custom course image

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

6 diwrnod

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Northop

Pam dewis y cwrs hwn?

Wedi'i leoli yn Bridfa Clwyd, Owrtyn, bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth i chi am y diwydiant rasio a’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn darlithoedd a fydd sesiynau ymarferol ar gael lle byddwn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i fanteisio ar ymweliadau addysgol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyfuniad o theori ac ymarfer
  • Cyflawnir gan weithwyr proffesiynol y diwydiant rasio
  • Mynediad i gyfleusterau ymarferol ardderchog
  • Ymweliadau ag iardiau a chaeau rasio i ategu’r cyflawniad
  • Sgwrs â milfeddyg

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs byr yn cynnwys:

  • Mewnwelediad i strwythur y diwydiant rasio a’r gyrfaoedd sydd ar gael.
  • Diwrnodau ymarferol ar iardiau a fydd yn cynnwys - iechyd ceffylau perfformio, ffitrwydd a thrin, gosod tac, rygiau a rhwymynnau, rhoi ceffylau ar gerddwr ceffylau a golchi a gofal ar ôl ymarfer corff.
  • Ymweliadau addysgol megis ymweliad March a Cheffylau Tryryw, ymweliad Rheoli Cae Rasio ac ymweliad ag Iard Rasio
  • Sgwrs â milfeddyg

Gofynion mynediad a gwneud cais

Profiad o’r diwydiant ceffylau un ai o fod yn berchen ar geffyl neu weithio neu astudio yn y diwydiant.

Addysgu ac Asesu

Asesir myfyrwyr drwy ddarn o waith ysgrifenedig a fydd yn eu galluogi nhw i archwilio eu haddasrwydd ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y diwydiant rasio, a thrwy gyflawni ystod o dasgau ymarferol sydd fel arfer yn ofynnol gan gyflogwyr yn y diwydiant rasio.

Ffioedd a chyllid

£95

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r Cwrs

Amseroedd cwrs 9am-3pm. 

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.