A student is smiling as the lecturer explains something to them. The lecturer is pointing at the work on the desk.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs byr hwn yn eich cynorthwyo i ddeall a datblygu rhai o’r sgiliau allweddol angenrheidiol i ddod yn arweinydd busnes effeithiol a’ch galluogi i ddeall y gwahaniaeth rhwng rheoli da ac arwain effeithiol. Mae datblygu sgiliau arwain a rheoli yn allweddol er mwyn parhau’n gynhyrchiol a chymell eich hun a’ch tîm.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae’r cwrs wedi’i gynnal ar-lein er hyblygrwydd i chi, cewch fewngofnodi i’r cynnwys yn ôl yr angen a rhyngweithio yn y fforymau wythnosol.
  • Mae’r asesu yn cael ei wneud fel rhan o drafodaethau ar-lein felly nid oes traethodau nac aseiniadau ffurfiol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Wythnos 1 Cyflwyniad (3 awr o gyswllt)

  • Mewngofnodwch i'r ddarlith i ddysgu am Strwythur Sefydliadol a Swyddogaethau rheoli.
  • Dewch o hyd i ddarnau darllen yr wythnos hon - 'Strwythur Sefydliadol' a gwnewch y cwis ar-lein.
  • Gwyliwch fideo'r wythnos hon am swyddogaethau rheoli a rhyngweithiwch ar y fforwm i drafod eich safbwyntiau.
  • Ymgysylltwch yn y pwynt dysgu allweddol rhyngweithiol ar gyfer yr wythnos hon ac ymatebwch yn y fforwm.

Wythnos 2 Rydym oll yn wahanol (3 awr o gyswllt)

  • Mewngofnodwch i'r ddarlith am Y Sgiliau a nodweddion rheolwr.
  • Dysgwch fwy am sut mae personoliaeth taith yn dylanwadu ar eich arddull rheoli a rhyngweithiwch ar y fforwm i ymchwilio.
  • Darllenwch erthygl yr wythnos hon a gwyliwch y clip - ymatebwch i'r fforwm a phwyntiau trafod yr wythnos hon.

Wythnos 3 Deallusrwydd Emosiynol (3 awr o gyswllt)

  • Mewngofnodwch i'r ddarlith - Fforwm Economaidd y Byd Sgiliau'r Dyfodol, a Deallusrwydd Emosiynol i Reolwyr.
  • Ewch i'r afael â'ch pwyntiau gweithredu ar gyfer yr wythnos.
  • Darllenwch yr astudiaeth achos diweddaraf a dechreuwch ystyried sut mae hyn yn gymwys i chi.
  • Gwyliwch y clip am arweinyddiaeth ac ymatebwch i'r fforwm ar-lein.

Wythnos 4 - Rheolwr v Arweinwyr (3 awr o gyswllt)

  • Mewngofnodwch i'r ddarlith - am y gwahaniaethau rhwng arweinyddiaeth a rheolaeth.
  • Darllenwch yr erthygl ac atebwch y cwestiynau.
  • Gwrandewch ar y podlediad sydd wedi ei bostio ac ymatebwch ar y fforwm.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Mae'r cwrs byr hwn yn gofyn bod y myfyriwr yn gallu ddyrannu 3 awr yr wythnos i'w hastudiaeth, ond nid oes unrhyw ofyniad i fod ar gael ar adeg benodol. 

 

Addysgu ac Asesu

Mae asesiad yn cynnwys y trafodaethau rhyngweithiol ac ymgysylltiad fforwm.

 

Ffioedd a chyllid

£45

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.