(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Therapi Iaith a Lleferydd

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

7 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs ‘Cyflwyniad i Therapi Iaith a Lleferydd’ hwn yn ymuno ag ystod o gyrsiau ‘Cyflwyniad i’ Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol (AHP) ym Mhrifysgol Wrecsam. Y prif nod yw ehangu cyfranogiad a mynediad i gyrsiau gofal iechyd i fyfyrwyr o lwybrau traddodiadol, a llwybrau nad ydynt yn rhai traddodiadol.

Mae’r cwrs ar-lein saith wythnos hwn yn cynnwys gwybodaeth a sgiliau paratoadol i gefnogi cais i astudio Therapi Iaith a Lleferydd neu gais i gwrs gofal iechyd perthnasol gan ei fod yn cynnwys y gwerthoedd gofal iechyd craidd ac yn rhoi trosolwg o fywyd myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Wrecsam. Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu gan Therapyddion Iaith a Lleferydd cofrestredig mewn gwaith o’r bwrdd iechyd lleol.

Byddai’n ddeniadol i ymgeiswyr sydd â chryfderau’n megis cyfathrebu’n dda, gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol a dyhead i weithio yn y proffesiwn neu’r sector gofal iechyd. Byddai cwblhau’r cwrs yn ased gwerthfawr ar y rhan ‘profiad perthnasol’ o gais i’r BSc Therapi Iaith a Lleferydd. Byddai hefyd yn rhoi cyfle i gwrdd â staff addysgu a chael gwybod mwy am y cwrs, yr yrfa, y brifysgol a bywyd fel myfyriwr.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys myfyrwyr drwyddi draw drwy ddefnyddio’r Fframwaith Dysgu Gweithredol a’r dull dysgu cyfunol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyflawnir gan Therapyddion Iaith a Lleferydd o’r bwrdd iechyd lleol
  • Cwrs am ddim
  • Sesiynau wedi’u recordio a deunyddiau’n cael eu huwchlwytho fel bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad iddynt yn eu hamser eu hunain
  • Cefnogi cais i astudio Therapi Iaith a Lleferydd
  • Ennill 20 credyd ar Lefel 4
  • Rhagor o wybodaeth am astudio’r cwrs a bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam
 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyflwyniad a throsolwg Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol
  • Cyfathrebu a Llyncu
  • Rôl y Therapydd Iaith a Lleferydd
  • Therapi Iaith a Lleferydd fel gyrfa + Cwis ffurfiannol hanner ffordd drwy’r cwrs
  • Themâu yn y proffesiwn
  • BSc (Anrh.) Therapi Iaith a Lleferydd yn Prifysgol Wrecsam
  • Crynodeb ac Asesiad

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

 

Addysgu ac Asesu

  • 7 awr o addysgu byw cydamserol
  • 29 awr o gynnwys anghydamserol gan gynnwys darllen, gweminarau, podlediadau ar Moodle er mwyn paratoi ar gyfer y sesiynau byw a’r asesiadau
  • 164 awr o ddysgu annibynnol
  • Asesiad hanner ffordd – wythnos 4. MCQ
  • Asesiad crynodol – wythnos 7. Darn o waith myfyriol yn ymwneud â datganiad personol.
 

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

 

Dyddiadau'r cwrs

Gwener 26ain Ebrill - Campws
Gwener 3ydd Mai - Ar-lein
Gwener 10ain Mai - Ar-lein
Gwener 17ain Mai - Ar-lein
Gwener 24ain Mai - Ar-lein
Gwener 7ain Mehefin - Campws
Gwener 14ain Mehefin - Campws
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.