(Cwrs Byr) Galwedigaeth ar gyfer iechyd a llesiant
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 12 wythnos
- Lleoliad Ar-lein, Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs yn eich galluogi i ddeall sut mae’r hyn rydym yn ei wneud yn cael effaith ar ein hiechyd a’n lles. Byddwch yn cymhwyso’r egwyddorion ar eich hunain ac ar eraill.
Cysyniadau fel ymgysylltu galwedigaethol, cydbwysedd galwedigaethol a'r 'ochr tywyll’ o galwedigaeth i gyd yn cael ei harchwilio a byddant yn gysylltiedig â thueddiadau cyfredol mewn ymarfer therapi galwedigaethol.
Prif nodweddion y cwrs
- Deall sut mae’r hyn rydyn ni'n ei wneud fel pobl yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.
- Paratoad gwych i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am gwrs therapi galwedigaethol neu raglen astudio arall sy’n gysylltiedig ag iechyd/gofal cymdeithasol.
- Astudio ar-lein.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd cysyniadau fel ymgysylltu galwedigaethol, cydbwysedd galwedigaethol a galwedigaethau ‘tywyll’ i gyd yn cael eu harchwilio ac yn gysylltiedig â thueddiadau cyfredol mewn ymarfer therapi galwedigaethol.
Bydd y cwrs yn cynnwys:
• cynnwys hunangyfeiriedigar-lein
• 6 seminar ar-lein 1 awr gyda'r nos wedi'u hamserlennu bob 2 wythnos
Addysgu ac Asesu
Mae dwy ran i'r asesiad:
Rhan 1: prawf ar-lein sy'n canolbwyntio ar dermau allweddol sy'n ymwneud â galwedigaeth a gwyddoniaeth alwedigaethol
Rhan 2: traethawd myfyriol 1500 gair yn cymhwyso egwyddorion i chi'ch hun a lleoliad ymarfer
Ffioedd a chyllid
£95
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.