(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Gynaliadwyedd Busnes
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 8 wythnos
- Lleoliad Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?
Ni ddylai cynaliadwyedd ddod ar gost- nid yw'r cwrs byr cyffrous hwn chwaith! Wedi'i ddarparu'n gyfan gwbl ar-lein yn rhad ac am ddim, mae'r cwrs hwn yn cynnig strategaeth asesu hyblyg ac mae strategaethau addysgu a dysgu hygyrch ac eang wedi'u gweithredu.
Gwahoddir unigolion ar draws Cymru a thu hwnt i gymryd rhan yn y cwrs rhad ac am ddim hwn dan arweiniad yr Ymarferydd Datblygu Sefydliad, Adnoddwr Dynol proffesiynol FCIPD a'r darlithydd cymwysedig FHEA, Carrie Foster. Heb os, bydd arbenigedd Carrie yn y ddamcaniaeth a'r arfer o wyddor ymddygiad yn ysbrydoli busnesau yng Nghymru a thu hwnt i weithredu i arwain cynaliadwyedd yn y presennol a'r dyfodol. Gafaelwch ar y cyfle i wrando ar wahanol siaradwyr ysbrydoledig a fydd yn ymuno â Carrie wrth gyflwyno'r cwrs hwn. Yn amrywio o Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, byddant yn eich helpu wrth lunio eich barn ar brif elfennau cynaliadwyedd mewn busnes.
Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae cyfrifoldeb gan fusnesau i wynebu materion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd a chwyldroi cynlluniau tymor hir i sicrhau cymdeithas gynaliadwy i bawb.
Prif nodweddion y cwrs
Gan ganolbwyntio ar elfennau craidd 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015', byddwch yn:
- Diffinio arferion busnes cynaliadwy
- Disgrifio’r modelau busnes, meincnodau ac ardystiadau sy'n gysylltiedig ag ymarfer busnes cynaliadwy, a'r manteision a'r anfanteision sy'n gysylltiedig â phob un
- Nodi camau gweithredu clir i ddatblygu ymarfer busnes cynaliadwy drwy eich gwaith neu astudiaeth eich hun
- Wynebu’r materion yn uniongyrchol. Archwiliwch y materion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd, gan gynnwys y Cyflog Byw, niwed amgylcheddol ac allyriadau tŷ gwydr
- Astudiwch y 7 nod llesiant a 5 Ffordd o Weithio; syniadau sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd mewn busnes
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs wedi'i strwythuro o amgylch '7 Nod Llesiant' Deddf 'Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru (2015)'. Wedi'i ddarparu'n llawn ar-lein, mae'r cwrs yn cynnwys elfennau amrywiol a strategaethau addysgu i ysgogi diddordeb ac ymgysylltiad gennych chi.
Bydd y cwrs yn cynnwys y cydrannau allweddol canlynol:
- Cyflwyniad i Egwyddorion Datblygiad Cynaliadwy
- Podlediadau wythnosol sy'n canolbwyntio ar y nodau '7 Llesiant', gyda siaradwyr gwadd sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, gan gynnwys Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru), David Henshaw (Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru) a llawer mwy
- Tiwtorialau asyncronig wythnosol yn archwilio themâu allweddol y cwrs
Ymdrinnir â'r pynciau canlynol:
- Cyflwyniad i Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
- Nod Llesiant: Llewyrchus
- Nod Llesiant: Cydnerth
- Nod llesiant: Iachach
- Nod llesiant: Mwy cyfartal
- Nod llesiant: Cymunedau cydlynus
- Nod Llesiant: Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Nod llesiant: Cyfrifol yn fyd-eang
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Mae'r cwrs byr hwn yn cynnwys strategaeth asesu hyblyg a rhyngweithiol, sydd wedi'i chynllunio i gael y gorau allan ohonoch chi.
Bydd gofyn i chi gwblhau fforwm drafod ar-lein ar bob pwnc wythnosol. Bydd y fforymau yn eich galluogi i adlewyrchu a dangos eich dysgu. Bydd myfyrdodau ar bob pwnc yn cyfuno i ffurfio'r aseiniad terfynol, i’w gyflwyno ar ddiwedd y cwrs.
Byddai ymgysylltu â phob agwedd ar ddarpariaeth y cwrs yn gyfystyr ag ymgysylltu wythnosol â chynnwys a deunydd y cwrs.
Y dyddiad cau ar gyfer yr asesiad yw 27ain Gorffennaf 2023 am 5yh.
Ffioedd a chyllid
RHAD AC AM DDIM
Dyddiadau Cyrsiau
Mae'r cwrs hwn yn dechrau 15 Mai 2023.
Y sesiwn ar-lein fyw gyntaf yw 18fed Mai 2023 o 6yh tan 8yh.
Yr ail sesiwn ar-lein fyw yw 1af Mehefin 2023 rhwng 6yh ac 8yh.
Y trydydd sesiwn ar-lein fyw yw 15fed Mehefin 2023 rhwng 6yh ac 8yh.
Y pedwerydd sesiwn ar-lein byw yw 29ain Mehefin 2023 o 6yh tan 8yh.