(Cwrs Byr) Gemwaith
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 9 wythnos
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Hoffech chi ddysgu’r sgiliau i wneud eich gemwaith Arian eich hun? Bydd y dosbarth nos hwn yn eich tywys trwy’r grefft o ddylunio a chynhyrchu darnau hardd trwy dorri a ffurfio metel, ychwanegu gweadau a nodweddion addurniadol a sut i wneud clustdlysau a breichledi syml. Yn y prosiect terfynol cewch wneud eich modrwy eich hun â charreg ynddi.
Prif nodweddion y cwrs
- Dylunio a chreu eich gemwaith arian eich hun.
- Gweithdai yn ein Hysgol Gelf yn Stryt y Rhaglaw.
- 10 credyd Addysg Uwch ar ôl cwblhau’r cwrs.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i’r broses o ddylunio a gwneud eich gemwaith eich hun, gan gynnwys cynhyrchu syniadau dylunio, ffurfio, llunio a gweadu metalau, yn ogystal â gosod cerrig syml. Cewch arweiniad i gynhyrchu eich syniadau dylunio eich hun gan ddefnyddio dulliau arbrofol wedi’u harwain gan arddangosiadau.
Gofynion mynediad a gwneud cais
MYFYRWYR SY'N DYCHWELYD: Ewch i'r siop ar-lein.
MYFYRWYR NEWYDD: Ewch i'r siop arl-lein.
Mae’r cwrs yn amodol ar isafswm o gyfranogwyr a bydd taliadau yn cael eu talu’n ôl yn llawn os na fydd y cwrs yn recriwtio’r isafswm yma.
Addysgu ac Asesu
Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU.
Ffioedd a chyllid
£150
Mae’r ffi yn cynnwys mynychu a thiwtora gan gynnwys asesu a deunyddiau sylfaenol. Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd y cyfranogwyr yn dewis gweithio gyda deunyddiau ansafonol neu’n defnyddio llawer ohonynt neu mewn diwyg mawr.
Dyddiadau’r Cwrs
Bydd y cwrs byr 9 wythnos hwn yn rhedeg lefel dechreuwyr ar gyfer myfyrwyr newydd ar nos Fawrth a lefel ganolradd ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd ar nos Fercher rhwng 6pm – 8pm yn y blociau canlynol ar draws y flwyddyn:
Bloc 1
Dydd Mawrth 12 fed Hydref 2021 - Dydd Mawrth 7 fed Rhagfyr 2021
Dydd Mercher 13 fed Hydref 2021 - Dydd Mercher 8 fed Rhagfyr 2021
Bloc 2
Dydd Mawrth 1af Chwefror 2022 - Dydd Mawrth 29ain Mawrth 2022
Dydd Mercher 2ail Chwefror 2022 - Dydd Mercher 30fed Mawrth 2022
Bloc 3
Dydd Mawrth 26ain Ebrill 2022 - Dydd Mawrth 21ain Mehefin 2022
Dydd Mercher 27ain Ebrill 2022 - Dydd Mercher 22ain Mehefin 2022
Bloc 4
Dydd Mawrth 5ed Gorffenaf 2022 - Dydd Mawrth 30fed Awst 2022
Dydd Mercher 6ed Gorffenaf 2022 - Dydd Mercher 31ain Awst 2022