Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

7 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs byr ar-lein hwn yn cyflwyno cyfansoddion, eu cymwysiadau mewn peirianneg a'r buddion a'r heriau a bydd yn darparu trosolwg o'r dechnoleg ac yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu eu gwybodaeth yn y maes hwn.

  • Mae'r defnydd o gyfansoddion yn flaenllaw o ran datblygiadau cyffrous ym maes awyrofod, gofod, modurol, offer chwaraeon, a llawer o ddiwydiannau eraill.
  • Mae gan Prifysgol Wrecsam arbenigedd sylweddol mewn cyfansoddion, gyda labordy cyfansoddion datblygedig wedi'i leoli yn Broughton, lle cynhelir ymchwil blaenllaw i'r dechnoleg gyffrous hon.

Prif nodweddion y cwrs

Nod y cwrs byr hwn yw:

  • Cyflwyno trosolwg o hanes deunyddiau cyfansawdd mewn diwydiant awyrofod a modurol.
  • Cyflwyno'r gwahanol fathau o ddeunyddiau cyfansawdd sydd ar gael.
  • Gallu nodi pa wahanol fathau o ddeunyddiau matrics a ffibr a ddefnyddir mewn peirianneg fodern.
  • Deall budd defnyddio deunyddiau cyfansawdd dros ddeunyddiau metelaidd traddodiadol.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.

Addysgu ac Asesu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Ffioedd a chyllid

£95

Staff / myfyrwyr Prifysgol Wrecsam / sefydliadau elusennol staff a gwirfoddolwyr = AM DDIM

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

20 Tachwedd 2024