Lecturer and student in the SCALE UP learning space

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

10 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Fel proffesiwn, mae cwnsela wedi ehangu’n aruthrol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf gyda mwyfwy o gydnabyddiaeth ynghylch gwerth cael cymorth proffesiynol a’r cymorth y gall ei roi i bobl yn y cartref ac yn y gweithle.

Prif nodweddion y cwrs

  • Llwybr gwych i astudio ein Diploma Addysg Uwch mewn Cwnsela.
  • Datblygu dealltwriaeth o rôl cwnselydd a’r sgiliau rhyngbersonol sydd eu hangen ar gyfer y proffesiwn.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r cwrs yn cyflwyno beth yw cwnsela yn union, gan gynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando sy'n fuddiol ac sy'n gallu cael eu defnyddio mewn ystod eang o leoliadau gwaith a chymdeithasol.

Caiff pobl sydd â diddordeb mewn hyfforddiant proffesiynol fel cwnselwr, defnyddio sgiliau cwnsela mewn proffesiynau eraill a'r bobl hynny sy'n dymuno gwella eu hunan-ddatblygiad a'u sgiliau gwrando yn cael eu harfogi â'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y llwybr o'u dewis. 

Mae'r cwrs hefyd yn rhoi cipolwg ar hanes cwnsela ac mae'n helpu i ddatblygu neu adnewyddu sgiliau rhyngbersonol a chwnsela allweddol.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Efallai y bydd yn ddefnyddiol bod gennych gymwysterau lefel 2 (TGAU) gan fod astudio ar y lefel hon yn gofyn am sgiliau darllen a sgiliau ysgrifennu.  Bydd y bobl sy'n ystyried gwneud cais yn ei chael yn fanteisiol i feddu ar brofiad gwaith a bywyd i helpu i roi'r cwrs mewn cyd-destun.

Mae mynychwyr yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac oedran. Mae amrywiaeth yn cael ei groesawu.

Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.

Addysgu ac Asesu

Gall addysgu gynnwys cyflwyniadau gan staff, gwaith pâr a gwaith grwpiau bach a gweithgareddau dosbarth cyfan megis trafod syniadau, darllen ac astudio unigol, ymarfer ac adborth sgiliau gwrando mewn grwpiau bach, ac arsylwi fideo lle y bo'n briodol.

Mae'r asesu ar Lefel 4 ac mae iddo 2 agwedd: 

  • Traethawd 1250 o eiriau yn dangos gwybodaeth am ddatblygiad cwnsela a'r lleoliadau lle gall cwnsela gael ei gynnig a'r hyn y gall cwbsela obeithio ei gyflawni.
  • Adroddiad ysgrifenedig o 750 o eiriau yn seiliedig ar fyfyrio ar ddatblygu sgiliau gwrando yn ystod y cwrs, gan ystyried cryfderau personol a meysydd i'w datblygu. Mae rhoi a derbyn adborth i ac oddi wrth fynychwyr eraill y cwrs yn rhan bwysig o'r cwrs.

Rhagolygon gyrfaol

Nod y cwrs yw bod o fudd i bobl a all fod yn ystyried hyfforddiant proffesiynol pellach fel cwnselwr, pobl sydd â diddordeb mewn ystyried y defnydd o sgiliau cwnsela mewn proffesiynau eraill a'r bobl sydd â diddordeb mewn hunan-ddatblygu a mireinio eu sgiliau gwrando.

 

Ffioedd a chyllid

Y ffi am y cwrs 10 wythnos yw £295.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim.

Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb

6pm - 9pm bob dydd Mawrth am 10 wythnos.