(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Frandio

Manylion cwrs

  • Hyd y cwrs 9 wythnos
  • Lleoliad Wrecsam
Woman standing in front of whiteboard

Pam dewis y cwrs hwn?

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sut i wella brand eich cwmni neu gynnyrch i'ch helpu chi i fod yn flaenllaw o ran busnes? Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i'r hanfodion ynglŷn â beth yw brand. Yn ogystal â rhoi cyfle i chi adeiladu strategaeth frand effeithiol ar gyfer eich cwmni neu fusnes eich hun.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd y cwrs ymarferol hwn yn rhoi'r fframwaith i chi ddechrau adeiladu brand trwy oleuo'r angen i gysylltu, gwahaniaethu a chanolbwyntio a chreu profiadau brand sy'n fwy meddyliol yn hytrach na gweledol yn unig.
  • Byddwch yn dysgu cysyniadau sylfaenol brandio, ac yn deall hanfodion yr hyn sy'n gwneud brand llwyddiannus.
  • Yn ystod y cwrs, cewch gyfle i lunio a datblygu eich strategaeth frand unigryw eich hun a fydd yn helpu'ch busnes i sefyll allan o'r gystadleuaeth.

 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i fynychwyr ddysgu am gysyniadau sylfaenol brandio. Bydd bob wythnos yn canolbwyntio ar agwedd ar ddatblygu brand ac ymholi, damcaniaeth marchnata a'r gallu i ddadansoddi, ac yn edrych ar bynciau megis:

  • Cyflwyniad i frandio         
  • Meincnodi brand
  • Canfyddiadau a dilysrwydd
  • Uchelgais ac awydd
  • Gwerthoedd brand
  • Dadansoddiad cwsmeriaid
  • Demograffeg a sefydlu ffyddlondeb brand

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Addysgu ac Asesu

Bydd y myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio o dasgau drwy gydol y cwrs, gan arwain at brosiect terfynol i'w gyflwyno i'r grŵp.

 

Ffioedd a chyllid

Ffi sylfaenol: £250

Myfyrwyr presennol WGU: RHAD AC AM DDIM

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

I gael ei gadarnhau