Student on computer

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yw'r rheoliad diogelu data newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig. Pan ddaeth i rym ym mis Mai 2018, rhoddodd fwy o reolaeth a dewis i ddinasyddion dros sut y defnyddir eu data. Mae'n rhaid i bob sefydliad sy'n prosesu data personol gydymffurfio â'r GDPR.

  • Ymunwch â'r cwrs hwn i ddysgu mwy am sut y mae'r rheoliad newydd yn effeithio arnoch chi fel unigolyn, yn ogystal â deall sut fydd angen i'ch cwmni neu ddiwydiant addasu i gydymffurfio â'r rheoliad.
  • • Cynlluniwyd y cwrs hwn gan gyn Bennaeth Polisi Technoleg Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Yr ICO).

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y modiwl hwn yn ymdrin â'r canlynol:

  • Yr hawliau sydd gan unigolion.
  • Y sail gyfreithiol y bydd sefydliad yn ei defnyddio i brosesu data personol.
  • Siwdo-anhysbysu.
  • Asesiadau Effaith Diogelu Data.
  • Data categori arbennig.
  • Preifatrwydd drwy ddylunio a rhagosod. 

Bydd y cwrs hefyd yn ymdrin â sut y mae'r GDPR yn gysylltiedig â'r PECR (Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig). Mae'r PECR yn eistedd ochr yn ochr â'r Ddeddf Diogelu Data a'r GDPR. Maent yn rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebu electronig.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

 

Addysgu ac Asesu

Bydd yr astudiaeth achos drwy ddatblygiad y DPIA, ble bydd myfyrwyr yn cael tasg mewn sesiynau tiwtora ac yn cynhyrchu ac yn adnabod yr angen am DPIA, gan ddisgrifio natur prosesu ac asesu angen a chymesuredd asesiadau effaith diogelu data. Bydd hyn yn cael ei gwblhau gan brawf o fewn y dosbarth, gan archwilio dealltwriaeth p derminoleg a’r defnydd o GDPR.

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

Dyddiadau cyrsiau

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.