(Cwrs Byr) Cyflwyniad i hanes Cymru
Manylion cwrs
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i’r prif drobwyntiau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol yn hanes Cymru. Cewch ddysgu am ddigwyddiadau allweddol yn ein hanes drwy fynd ati’n ymarferol i archwilio ac ymchwilio i ffynonellau hanesyddol.
Byddwch yn datblygu’r gallu i ganfod a defnyddio tystiolaeth yn ogystal â mireinio eich sgiliau i ddychmygu ac ail-lunio’r gorffennol.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio hanes Cymru – o’r traddodiad Celtaidd a’r iaith Gymraeg i drobwyntiau diwylliannol allweddol.
- Dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd byr a gweithdai i annog dadansoddi deunydd ffynhonnell.
- 10 credyd Addysg Uwch ar ôl cwblhau’r cwrs.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Lleoli Cymru mewn amser a lle
- O draddodiad Celtaidd i ddiwylliant Fictoraidd: creu llinell amser o bobl a lleoedd
- Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg
- Digwyddiadau allweddol diwylliannol
- Cymru yn yr Oes Fodern
Gofynion mynediad a gwneud cais
I archebu a thalu am eich lle ewch i'r siop ar-lein.
Mae'r cwrs hwn yn agored i nifer penodol o gyfranogwyr a bydd y taliadau'n cael eu dychwelyd yn llawn os nad yw'r cwrs yn recriwtio digon o bobl.
Addysgu ac Asesu
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy sesiynau dysgu gweithredol wedi'u harwain gan diwtoriaid. Bydd gweithdai grŵp bach yn cael eu defnyddio i archwilio'r deunyddiau ffynhonnell sylfaenol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn y cyflwyniad ymarferol hwn drwy amrywiaeth o adnoddau papur a digidol. Cynhelir sesiynau tiwtorial i gynorthwyo myfyrwyr gyda'r broses o gyflwyno a chwblhau'r portffolio.
Ffioedd a chyllid
£150
Dyddiadau’r Cwrs
Bydd y cwrs byr 9 wythnos hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o sesiynau ar y campws a dysgu ar-lein ar nos Fercher rhwng 6pm – 8pm yn y blociau canlynol ar draws y flwyddyn:
- Dydd Mercher 6ed Gorffenaf 2022 - Dydd Mercher 31af Awst 2022