Ariel view of a factory producing smoke into the environment

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Ydych chi'n poeni am ddyfodol ein planed? Ydych chi erioed wedi meddwl pam fod mwy o lifogydd a thanau gwyllt yn cael eu hadrodd ar y newyddion? Nod y cwrs byr hwn yw darparu trosolwg sylfaenol o'r problemau sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, yr achosion a'r effaith ar y blaned yr ydym yn byw arni.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd yn ymdrin â'r wyddoniaeth y tu ôl i gynhesu byd-eang, ei heffaith bosibl ar bobl, yr amgylchedd a natur a bydd hefyd yn awgrymu atebion posibl i ddelio â'r broblem.
  • Bydd hefyd yn ceisio trin â damcaniaethau camwybodaeth a chynllwynio sy'n ymwneud â'r pwnc hwn yn ogystal â'ch helpu i ddeall sut y gallwn ni fel bodau dynol newid ein hymddygiad i leihau effaith.
  • Ymunwch â'r cwrs hwn i ddod yn fwy gwybodus am yr amgylchedd a helpu i wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol!

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Sut wnaeth dynoliaeth greu newid yn yr hinsawdd? Ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.
  • Y wyddoniaeth y tu ôl i newid yn yr hinsawdd, amheuwyr newid hinsawdd a'u dadleuon.
  • Effeithiau planed sy'n cynhesu, ystod o ragfynegiadau enghreifftiol a'i heffeithiau ar ddynoliaeth.
  • Atebion i broblemau newid yn yr hinsawdd, a'r rhesymau sy'n atal gweithredu ystyrlon.
  • Beth sy'n debygol o ddatrys newid hinsawdd yn ymarferol yn y byd go iawn (yn ymdrin ag agweddau gwyddoniaeth, economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol).

Cyflwynir y cwrs dros floc 6 wythnos. 2 awr yr wythnos ar y campws (bydd sesiynau'n cael eu recordio ar gyfer myfyrwyr nad allant mynychu neu sy'n well ganddynt astudio gartref). Dylai myfyrwyr dreulio amser bob wythnos yn cwblhau astudio hunangyfeiriedig.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Addysgu ac Asesu

Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs ar ffurf cwis amlddewis ar-lein yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth o bob agwedd ar y modiwl.

Ffioedd a chyllid

£95

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

Nos Mawrth – Wyneb yn wyneb ar y campws – 6yh- 8yh