(Cwrs Byr) Ffisiotherapi Cyflwyniad i’r Yrfa
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 10 wythnos
- Lleoliad Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?
Nod y modiwl yw cael y rheiny sy’n ystyried astudio ffisiotherapi i ddeall rhywfaint ar gredoau ac athroniaeth y proffesiwn.
Prif nodweddion y cwrs
- Ennill gwell dealltwriaeth o rôl ffisiotherapydd, gan gynnwys meysydd ymarfer cyffredin megis iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwella eich cyfle i berfformio’n dda wrth wneud cais am le ar raglenni ffisiotherapi ac wrth gael eich cyfweld.
- Gall fod yn astudiaeth academaidd ddiweddar i ymgeiswyr nad ydynt wedi astudio yn y 5 mlynedd diwethaf (sy’n ofyniad wrth ymgeisio am BSc (Anrh) Ffisiotherapi).
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cyflwyniad i'r modiwl, Deall Hunan
- Modelau Myfyrio, Timau ac amrywiaeth
- Deall Fframweithiau Ffisiotherapi, Deddfwriaeth
- Tueddiadau mewn Ffisiotherapi – gwleidyddol, cymdeithasol a moesegol
- Rôl y Ffisiotherapydd
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'r cyfnod archebu ar gyfer y cwrs hwn yn cau wythnos cyn dyddiad dechrau'r cwrs.
Addysgu ac Asesu
Asesu amlddewis ac ymarfer myfyriol.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau'r cwrs
Mawrth 13 2023 (Nos Lun 7-9pm)
- Bydd y sesiwn gyntaf ar y campws gydag wythnosau dilynol ar-lein.