course page custom

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

6-12 mis

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Dychwelyd

i gofrestr lawn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). 

Cefnogi

elfennau ymarfer academaidd a chlinigol wrth ddychwelyd i'r gweithlu nyrsio. 

Gwneud cais

am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Drwy Brofiad Blaenorol (RPEL) gyda'r potensial o leihau'r oriau o ymarfer clinigol sydd eu hangen. 

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r modiwl hwn yn galluogi nyrsys fu gynt ar gofrestr yr NMC i ail-archwilio eu rôl a’u cyfrifoldebau proffesiynol wrth iddynt baratoi i ddychwelyd i’r gofrestr lawn. Bydd y myfyrwyr yn archwilio themâu cyfoes mewn nyrsio/gofal iechyd modern, gyda thystiolaeth berthnasol yn sail iddynt.

Bydd sgiliau clinigol/ymarferol yn cael eu diweddaru mewn paratoad ar gyfer eu rôl o’r newydd yn y gweithle clinigol. Mae’r modiwl Dychwelyd i Ymarfer yn cynnig dull hyblyg a hygyrch o rymuso myfyrwyr i adnewyddu eu hyder wrth ddarparu gofal sydd yn canolbwyntio ar y claf ym maes Nyrsio Oedolion.

 

Mae’r modiwl hwn hefyd yn cynnig mynediad i leoliad clinigol ar gyfer myfyrwyr Dychwelyd i Ymarfer i’w galluogi i ddychwelyd i’r amgylchedd clinigol mewn modd sydd yn eu cefnogi a than oruchwyliaeth. Bydd ein Partneriaid Ymarfer yn trefnu’r lleoliadau a byddwn yn cynnwys y myfyriwr gyda’r trefniadau hyn er mwyn sicrhau fod ganddynt leoliad sydd yn gallu bod yn hyblyg i’w hamgylchiadau personol. Mae’r lleoliad ymarfer yn hanfodol wrth ddatblygu a chyflawni’r holl sgiliau nyrsio a chlinigol ymarferol a nodwyd sydd yn angenrheidiol i ddychwelyd i’r gofrestr.

 

Prif nodweddion y cwrs

  • Fe’i darperir drwy ddilyn ein Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF), ac felly bydd mwy o’r cynnwys academaidd yn cael ei gyflwyno ar-lein, gan ganiatáu mwy o fynediad a hygyrchedd i fyfyrwyr. Bydd dosbarthiadau academaidd yn cael eu darparu naill ai’n fyw ar-lein neu wedi eu recordio ymlaen llaw.
  • Dau ddiwrnod o ddosbarthiadau byw yr wythnos o 10yb-3yp, sydd yn ddull mwy hyblyg ac ystyriol o deuluoedd. Gall hyn hefyd yn galluogi myfyrwyr sydd yn byw mewn ardaloedd mwy gwledig i astudio trwy leihau’r gofynion teithio i fynychu’r campws.
  • Lleoliadau clinigol wedi eu trefnu ar draws Gogledd Cymru, i gwblhau’r elfennau clinigol yn nes at adref.
  • Ffioedd dysgu a bwrsariaeth i dalu am gostau byw ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr (sydd yn byw yng Nghymru)
  • Gall nyrsys sydd yn gweithio ar Gofrestr Dros Dro yr NMC yn ystod Covid 19 ddefnyddio tystiolaeth gadarn o’u horiau i geisio am RPEL – Cydnabyddiaeth o Ddysgu Drwy Brofiad Blaenorol. Gall hyn leihau lleiafswm yr oriau sydd eu hangen i gwblhau’r rhaglen, gan hwyluso dychwelyd yn gynt i gofrestr lawn yr NMC.
  • Mae dychwelyd i gofrestr lawn yr NMC yn amodol ar basio holl elfennau’r rhaglen yn llwyddiannus, ac ar ôl hynny bydd myfyrwyr yn ceisio am swyddi Nyrs Gofrestredig (Oedolion) sydd ar gael ar draws (Gogledd) Cymru.

† Nyrsys sy'n gweithio ar y Gofrestr NMC dros dro yn ystod pandemig Covid-19 neu ymgeiswyr addas eraill.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r rhaglen nyrsio Dychwelyd i Ymarfer wedi ei ffurfio o un modiwl Lefel 6, 40 credyd, gyda chydrannau craidd lluosog:

  • Academaidd - Archwilio’r sylfaen dystiolaeth sydd yn sail i ymarfer nyrsio oedolion cyfredol. Bydd hyn yn fodd i adnewyddu myfyrwyr sydd wedi bod i ffwrdd o’r amgylchedd clinigol a’ch annog i ystyried cymhlethdodau gofal iechyd a chymdeithasol modern. Bydd dysgu dan oruchwyliaeth a gweithdai ymarfer yn cael eu cynnwys.
  • Efelychiad - 5 diwrnod o efelychu ymarfer clinigol ar y campws i archwilio gofal cymhleth mewn nifer o feysydd nyrsio oedolion (meddyginiaeth, llawdriniaeth, orthopedeg, cymunedol a ffocws ar sepsis).
  • Clinigol – Mae’n rhaid i bob myfyriwr ymarfer dan oruchwyliaeth a chwblhau lleiafswm o 450 awr mewn ardal lleoliad awdurdodedig. Mae lleoliadau ar gael ar draws Gogledd Cymru ac maent yn galluogi myfyrwyr i weithio yn agos i’w cartref o bosib (gan annog cyfleoedd cyflogaeth potensial a fydd yn addas). Mae’n bosib y bydd modd i fyfyrwyr a fu’n gweithio ar gofrestr Covid-19 Dros Dro yr NMC wneud cais am RPEL (gweler uchod) a defnyddio rhai o’r lleiafswm oriau i leihau’r amser i gwblhau’r rhaglen.

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid. 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Dyddiad cychwyn: Tachwedd 2024

Mae pob ymgeisydd yn destun meini prawf mynediad cadarn, gan gynnwys:

  • Rhaid bod â statws blaenorol fel Nyrs Gofrestredig (Oedolion yn unig) gyda’r NMC - heb unrhyw rwystr cyfredol i ymarfer.
  • Byddwn yn ystyried ymgeiswyr sydd ag amodau ymarfer Cymhwyster i Ymarfer NMC blaenorol fesul achos.
  • Bydd pob ymgeisydd yn destun datgeliad manylach gan y DBS a hunan-ddatgan iechyd a chymeriad da ar ddechrau a diwedd y cwrs.
  • Bydd pob ymgeisydd yn destun proses gyfweld drwyadl; gydag aelod o’r staff academaidd, staff o’n Partneriaid Ymarfer, aelodau Outside In (grŵp o unigolion sydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd yn cefnogi datblygiad ein rhaglenni)
  • Mae’n rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael sgriniad/cliriad iechyd boddhaol ar gyfer y lleoliad a ddarperir gan y Darparwr Iechyd Galwedigaethol sydd wedi eu contraction i Prifysgol Wrecsam, cyn dechrau ar eu hymarfer clinigol.
  • Nid yw’r rhaglen astudiaeth ar gael ar hyn o bryd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
  • Os nad yw myfyrwyr wedi cwblhau gwaith academaidd diweddar ar Lefel 6 (lefel blwyddyn israddedig blwyddyn olaf/gradd) byddai’n fuddiol ystyried gwneud cais am y canlynol: Dysgwr Hyderus _ EDS405 (Modiwl Lefel 4) sydd ar gael am ddim ar-lein ym Mhrifysgol Wrecsam a/neu Paratoi ar Gyfer Llwyddiant Academaidd - NUR617 (Modiwl Lefel 6) a allai gynnig mwy o hyder academaidd cyn dychwelyd i gwblhau’r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.

Addysgu ac Asesu

Bydd y dysgu a’r addysgu yn digwydd drwy ddulliau amrywiol:

  • Dysgu ar-lein/wyneb i wyneb – 45 awr (y rhan fwyaf yn digwydd ar-lein o 10yb-3yp)
  • Dysgu hyblyg ar-lein i’r myfyrwyr ei gwblhau dros gyfnod parhaus y modiwl – 140 awr
  • Gweithdai ymarfer wedi eu goruchwylio – 25 awr
  • Oriau ymarfer clinigol – 450 awr (lleiafswm – yn amodol ar RPEL)
  • Oriau efelychu – 35 awr (gan gyfrannu tuag at oriau ymarfer clinigol)

Bydd gan bob myfyriwr eu Harweinydd Rhaglen/tiwtor personol i’w cefnogi, ac Asesydd Ymarfer yn y gweithle clinigol.

Rhaid cwblhau pob elfen o’r rhaglen yn llwyddiannus i’r myfyriwr ddychwelyd i gofrestr lawn yr NMC a phasio’r rhaglen:

  • Asesiad Un: Bydd myfyrwyr yn datblygu portffolio o 3 darn o fyfyrio ar ‘ail-ddilysu’ (gan adlewyrchu portffolio Ailddilysu yr NMC (2019)), a fydd yn gysylltiedig â’r modiwl.
  • Asesiad Dau: Bydd y myfyriwr yn sefyll un arholiad (Meddyginiaeth Ddiogel) i ddangos eu gallu i wneud cyfrifiadau cyffuriau a fydd yn cael eu cofnodi fel pasio/methu (marc pasio o 100% wedi ei osod ar gyfer myfyrwyr Dychwelyd i Ymarfer).
  • Asesiad Tri: Bydd ymarfer glinigol yn cael ei asesu gan ddefnyddio’r Ddogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan (PAD) ar gyfer Dychwelyd i Ymarfer. Rhaid i’r Asesydd Ymarfer enwebedig asesu a phasio pob deilliant ymarfer a sgiliau clinigol

Rhagolygon gyrfaol

Mae myfyrwyr sydd yn cwblhau’r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer yn llwyddiannus yn gallu ceisio am lawer o swyddi Nyrs Gofrestredig (Oedolion) sydd ar gael ar draws Cymru. Mae myfyrwyr fu eisoes ar y rhaglen wedi symud ymlaen i swyddi mewn lleoliadau iechyd sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â pharhau gyda’u hastudiaethau academaidd mewn meysydd ymarfer arbenigol drwy ein rhaglen ôl-radd o gyrsiau. Mae’r cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer Nyrsys Cofrestredig yn amrywiol ac mae ein Partner Ymarfer (BIPBC) yn croesawu ceisiadau gan ei myfyrwyr llwyddiannus.  

Ffioedd a chyllid

Darperir ffioedd dysgu a bwrsariaeth gan Lywodraeth Cymru i dalu rhywfaint o gostau byw ac maent ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr (sydd yn byw yng Nghymru).

I fyfyrwyr sydd yn byw mewn rhannau eraill o’r DU, bydd ein ffioedd israddedig safonol yn berthnasol.

Manyleb y rhaglen

Gallwch edrych ar fanyleb lawn y rhaglen yma.