Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gefnogi unigolion sy’n ymwneud â rheoli ac arwain busnes. Byddwch yn elwa o rwydweithio â chydweithwyr proffesiynol a dysgu ar y cyd.

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudio ar-lein yn eich amser eich hun.
  • Dod i ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar gynhyrchiant a phroffidioldeb.
  • Cael gwybod am ddulliau i dyfu a gwella eich sefydliad.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno yn dros gyfnod o 8 wythnos a bydd yn mynd i'r afael yn fras â'r canlynol:

  • Cyflwyniad i Wella Cynhyrchiant a Phroffidioldeb
  • Datguddio a rheoli costau cyflenwyr, cyllid, safleoedd a chynhyrchu
  • Adolygu beth mae'r sefydliad yn ei werthu ac am ba bris
  • Cynyddu proffidioldeb drwy brynu'n fwy effeithiol a lleihau gwastraff drwy'r busnes
  • Canolbwyntio ymdrechion gwerthiant ar werthu mwy i gwsmeriaid proffidiol cyfredol a dod o hyd i gwsmeriaid tebyg i werthu iddynt
  • Pecynnau cymorth a thechnegau ar gyfer ehangu eich marchnad a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd
  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, lleihau costau a pharhau'n gystadleuol
  • Cynllunio ar gyfer newid a thwf i wella proffidioldeb y sefydliad

Bydd y ddarpariaeth ar gyfer y cwrs byr wyth wythnos yn cynnwys:

  • 1 x darlith wedi'i recordio bob wythnos
  • Cefnogi atgyfeiriadau i ddeunydd dysgu ar Moodle, dolenni i fideos (e.e. sgyrsiau TED), llyfr Moodle os yw'n briodol a darllen pellach
  • Deunydd i gefnogi darpariaeth 6 x tiwtorial anghydamserol
  • Darpariaeth 2 x fforwm deialogaidd 2 awr o hyd

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs. Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

 

Addysgu ac Asesu

Portffolio - Cofnod dysgu a Dyddlyfr

Ffioedd a chyllid

£50

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r Cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.