Photography student

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Dyma gwrs byr sy’n cynnig cyflwyniad fforddiadwy a phleserus i ffotograffiaeth ddigidol a’r prosesau ôl-gynhyrchu. Mae’r cwrs yn un defnyddiol os oes gennych gamera digidol da ac yn dymuno archwilio potensial creadigol ei amryw swyddogaethau, yn ogystal â dod i ddeall manteision yr offeryn cymhleth a hyblyg hwn.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cael 10 credyd Addysg Uwch ar ôl cwblhau’r cwrs.
  • Gweithio gydag amrywiaeth o amodau goleuo i ddeall effaith golau ar ddelwedd.
  • Cynhelir y sesiynau yn ein Hysgol Celfyddydau Creadigol, 49-51 Regent Street, Wrecsam 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i rai o brif swyddogaethau eich camera a sut i drechu rhaglenni awtomatig a semi-awtomatig y mae llawer o gamerâu yn eu defnyddio, i archwilio potensial creadigol eich amlygiadau. Cewch gyfle i weithio gydag amrywiaeth o amodau golau er mwyn deall eu heffaith ar ddelwedd. Mae’r chwyldro digidol wedi caniatáu i ddulliau hen ystafelloedd tywyll gael eu dyblygu ar sgrîn cyfrifiadur, yn ogystal â thrin delweddau mwy cymhleth, wrth i chi gael eich herio i ddefnyddio eich sgiliau ffotograffig i gyfleu syniadau a chysyniadau.

 

Addysgu ac Asesu

Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU. 

 

Ffioedd a chyllid

£195

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau’r Cwrs

Dyddiadau cychwyn yn y dyfodol: