfaenol sy’n angenrheidiol i Hyfforddwyr Cŵn Chwilio i sicrhau gwasanaeth ar lefel broffesiynol. Bydd y cwrs hwn yn helpu i’ch paratoi at yr hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer gyrfa yn y maes hwn, ac yn rhoi’r cyfle i chi wneud gwaith ymarferol yn efelychu tîm hyfforddi cŵn chwilio.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygwyd ar y cyd ag UK-K9 Training for Excellence
- Wedi’i gymeradwyo gan NASDU (Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer Defnyddwyr Cŵn Diogelwch)
- Dysgu cyfunol, sef ar-lein ac mewn person
- Sesiynau ymarferol yn efelychu gwaith tîm cŵn chwilio.
Beth fyddwch chin ei astudio
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio:
- Cyflwyniad i Rinweddau Triniwr a Chŵn
- Egwyddorion Hyfforddi Chwilio
- Rheoli a Dulliau Chwilio
- Cofnodi a Dogfennaeth
- Cŵn Diogelwch Arbenigol a Darganfod
- Cynllunio Hyfforddiant a Gyrfa
Gofynion mynediad a gwneud cais
I wneud cais am y cwrs, ewch i'r siop ar-lein.
Addysgu ac Asesu
Byddwch angen cwblhau dau asesiad:
1. Bydd yr asesiad cyntaf yn ymarfer chwilio ffug, lle byddwch yn chwarae rôl aelod o dîm trin cŵn chwilio ac yn gorfod cynllunio a gwneud ymarfer chwilio.
2. Bydd yr ail yn gofnod myfyriol ar eich perfformiad ar y gweithgaredd chwilio ffug.
Ffioedd a chyllid
£95
Dyddiadau cyrsiau
Rhaid cwblhau dysgu ar-lein rhwng 1 Awst 2022 a 15 Awst 2022
2 ddiwrnod o weithgarwch ymarferol ar gampws Llaneurgain ar 17 a 18 Awst 2022.