(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Wneud Printiau
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 9 wythnos
- Lleoliad Wrecsam
-2-1360x1360.jpg)
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r dosbarth min nos yma yn cynnwys cyflwyniad fforddiadwy a phleserus i rai o brif dechnegau gwneud printiau mewn stiwdio.
- Mae’r dosbarthiadau yn rhai bychain gan ganiatáu mynediad da i staff a chyfleusterau.
- Yn dilyn arddangosiad o dechneg printio a chyflwyniad i drin deunyddiau ac offer yn ddiogel, fe’ch anogir i archwilio eich syniadau ar gyfer cynhyrchu delweddau.
- Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pobl gydag ychydig neu ddim profiad o wneud printiau.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i rai o brosesau gwneud printiau yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Prifysgol Glyndŵr. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu gwneud printiau intaglio a cherfwedd; monoprint; torlunio pren; colagraff, ysgythru sych a thorri leino. Cewch arweiniad i gynhyrchu eich syniadau dylunio unigol eich hun gan ddefnyddio dulliau abrofol a arweinir gan arddangosiadau o brint mewn ymarfer.
Gofynion mynediad a gwneud cais
I archebu lle, ewch i'n siop ar-lein.
Addysgu ac Asesu
Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU.
Ffioedd a chyllid
£150
Mae’r ffi yn cynnwys mynychu a thiwtora, gan gynnwys asesu a deunyddiau sylfaenol. Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd y cyfranogwyr yn dewis gweithio gyda deunyddiau ansafonol neu’n defnyddio llawer ohonynt neu mewn fformat mawr.
Dyddiadau’r cwrs
Bydd y cwrs byr 9 wythnos hwn yn rhedeg nos Iau rhwng 6:30pm – 8:30pm yn y blociau canlynol ar draws y flwyddyn:
- Dydd Iau 7fed Gorffenaf 2022 - Dydd Iau 1af Medi 2022