Ambulance

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

9 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi cipolwg ar werthoedd ac athroniaeth y proffesiwn parafeddygol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i rai o'r cysyniadau cyfredol allweddol sy'n ymwneud ag ymarfer parafeddygol, rôl parafeddygon a materion ehangach sy'n gysylltiedig â chynnig gofal parafeddygol mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol cyfoes.

Bydd myfyrwyr hefyd yn:

  • Archwilio'r safonau proffesiynol a chyrff rheoleiddio ar gyfer parafeddygon cofrestredig ynghyd â hanes a dyfodol gofal argyfwng a brys
  • Cael eu cyflwyno i broses a gwerth hunan-fyfyrio, a'u paratoi ar gyfer gwneud ceisiadau ar gyfer y Brifysgol ac astudio yn y dyfodol

Prif nodweddion y cwrs

  • Cynnig trosolwg i fyfyrwyr o’r proffesiwn Parafeddygol a’r Cwrs Gwyddoniaeth Barafeddygol BSc (Anrh) sy’n cael ei gynnig ym Mhrifysgol Wrecsam
  • Mae'r dull cyfunol yn galluogi dysgu hyblyg gydag addysgu wyneb yn wyneb ar y campws a chynnwys wedi’i recordio ar-lein
  • Galluogi myfyrwyr i ymgyfarwyddo â’r campws, Amgylchedd Dysgu Rhithiol y Brifysgol – Moodle, a chwrdd â myfyrwyr eraill a thîm y rhaglen
  • Arweiniad wrth baratoi cais a pharatoi am Gyfweliad i unigolion sy’n dewis symud ymlaen gyda chais i'r Brifysgol
  • Lefel 4 20 credyd ar gael ar ôl cwblhau

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd yr holl sesiynau’n cael eu cynnal ar y campws ar ddydd Mercher, rhwng 2:00pm ac 4:00pm, ar wahân i’r sesiynau anghydamserol a restrir isod:

  • Wythnos 1 - Lansio’r cwrs
  • Wythnos 2 - Cyflwyniad i’r proffesiwn parafeddygol
  • Wythnos 3 - Cyflwyniad i Goleg y Parafeddygon - anghydamserol
  • Wythnos 4 - Gwerthoedd, ymddygiad ac agweddau
  • Wythnos 5 - Sut mae’r gwasanaeth ambiwlans yn gweithio
  • Wythnos 6 - Parafeddygon yn gweithio o fewn Iechyd a Gofal cymdeithasol - anghydamserol
  • Wythnos 7 - Arloesedd a newidiadau i ymarfer parafeddygol
  • Wythnos 8 - Paratoi eich cais i’r Brifysgol - anghydamserol
  • Wythnos 9 - Dyddiad cyflwyno’r asesiad
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae angen isafswm o 10 cyfranogwr er mwyn i'r cwrs redeg.

Nodwch bod yn rhaid i chi fod yn 16+ oed er mwyn bwcio lle ar y cwrs hwn.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad Un – Prawf yn y dosbarth

    Prawf 30-munud ar-lein yn ystod wythnos 9 y cwrs. Bydd y prawf yn cynnwys 20 Cwestiwn Amlddewis, a fydd yn cynnwys un ateb cywir allan o bedwar ateb posibl

  • Asesiad Dau – gwaith cwrs

    Wyth darn myfyrio bychan am eich dysg yn ystod eich cwrs. Dylai’r myfyrdodau hyn amlinellu'r hyn rydych wedi’i ddysgu ar ôl bob wythnos, sut aethoch ati i wella eich dealltwriaeth, a sut mae'n berthnasol i ddod yn Barafeddyg. Ni fydd eich myfyrdodau’n cael eu marcio na’u graddio’n academaidd, ond bydd adborth yn cael ei gynnig. I lwyddo yn y cwrs, bydd gofyn ichi gwblhau wyth darn myfyrio bychan.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr gyflawni 40% neu uwch ar gyfer y prawf ar-lein A chwblhau wyth darn myfyrio bychan i lwyddo yn y cwrs.

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

 

Dyddiadau'r Cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.