Looking at code

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

10 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn berffaith i ehangu eich sgiliau cyfrifiadura technegol drwy archwilio iaith raglennu gyflwyniadol. Mae'r cwrs hwn wedi ei anelu at fagu eich hyder o ran rhaglennu, a bydd yn mynd i'r afael â sawl agwedd fel strwythur a chystrawen, cyn canolbwyntio ar hanfodion cyfrifiadurol a rhaglennu.

Gallwch ymgymryd â'r cwrs hwn fel cyflwyniad neu fel llwyfan i archwilio opsiynau astudio yn y dyfodol yn y maes Cyfrifiadura a rhaglennu.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cwrs ar-lein dros 10 wythnos
  • Astudiaeth gyfeiriedig a chymorth i'ch helpu i weithio drwy'r cwrs
  • Datblygu eich gallu technegol o ran rhaglennu
  • Gwella eich hyder wrth ddefnyddio pecynnau rhaglennu

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn mynd i'r afael ag ystod o bynciau, gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i Python ac Anaconda
  • Newidion a Mathau o Ddata
  • Gweithio gyda Rhifau a Llinynnau
  • Cael Mewnbwn gan y defnyddiwr
  • Rhestrau a Phlygion
  • Swyddogaethau a Dychwelyd
  • Datganiadau Os
  • Dolenni Profi ac Arbrofi
  • Dolenni o fewn Dolenni
  • Darllen ac Ysgrifennu i Ffeiliau
  • Cyflwyniad i Wrthrychau a Dosbarthiadau

Gofynion mynediad a gwneud cais

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

Addysgu ac Asesu

Asesiad: Bydd asesiad y cwrs hwn yn cynnwys darnau o waith cwrs sy'n canolbwyntio ar feysydd unigol o arbenigedd o fewn gweithgareddau IDE a rhaglennu.

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau’r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.