(Cwrs Byr) Gwaith Ieuenctid Digidol - Cyflwyniad i Egwyddorion ac Arferion

youth work students with books

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

12 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r galw am weithwyr ieuenctid i ddylunio a darparu gwaith ieuenctid yn ddigidol wedi cynyddu ers Covid-19. Nod y modiwl hwn yw rhoi cyflwyniad i waith ieuenctid digidol; cyflwyno’r theori sylfaenol iddo ynghyd â rhai o’r cysyniadau allweddol yn ymwneud â’i ddatblygu a’i ddarparu.

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudio ar-lein i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau o ran teulu a gwaith.
  • Caiff cynnwys a deunyddiau’r cwrs eu datblygu a’u cyflwyno gan ddarlithwyr a gweithwyr ieuenctid profiadol, proffesiynol sydd wedi’u cymhwyso gan JNC.
  • Mae’n cysylltu’n ymarferol ag arferion gwaith ieuenctid cyfredol.
  • Dyma gyfle i chi ganolbwyntio ar eich datblygiad proffesiynol parhaus.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Beth yw Gwaith Ieuenctid Digidol a pham fod angen ei wneud?
  • Ieuenctid yn yr oes ddigidol - Datblygiad gwaith ieuenctid digidol
  • Rhwystrau a datrysiadau i Ddiogelu Ymgysylltiad Digidol pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid ar-lein
  • Technolegau ar gyfer gwaith ieuenctid digidol

Er sylw, modiwl academaidd yw hwn ac mae disgwyl astudiaeth annibynnol o 2-3 awr yr wythnos. Mae yna elfennau ymarferol a bydd modd cymhwyso dysgu i ymarfer. Fodd bynnag, nid yw'n gwrs hyfforddi.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Profiad presennol o ymarfer a gwaith ieuenctid yn fantais er mwyn cwblhau gweithgareddau asesu.

Profiad blaenorol o astudio ar Lefel 4 yn fanteisiol.

Addysgu ac Asesu

  • Cwblhau portffolio sy'n dadansoddi cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol gwaith ieuenctid digidol, ac archwilio'r agweddau ymarferol hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn cael eu diogelu ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys: - Datganiad yn dadansoddi cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol gwaith ieuenctid digidol; yn cynnwys beth yw gwaith ieuenctid digidol, rhwystrau i ymgysylltu ar-lein a chryfderau dull gwaith ieuenctid digidol. (1000 o eiriau) - Dadansoddiad SWOT o barodrwydd eu sefydliad ymarfer i ddarparu gwaith ieuenctid digidol (500 gair) - Asesiad risg ar gyfer darparu gwaith ieuenctid digidol (500 gair)
  • Cofnodi a lanlwytho cyflwyniad 10 munud sy'n gwerthuso'r technolegau sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid digidol. Bydd hyn yn cynnwys: - disgrifiad o 2 dechnoleg y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith ieuenctid digidol - gwerthusiad o gryfderau a gwendidau'r technolegau hynny - argymhellion ar gyfer eu defnyddio mewn gwaith ieuenctid digidol. Gall y cyflwyniad gynnwys arddangosiad.
 
Bydd y cwrs hwn yn rhedeg am 12 wythnos, mae hyn yn cynnwys 20 awr o oriau dysgu ac addysgu wedi'u hamserlennu gyda'r tiwtor. Bydd cymysgedd o ddeunyddiau a fydd yn cael eu rhyddhau bob wythnos i weithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun yn ogystal â thiwtorialau a thrafodaethau byw ar-lein.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'r modiwl hwn yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr ieuenctid a chymunedol proffesiynol, gweithwyr cefnogi ieuenctid a gwirfoddolwyr yn y sector. Gall cwblhau'r modiwl arwain at astudiaeth bellach ar y llwybrau BA a MA mewn rhaglenni gwaith ieuenctid a chymunedol ym Mhrifysgol Wrecsam.

Ffioedd a chyllid

£95

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

  • 1af o Fehefin
  • 8fed o Fehefin
  • 15fed o Fehefin
  • 22ain o Fehefin
  • 29ain o Fehefin
  • 6ed o Orffennaf
  • 13eg o Orffennaf
  • 20fed o Orffennaf
  • 27ain o Orffennaf
  • 3ydd o Awst
  • 10fed o Awst
  • 17eg o Awst