(Cwrs Byr) Dysgwr Hyderus
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 4 wythnos
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch galluogi i gynyddu’ch hyder wrth gymryd y cam nesaf i addysg israddedig – boed chi’n dychwelyd i astudio ar ôl cyfnod i ffwrdd, ar fin cychwyn yn y brifysgol neu’n meddwl gwneud cwrs proffesiynol neu ran amser.
Prif nodweddion y cwrs
- Ymchwilio a chael gafael ar wybodaeth o amryw o ffynonellau
- Gwella eich sgiliau cyflwyno
- Paratoi at astudio ar lefel uwch
- Cyfle i wella a chryfhau eich sgiliau TG
- Meithrin eich hyder er mwyn i chi gyflawni eich potensial
“Dwi’n mwynhau yn fawr iawn ac yn teimlo’n gymaint mwy ymlacedig am yr holl beth erbyn rŵan. Dwi’n gwybod ble mae’r rhan fwyaf o bethau yn y brifysgol felly dydw i ddim yn poeni am fynd ar goll yn yr holl adeiladau neu’r mannau parcio! Mae’r gwersi yn addysgiadol iawn ac mae’r pryderon mawr am y ‘cyfeirnodi’ dryslyd yn dechrau diflannu. Ni allaf argymell y cwrs ddigon. Dwi eisoes yn teimlo fy mod wedi ymgartrefu ym mywyd y brifysgol, er mai dim ond ym mis Medi wnes i ddechrau.”
– Helen Anderson, myfyrwraig Dysgwr Hyderus, wedi ymuno â BA (Anrh) Busnes (gyda blwyddyn sylfaen)
Beth fyddwch chin ei astudio
- Lleoli, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau
- Dangos yr angen am eglurder a chydlyniad wrth gyflwyno safbwyntiau
- Mabwysiadu arddulliau ysgrifennu a chyflwyno academaidd ar lefel AU
- Rhoi cyflwyniad gan ddefnyddio confensiynau ar gyfer nodi a chyfeirio ffynonellau
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy'n:
- Pontio rhwng lefel 3 a 4
- Cychwyn yn y Brifysgol ym Medi (waeth beth fo'r Brifysgol)
- Meddwl am ddechrau cwrs Rhan Amser neu broffesiynol ond nad yw'n 100% yn siŵr oherwydd cymwysterau isel
- Unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais i'r Brifysgol ond y mae angen iddyn nhw gynyddu eu graddau mynediad
I wneud cais am y cwrs, ewch i'r siop ar-lein.
Addysgu ac Asesu
Asesiad Un (Gwaith Cwrs 50%):
Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio sy'n dangos eu cymhwysedd wrth leoli, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o gyrsiau. Disgwylir iddynt ysgrifennu dau ddarn o waith byr (500 o eiriau) sy'n eu galluogi i gyflwyno eu barn mewn ffordd eglur a chydlynol, yn unol â chonfensiynau academaidd.
Asesiad Dau (Cyflwyniad 50%): Bydd myfyrwyr yn paratoi cyflwyniad; gan ddefnyddio meddalwedd ac adnoddau TGCh i arddangos sut mae'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn ddysgwr hyderus wedi cael eu defnyddio i ddatblygu eu camau nesaf at astudiaeth.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
dyddiadau cyrsiau
Bydd y cwrs yn cymryd lle dros 4 wythnos o ddysgu; 5 awr yr wythnos am 4 wythnos gyda'r asesiad ar y 6ed wythnos. Cyflwynir hwn ar-lein trwy Moodle drwy'r iaith Saesneg yn unig.
Mae'r dyddiadau cychwyn fel a ganlyn;
Mehefin 27 2022
Gorffennaf 25 2022
*Noder* Dim ond unwaith mae unigolion angen archebu’r cwrs, mae gan bob cwrs ddyddiad cychwyn gwahanol ond mae gan bob un yr un cynnwys.