(Cwrs Byr) Goruchwyliwr Ymarfer Nyrsio
Manylion cwrs
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
Cynnig hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig i ddod yn oruchwylwyr ymarfer ar gyfer myfyrwyr nyrsio. Mae’r cwrs hwn yn dilyn y canllawiau’r Safonau ar gyfer Goruchwylio ac Asesu Myfyrwyr (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2018).
Prif nodweddion y cwrs
- Dysgu ar-lein i gyd-fynd ag ymrwymiadau eraill eich bywyd.
- Darganfod mwy am rôl goruchwyliwr ymarfer nyrsio a sut i helpu i gynorthwyo myfyrwyr i ddysgu.
- Sut i ddod yn oruchwyliwr ymarfer hyderus ar fyfyrwyr nyrsio.
Beth fyddwch chin ei astudio
Rolau a Chyfrifoldebau
- Amlinelliad o rolau Goruchwyliwr Ymarfer, yr Asesydd Ymarfer a'r Asesydd Academaidd.
- Helpu’r myfyriwr i ddeall sut i gynnig tystiolaeth tuag at ddatblygiad a llwyddiant ar gyfer yr Asesydd Ymarfer a’r Asesydd Academaidd. Pwysigrwydd cadw cofnodion cywir.
- Trosolwg o Safonau goruchwyliaeth ac asesu ar gyfer myfyrwyr NMC (2018). Swyddogaeth y rôl wrth gynnig tystiolaeth ar gyfer yr Asesydd Ymarfer a’r Asesydd Academaidd i bennu datblygiad a llwyddiant y myfyrwyr.
- Atebolrwydd mewn perthynas â dirprwyo priodol yn unol â’r Cod - Safonau ymarfer ac ymddygiad proffesiynol ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chydweithwyr nyrsio’r NMC (2018) a chanllaw Dirprwyo ac Atebolrwydd NMC (2018).
- Ymddwyn fel model rôl wrth feithrin egwyddorion Cod - Safonau ymarfer ac ymddygiad proffesiynol ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chydweithwyr nyrsio’r NMC (2018)
Dysgu Myfyrwyr
- Datblygu perthynas gefnogol a phroffesiynol effeithiol â myfyrwyr.
- Modelau goruchwylio.
- Annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a’u datblygiad.
- Datblygu dealltwriaeth o sut i hwyluso dysg myfyrwyr i fodloni anghenion ystod eang o ddysgwyr myfyrwyr.
- Pennu, ar y cyd â'r Asesydd Practis, lefel briodol o oruchwyliaeth sy'n gymesur
- â lefel cymhwysedd / hyfedredd, gwybodaeth a sgiliau a chyfnod rhaglen y myfyrwyr.
- Annog ymarfer myfyriol i hwyluso datblygiad myfyrwyr unigol o allu a hyder
- Cynllunio profiad dysgu myfyrwyr gan gynnwys addasiadau rhesymol neu ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth a allai fod angen eu bodloni.
- Rhoi adborth effeithiol i alluogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu harfer a'i wella.
- Helpu myfyrwyr i ddatblygu gwytnwch.
- Cefnogi myfyrwyr sy’n codi unrhyw bryderon yn yr amgylchedd dysgu.
Rheoli Pryderon
- Sut i godi pryderon ynghylch ymddygiad, gallu a pherfformiad myfyriwr.
- Cefnogi myfyrwyr sy’n profi anhawster wrth fodloni cynnydd disgwyliedig.
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ac adolygu cynlluniau gweithredu i hwyluso gwelliant mewn ymarfer myfyrwyr.
- Trosolwg o Brotocol Cynllunio Gweithredu Cymru Gyfan
Addysgu ac Asesu
Mae’r asesu’n cael ei wneud drwy ddogfen cymhwysedd lle maent yn goruchwylio Myfyriwr NMC yn ymarferol ar gyfer hyd lleoliad y myfyrwyr nyrsio, bydd angen asesydd practis ar yr ymgeiswyr i lofnodi'r llyfryn cymhwysedd a bydd o leiaf 500 gair o fyfyrio.
Ffioedd a chyllid
Am ddim.