(Cwrs Byr) Ffrangeg

Manylion cwrs

  • Hyd y cwrs 12 wythnos
  • Lleoliad Ar-lein
Eiffel tower in Paris

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae dysgu iaith newydd yn gallu agor llawer o ddrysau. Boed chi eisiau gwella eich rhagolygon gyrfa neu eisiau ymgolli yn niwylliant Ffrainc wrth deithio, mae dysgu’r iaith yn ddewis gwych.

Prif nodweddion y cwrs

  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith.
  • Dysgu gwybodaeth sylfaenol am y Ffrangeg.
  • Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r dosbarth wedi ei anelu at fyfyrwyr nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o'r iaith.

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd syml.
  • Arddangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion dydd i ddydd cyfarwydd a brawddegau sylfaenol iawn.
  • Cyflwyno eu hunain a gofyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â gwybodaeth bersonol fel ble mae rhywun yn byw, beth yw swydd rhywun ayyb.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Ffioedd a chyllid

£150 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr nad ydynt yn Wrecsam

£50 i fyfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

I gael ei gadarnhau