(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Ymarfer Dietegol
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 10 wythnos
- Lleoliad Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at bobl sy'n ystyried astudio, neu sydd â diddordeb mewn ehangu eu gwybodaeth am faeth a deieteg. Bydd y rhai sy’n astudio’r cwrs yn cael mewnwelediad i werthoedd a chwmpas y proffesiwn deietig fel rhan o dîm gofal iechyd ehangach.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros gyfnod o 10 wythnos fel a ganlyn:
- Wythnos 1 - Ymarfer Proffesiynol 1 - Cyflwyniad i gyd-destunau a lleoliadau’r cwrs (astudiaeth gydamserol)
- Wythnos 2 - Ymarfer Proffesiynol 2 - Gwerthoedd, ymddygiad a moeseg (astudiaeth anghydamserol)
- Wythnos 3 - Sgrinio ac asesu statws maethol mewn lleoliadau gofal iechyd (astudiaeth gydamserol)
- Wythnos 4 - Rôl y deietegydd (astudiaeth gydamserol)
- Wythnos 5 - Maeth a deieteg fel gyrfa (astudiaeth gydamserol)
- Wythnos 6 - Crynodeb ac asesiad 1 (astudiaeth gydamserol)
- Wythnos 7 - Ymarfer Myfyriol a Dysgu 1 - Modelau Myfyrio (astudiaeth anghydamserol)
- Wythnos 8 - Ymarfer Myfyriol a Dysgu 2 - Arddulliau dysgu yn y cyd-destun gofal iechyd (astudiaeth anghydamserol)
- Wythnos 9 - Ymarfer Myfyriol a Dysgu 3 - Sgiliau Cyflogadwyedd yn y cyd-destun gofal iechyd (anghydamserol)
- Wythnos 10 - Crynodeb o’r modiwl ac asesiad 2 (astudiaeth gydamserol)
Dros y cwrs 10 wythnos, bydd yna gyfanswm o 200 awr o ddysgu. Mae hyn yn cynnwys 18 awr o ddysgu ac addysgu uniongyrchol (cydamserol ac anghydamserol), 18 awr o weithgareddau dysgu gweithredol eraill a 164 awr o ddysgu annibynnol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Addysgu ac Asesu
Mae yna ddau ddyddiad asesu:
- Asesiad 1 - 27 Hydref 2021 (wythnos 6)
- Asesiad 2 - 24 Tachwedd 2021 (wythnos 10)
Disgwylir i fyfyrwyr gyrraedd 40% mewn asesiadau.
Ffioedd a chyllid
£90
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.